Skip to main content

Cynlluniau gwaith cydnerthedd llifogydd newydd wedi'u cadarnhau ar gyfer 10 lleoliad allweddol

Resilient Roads grid - Copy

Mae'r Cyngor bellach wedi cwblhau ei Raglen Ffyrdd Cydnerth ar gyfer 2025/26 - a fydd yn dylunio a darparu 10 cynllun lliniaru perygl llifogydd pellach mewn lleoliadau allweddol ar y rhwydwaith priffyrdd. Bydd yn defnyddio cyllid gwerth £1.5 miliwn sydd wedi'i ddyrannu'n ddiweddar gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwelliannau o'r fath yn ystod y flwyddyn ariannol yma.

Cafodd dyraniad y Gronfa Ffyrdd Cydnerth ar gyfer Rhondda Cynon Taf ei gadarnhau ddechrau mis Ebrill 2025, yn rhan o gyllid ehangach ar draws sawl rhaglen trafnidiaeth allweddol sy'n cynnwys teithio llesol, diogelwch ffyrdd, gwella cyfleusterau i gerddwyr ger ysgolion (Llwybrau Diogel mewn Cymunedau) a ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu. 

Mae'r Cyngor wedi bod yn llwyddiannus o ran sicrhau cyllid Ffyrdd Cydnerth sylweddol dros sawl blwyddyn, gan gydweithio'n agos â Llywodraeth Cymru er mwyn darparu prosiectau trafnidiaeth sy'n helpu i addasu i’r newid yn yr hinsawdd a hefyd yn mynd i'r afael ag aflonyddwch a achosir gan dywydd difrifol a stormydd ar ffyrdd prysur.

Mae Swyddogion bellach wedi cwblhau rhaglen cynlluniau Ffyrdd Cydnerth y Cyngor gwerth £1.5 miliwn er mwyn eu datblygu a/neu eu darparu yn 2025/26:

  • Heol y Mynydd, Trewiliam – i'w ddatblygu
  • Heol Castellau, Beddau – i'w ddatblygu
  • Heol Sant Illtyd, Pentre'r Eglwys – i'w ddatblygu
  • Heol Abertonllwyd, Treherbert – i'w ddatblygu a'i ddarparu
  • Heol Sant Luc, Llwyncelyn – i'w ddarparu
  • Ffordd y Fynwent, Porth – i'w ddarparu
  • Y B4278, Heol Gilfach, Tonyrefail – i'w ddarparu
  • Heol Ynys-hir, Ynys-hir i'w ddarparu
  • Yr A4058, Depo Dinas, Cymer – i'w ddarparu
  • Stryd y Felin, Tonyrefail – i'w ddarparu

Bydd rhagor o fanylion mewn perthynas â phob cynllun yn cael eu rhannu â thrigolion a chymunedau wedi iddyn nhw gael eu cadarnhau.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi:  "Rwy'n falch bydd y cyllid yma gwerth £1.5 miliwn gan Lywodraeth Cymru yn ein galluogi ni i ddatblygu 10 Cynllun Ffyrdd Cydnerth pellach drwy gydol 2025/26. Mae’r gronfa yma’n ein helpu ni i dargedu ardaloedd allweddol o’r rhwydwaith ffyrdd yn Rhondda Cynon Taf y gwyddwn ni sydd â hanes o lifogydd - gan ddatblygu cynlluniau er mwyn lliniaru'r perygl.

"Roedd cyllid y llynedd wedi ein galluogi ni i ddarparu sawl cynllun pwysig - ar yr A4058 i'r gogledd o Drehopcyn, yr A4058 Heol y Cymer, Dinas, yr A4059 ger Y Drenewydd yn Aberpennar, ac yn fwyaf diweddar ar Heol Turberville, Porth, ac eraill. Rydyn ni'n parhau i groesawu cymorth gan Lywodraeth Cymru er mwyn ein helpu ni i fwrw ymlaen â rhaglen newydd dros y flwyddyn sydd i ddod.

"Bydd y rhaglen yn cael ei darparu ochr yn ochr â'n buddsoddiad lliniaru llifogydd sy'n elwa ar gyllid ar wahân gwerth £4.52 miliwn gan Lywodraeth Cymru yn 2025/26 - yn ogystal â chyllid cyfatebol o'n rhaglen gyfalaf ni. Bydd hyn yn ein galluogi ni i ddatblygu a/neu ddarparu 27 cynllun pellach, gan ganolbwyntio ar wella cwlferi a systemau draenio o ffynonellau megis cyrsiau dŵr cyffredin, dŵr wyneb a dŵr daear. Cyfrifoldeb Cyfoeth Naturiol Cymru yw llifogydd prif afonydd, a chyfrifoldeb Dŵr Cymru yw llifogydd carthffosydd.

"Rydyn ni wedi cynnal gwaith gwella isadeiledd a gwaith lliniaru llifogydd gwerth dros £100 miliwn ers 2020 - ac er bod Storm Bert ym mis Tachwedd wedi awgrymu bod ein buddsoddiad wedi bod yn llwyddiant o ran lleihau perygl llifogydd i oddeutu 2,200 o eiddo, roedd wedi’n hatgoffa bod tipyn o waith i'w gwblhau hefyd.

"Gyda'n Rhaglen Ffyrdd Cydnerth 2025/26 bellach ar waith, bydd swyddogion yn parhau i ddatblygu'r 10 cynllun sydd wedi'u nodi, ac yn eu paratoi i'w darparu maes o law - er mwyn amddiffyn aelwydydd, busnesau ac isadeiledd."

Wedi ei bostio ar 24/04/2025