Mae cyllid allanol pwysig gwerth £4.52 miliwn wedi'i sicrhau ar gyfer cynlluniau lliniaru llifogydd yn Rhondda Cynon Taf yn 2025/26. Bydd y cymorth yma gan Lywodraeth Cymru yn ategu buddsoddiad y Cyngor yn y maes blaenoriaeth hwn yn ystod y flwyddyn nesaf – gan sicrhau bod modd cynnal gwaith datblygu a/neu gyflawni 27 o gynlluniau pellach.
Does dim modd i'r Cyngor ddefnyddio'r cyllid yma i osod amddiffynfeydd rhag llifogydd o brif afonydd gan mai dim ond Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n cael gwneud hyn. Bydd y cyllid yn canolbwyntio ar wella cwlferi a systemau draenio mewn ardaloedd sydd wedi'u nodi'n rhai sy'n agored i lifogydd o gyrsiau dŵr cyffredin, dŵr wyneb a dŵr daear.
Bob blwyddyn, mae'r Cyngor yn elwa ar gymorth Llywodraeth Cymru i gyflawni gwelliannau o ran draenio tir ac amddiffyn rhag perygl llifogydd mewn cymunedau. Mae swyddogion yn nodi prosiectau, yn llunio achosion busnes ac yn cyflwyno ceisiadau am arian – tra bod arian cyfatebol y Cyngor yn cael ei glustnodi drwy raglen gyfalaf barhaus y priffyrdd.
Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cadarnhau manylion y cyllid a fydd yn cael ei ddarparu i Gyngor Rhondda Cynon Taf yn ystod 2025/26 yn rhan o ddwy o’i rhaglenni – y Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol (£2.83 miliwn) a’r Grant ar Gyfer Gwaith ar Raddfa Fach (£1.69 miliwn).
Mae crynodeb o’r dyraniadau cyllid ar draws y ddwy raglen yma, a’r prosiectau y maen nhw'n eu cwmpasu, i'w weld ar waelod y diweddariad yma.
Meddai'rCynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: “Bydd y cymorth ariannol newydd a sylweddol yma gwerth £4.52 miliwn yn helpu’r Cyngor i barhau i ddarparu rhaglen fawr o gynlluniau lliniaru llifogydd drwy gydol 2025/26. Rydyn ni'n parhau i flaenoriaethu gwaith i ddiogelu cartrefi, busnesau a seilwaith rhag stormydd sy'n digwydd yn fwy aml erbyn hyn, o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd.
“Rydyn ni wedi cyflawni gwaith gwella seilwaith a lliniaru llifogydd gwerth £100 miliwn ers 2020 – ac er i Storm Bert ym mis Tachwedd awgrymu bod ein buddsoddiad wedi llwyddo i leihau’r perygl o lifogydd mewn tua 2,200 eiddo, roedd hefyd yn ein hatgoffa ni bod llawer mwy i’w wneud o hyd. Mae Llywodraeth Cymru a'r Cyngor wedi ymrwymo i ddarparu cyllid sylweddol, er mwyn parhau i gyflawni buddsoddiad wedi'i dargedu a fydd yn lliniaru perygl llifogydd yn ein cymunedau.
“Bydd y dyraniadau gan Lywodraeth Cymru sydd bellach wedi’u cadarnhau ar gyfer 2025/26 yn ein galluogi ni i ddatblygu neu gyflawni 27 o gynlluniau lliniaru llifogydd penodol yn Rhondda Cynon Taf dros y flwyddyn i ddod. Mae hefyd yn bwysig ychwanegu nad yw dyraniad Llywodraeth Cymru (£4.52 miliwn) yn cynnwys cyllid cyfatebol y Cyngor – sydd fel arfer yn 15% ar gyfer y rhaglenni lliniaru llifogydd priodol – mae hyn yn golygu y bydd y buddsoddiad ar y cyd yma ar gyfer ein cymunedau hyd yn oed yn fwy.
