Skip to main content

Cynllun Lliniaru Perygl Llifogydd wedi'i gwblhau yn ardal Porth

Turberville Road, Porth - Copy

Mae cynllun Ffyrdd Cydnerth pwysig a fydd yn lliniaru perygl llifogydd ar y briffordd yn Heol Turberville, Porth, bellach wedi'i gwblhau.

Dechreuodd gwaith wedi’i dargedu i gwblhau’r cynllun sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2024. Roedd y cynllun yn cynnwys gwella strwythur cilfach wal flaen bresennol y briffordd.

Mae gwaith gwella hefyd wedi'i gynnal ar sianel y cwrs dŵr presennol a’r seilwaith draenio sydd wedi’i leoli i fyny’r afon, a hynny er mwyn gwella’r broses o gludo dŵr i’r wal flaen newydd.

Cafodd rhan sylweddol o'r gwaith ei gwblhau gan gwmni Calibre Contracting Ltd erbyn diwedd mis Mawrth 2025 – ac mae’r gwaith terfynol, a oedd yn cynnwys gosod ffensys, bellach wedi’i gwblhau.

Cafodd yr holl fesurau rheoli traffig ar hyd Heol Turberville eu symud o'r safle ar ôl i'r contractwr gwblhau'r gwaith.

Cafodd y cynllun ei ariannu gan Gronfa Ffyrdd Cydnerth Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024/25.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi dyrannu £1.5 miliwn i’r Cyngor yn ddiweddar ar gyfer cynlluniau Ffyrdd Cydnerth pellach yn 2025/26, a hynny er mwyn parhau i fynd i’r afael â phroblemau hysbys sy'n ymwneud â llifogydd ar ein priffyrdd.

Mae swyddogion wedi llunio rhestr o gynlluniau i'w datblygu a'u darparu ledled Rhondda Cynon Taf, gan ddefnyddio'r cyllid newydd yma.

Diolch i’r gymuned leol yn ardal Porth am eich cydweithrediad wrth i’r cynllun yn Heol Turberville gael ei gyflawni dros y misoedd diwethaf.
Wedi ei bostio ar 25/04/2025