Dathlodd Gordan 'Pop' White ei ben-blwydd yn 102 oed ar ddydd Mercher, 3 Ebrill, yn ystod bwffe i gyn-filwyr a gafodd ei gynnal gan Grŵp Cyn-filwyr Taf-elái yng Nghanolfan Cymuned Rhydfelen. Mae Pop yn gyn-filwr rhyfeddol ac arwrol a wasanaethodd yn y Llynges Frenhinol. Cafodd ei eni yn Rhondda Cynon Taf ar 2 Ebrill, 1923 ac mae ei deulu a'i ffrindiau yn ei garu'n fawr.
Credir mai Pop yw’r cyn-filwr hynaf sy’n byw yn Rhondda Cynon Taf ar hyn o bryd, camp ryfeddol. Ar ei ben-blwydd, ymunodd cyn-filwyr lleol eraill â Pop, ei deulu, a’i ffrindiau i ddathlu ei fywyd, gan gynnwys ei gyflawniadau milwrol a’i gyfraniad eithriadol i’n cymuned.
Roedd yn fore llawn straeon, canu caneuon rhyfel, a bwffe. Daeth Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant Llywodraeth Cymru, Sarah Murphy, i ymuno â’r dathliadau.
Meddai Sarah Murphy, Y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: “Mae wedi bod yn wych cwrdd â Pop a helpu i ddathlu ei ben-blwydd yn 102 oed. Mae cefnogi lles ein cyn-filwyr yn bwysig ac rwy’n gwybod bod Cyn-filwyr Taf-elái a Rhondda Cynon Taf yn gwneud gwaith gwych yn y maes hwn.”
Roedd Pop yn un o wyth o blant i Alfred ac Alice White, a mynychodd Ysgol Babanod Pwll-gwaun ac Ysgol y Bechgyn Maes-y-coed. Yn ei flynyddoedd cynnar, bu’n gweithio yn y diwydiant glo gan ddechrau yng Nglofa Pwll-gwaun cyn symud i Lofa enwog yr Albion. Gadawodd y diwydiant glo yn y 1940au cynnar i ymuno â'r Llynges Frenhinol.
Ar ôl hyfforddiant trylwyr yn HMS Raleigh, hwyliodd ar long SS Strathaird a oedd yn teithio i'r Aifft. Yno, ymunodd â HMS Saunders, gan chwarae rhan hollbwysig yn yr ymosodiad ar yr Eidal trwy warchod carcharorion rhyfel o'r Eidal a gweithio ar Fadau Glanio yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Bu Pop yn rhan o Frwydr Anzio 1944 wrth iddo deithio o Napoli ar hyd y Môr Coch ar 17 Mawrth. Deffrodd i sŵn gynnau sy'n amddiffyn yn erbyn terfysgoedd awyr a sylweddolodd ei fod wedi'i anafu a bod y gwelyau bach ar ochr y starbord wedi'u hanhrefnu. Cafodd llong LCI 273 ei bomio ar y bore tyngedfennol hwnnw, gan arwain at farwolaeth 18 o gyd-filwyr Pop. Cafodd marwolaeth ei ffrindiau effaith enfawr arno.
Yn y diwedd cafodd ei achub gan filwr Americanaidd trwy'r twll taflegryn ar ochr y llong ac fe aethon nhw ag ef ar fwrdd llong ysbyty milwrol yng Ngwlff Napoli, ble ffrwydrodd y llosgfynydd enwog, Mynydd Vesuvius, ychydig o ddiwrnodau ynghynt. Dangosodd Pop ei gydnerthedd yn ystod y misoedd a dreuliodd yn gwella yn yr ysbyty yn Napoli. Mae ei agwedd benderfynol wedi parhau trwy gydol ei fywyd.
Ar ôl y rhyfel, dychwelodd Pop i'r diwydiant mwyngloddio, gan weithio yng Nglofa'r Albion ac yna yng Nglofa'r Maritime yn y 1960au. Ers ymddeol, mae Pop wedi gweithio gyda grwpiau cadét lleol, gan rannu ei straeon a pharhau i ysbrydoli’r cenedlaethau iau. Mae'n mwynhau cwrdd â milwyr eraill yn ystod y sesiynau wythnosol sy'n cael eu trefnu gan Gyngor Rhondda Cynon Taf ar gyfer Grwpiau Cyn-filwyr y Lluoedd Arfog.
Mae Pop hefyd wedi bod yn un o hoelion wyth y Lleng Brydeinig Frenhinol, gan godi miloedd o bunnoedd i’r elusen.
Meddai Gordan 'Pop' White: “Rwy’n gwybod fy mod i'n ffodus i fod yma o hyd. Roeddwn i'n un o ddau a oroesodd y ffrwydrad yn Anzoi. Ychydig flynyddoedd yn ôl, ymwelais â'r harbwr yn Anzoi, lle mae dau o'm cymrodyr wedi'u claddu, i osod blodau er cof amdanynt. Yn anffodus ni ddaethpwyd o hyd i'r lleill.
“Roeddwn i’n gaeth i’r gwely am chwe mis ar ôl y ffrwydrad, a chymerodd flwyddyn i mi wella’n llwyr. Er hynny, rydw i wedi byw bywyd bendigedig. Rydw i wedi priodi, magu teulu a gweithio hyd at fy ymddeoliad.