“Yn ogystal, mae’r Cyngor hefyd wedi cyflwyno cais i Lywodraeth Cymru am gyllid Ffyrdd Cydnerth, a hynny er mwyn mynd i’r afael â materion sy'n achosi llifogydd mewn lleoliadau allweddol ar ein priffyrdd. Byddai unrhyw geisiadau llwyddiannus yn ein galluogi i fwrw ymlaen â rhaglen waith bellach yn 2025/26, gan adeiladu ar y cynnydd da sydd wedi'i wneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
“Roedd y Cyngor wedi diweddaru ei Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd a’r Cynllun Gweithredu cysylltiedig ym mis Chwefror 2025, gan nodi ein dull trosfwaol o reoli perygl llifogydd dros y chwe blynedd nesaf, a chyhoeddodd ei Adroddiad Trosolwg mewn perthynas â Storm Bert ym mis Mawrth 2025. Ochr yn ochr â hyn, rydyn ni wedi dechrau cam nesaf yr ymchwiliad i'r hyn a ddigwyddodd yn ystod y storm. Mae modd i drigolion gyflwyno tystiolaeth o lifogydd hyd at 28 Ebrill, a hynny er mwyn llywio pum adroddiad Adran 19 yn y dyfodol sy'n berthnasol i gymunedau penodol sydd wedi'u heffeithio gan lifogydd. Bydd y rhain yn pennu’r camau y bwriedir eu cymryd gan yr Awdurdod Rheoli Risg perthnasol ar gyfer pob achos o lifogydd.”
Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordiol
Mae'r rhaglen yma'n cyflawni gwaith cyfalaf i leihau’r perygl o lifogydd, ac mae’r 14 cynllun lleol canlynol wedi cael eu cymeradwyo mewn egwyddor yn 2025/26 ond mae prosiectau yn parhau i fod yn amodol ar sicrhau'r caniatâd priodol, caniatâd datblygu a chymeradwyo'r achos busnes cyn bwrw ymlaen â'r gwaith:
- Heol Tuberville, Porth (parhau â'r cynllun manwl/achos busnes, a chyflawni'r cam adeiladu).
- Cynllun Lliniaru Llifogydd Teras Arfryn, Tylorstown (dyluniad manwl/achos busnes).
- Heol Cefnpennar, Cwm-bach (parhau â'r achosion busnes perthnasol/dyluniad manwl).
- Maes y Ffynnon, Aberaman (parhau â'r cynllun manwl/achos busnes).
- Cynllun Lliniaru Llifogydd Stryd y Gwirfoddolwr, Pentre (parhau â'r gwaith dylunio manwl/achos busnes).
- Cynllun Lliniaru Llifogydd Trehafod (parhau â'r achosion busnes perthnasol, a datblygu'r dyluniad manwl).
- Cynllun Lliniaru Llifogydd Treorci (parhau â'r gwaith dylunio manwl/achos busnes llawn).
- Heol Tirfounder/Heol Bro Teg, Cwm-bach (parhau â'r cam adeiladu)
- Stryd Abertonllwyd, Treherbert (dyluniad manwl a/neu Achos Busnes Llawn)
- Cynllun Lliniaru Llifogydd Blaenllechau (achos amlinellol strategol).
- Heol Llanwonno, Aberpennar (cam adeiladu).
- Rhondda Fawr Isaf (achos busnes y rhaglen).
- Teras Maes-y-deri, Cilfynydd (achos busnes perthnasol).
- Stryd y Buddugwr, Aberpennar (cam adeiladu).
Rhaglen Grant Gwaith ar Raddfa Fach
Mae'r rhaglen yma'n golygu bod modd defnyddio cyllid Llywodraeth Cymru i ddarparu cynlluniau lliniaru llifogydd llai, a allai fod â buddion ehangach hefyd. Mae cyfanswm o 13 o gynlluniau wedi'u nodi yn 2025/26, ynghyd â gwaith gosod telemetreg. Dyma nhw:
- Heol Penrhys (cam adeiladu).
- Sŵn y Nant, Llanharan (cam dylunio).
- Nant Coedcae Tylefforest, Treherbert (cam dylunio).
- Heol Aberdâr, Cwm-bach (cam dylunio).
- Heol Brynmair, Cwmaman (cam adeiladu).
- Nant Trelái, Cilfynydd (cam adeiladu).
- Heol Dynea, Rhydfelen (cam dylunio ac adeiladu).
- Teras Nyth Brân, Porth (cam dylunio ac adeiladu).
- Cwm Alarch, Aberpennar (cam dylunio).
- Parc Fictoria, Aberpennar (cam dylunio).
- Cam Un Dan-y-Cribyn, Ynys-y-bŵl (cam adeiladu).
- Cam Dau Dan-y-Cribyn, Ynys-y-bŵl (cam adeiladu).
Wedi ei bostio ar 11/04/2025