Skip to main content

Ailagor hawl tramwy cyhoeddus yn ardal Beddau ar ôl gosod pont droed newydd

Castellau Road, Beddau - Copy

Mae llwybr lleol oddi ar Heol Castellau yn ardal Beddau bellach wedi ailagor, a hynny ar ôl i'r Cyngor gwblhau cynllun i osod pont droed newydd yn lle'r bont a oedd wedi'i difrodi.

Mae hawl tramwy cyhoeddus (ANT/213/1) yn mynd ar hyd y bont droed newydd (gweler y llun). Mae'r HTC yma'n mynd tua'r gorllewin o Heol Castellau, i gyfeiriad Comin Llantrisant.

Cafodd y llwybr yma ei gau dros dro ar ôl i'r bont droed flaenorol gael ei difrodi, wrth i'r Cyngor baratoi i osod strwythur newydd.

Mae'r cynllun wedi'i gwblhau gan ddefnyddio cyllid cyfalaf y Cyngor ar gyfer Strwythurau Parciau.

Mae Spectrum Construction Services Ltd wedi cyflawni'r gwaith yn llwyddiannus.

Diolch i'r gymuned am eich cydweithrediad.

Wedi ei bostio ar 10/02/2026