“Hyd yn oed nawr, rydw i'n parhau i fod yn iach ac yn llawn egni. Dim ond tua chwe mis yn ôl y dechreuais ddefnyddio ffrâm gerdded, ac rwy'n dal i ddeffro am 4am bob bore. Rwy’n cwrdd â chyn-filwyr eraill yn rheolaidd yn rhan o Grŵp Cyn-filwyr Taf-elái sy'n cwrdd bob wythnos ac sydd wedi'i drefnu gan y Cyngor.
“Rydyn ni’n rhannu straeon, yn hel atgofion, ac yn anrhydeddu’r ffrindiau rydyn ni wedi'u colli ar hyd y daith. Yr unig wahaniaeth yw bod stori fy mywyd i yn mynd yn ôl yn bellach na phobl eraill."
Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber BEM, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog: “Mae wedi bod yn anrhydedd ymuno â Gordan 'Pop' White i ddathlu ei ben-blwydd yn 102 oed, ochr yn ochr â'i anwyliaid.
“Rydw i wedi adnabod Pop ers sawl blwyddyn a gallaf dystio’n llwyr i’w fywyd rhyfeddol a’i ymroddiad diwyro i’n gwlad a’n cymuned. Mae ei gydnerthedd a’i gyfraniad ef, yn ystod ei wasanaeth gyda’r Llynges Frenhinol a’i ymdrechion ar ôl y rhyfel, wedi cael effaith ddiymwad ar bob un ohonom.
“Mae straeon a phrofiadau Pop yn parhau i ysbrydoli, ac mae ei ymrwymiad i’r Lleng Brydeinig Frenhinol, drwy godi miloedd o bunnoedd, yn dweud llawer am ei natur drugarog a hael. Mae Pop yn cyn-filwr; ond mae e hefyd yn ffrind annwyl ac yn seren go iawn yn ein cymuned.
“Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cymryd ein hymrwymiad i gefnogi ein Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr o ddifrif. Mae ein Gwasanaeth Cyngor i Gyn-filwyr yn cynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth am ddim i aelodau o'r Lluoedd Arfog, ddoe a heddiw. Mae’n bwysig ein bod ni'n parhau i gefnogi cyn-filwyr lleol, gan sicrhau nad yw eu cyfraniad nhw yn cael ei anghofio.
“Ymunwch â mi i ddymuno pen-blwydd hapus iawn i Pop yn 102 oed. Iechyd da i ti a dyma ddymuno rhagor o flynyddoedd llawn hapusrwydd ac ysbrydoliaeth.”
Mae'r data diweddaraf yn dangos bod mwy na 7,500 o gyn-filwyr y lluoedd arfog yn byw ledled Rhondda Cynon Taf. Yn 2012, daeth y Cyngor yn un o’r awdurdodau lleol cyntaf i lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog, ymrwymiad a gafodd ei ailddatgan yn 2018 ac a osododd esiampl ar gyfer gweddill Cymru. Mae’r cyfamod yn gytundeb cyd-ddealltwriaeth rhwng y gymuned sifil a’r lluoedd arfog ledled y Fwrdeistref Sirol.
Yn 2017, cyflwynwyd Gwobr Aur Cynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn i Gyngor Rhondda Cynon Taf am ein cefnogaeth barhaus i gymuned y lluoedd arfog. Cadwyd y wobr hon ym mis Hydref 2022 yn dilyn asesiad o ymrwymiadau’r Cyngor, gan gynnwys cyflwyno’r Cynllun Gwarantu Cyfweliad ar gyfer Cyn-filwyr a Milwyr Wrth Gefn ym mis Ionawr 2022.
Mae Gwasanaeth Cyngor i Gyn-filwyr y Cyngor yn cynnig ystod eang o gefnogaeth a chymorth ac mae wedi helpu dros chwe chant o gyn-filwyr a'u teuluoedd. Mae’r gwasanaeth yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth diduedd ac ymroddgar AM DDIM i gyn-aelodau ac aelodau cyfredol y Lluoedd Arfog. I siarad â swyddogion ymroddedig yn gwbl gyfrinachol, ffoniwch 07747 485 619 (Dydd Llun i ddydd Gwener, 8.30am i 5pm), neu e-bostiwch: GwasanaethiGynfilwyr@rctcbc.gov.uk
Yn rhan o'r ymrwymiad yma, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o gefnogi dathliadau 80 Mlynedd ers Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop sy'n cael eu cynnal ym Mhontypridd ym mis Mai eleni. Mae'r achlysuron yn cynnwys codi baner Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop a goleuo’r ffagl ym Mharc Coffa Ynysangharad ar 8 Mai, yn ogystal â dathliadau yn y parc ar 10 Mai a fydd yn cynnwys cerddoriaeth fyw, stondinau, gweithgareddau, a llawer yn rhagor. Rhagor o wybodaeth yma.
Os hoffech chi ddysgu rhagor am ymrwymiad ehangach y Cyngor i Gymuned y Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr, ewch i: Cyfamod y Lluoedd Arfog RhCT
Wedi ei bostio ar 09/04/2025