Bydd y Cyngor yn ymgymryd â gwaith i osod goleuadau traffig newydd yn Llanilltud Faerdref yr wythnos nesaf. Bydd y goleuadau newydd yn cael eu gosod ger y gyffordd sydd i'w gweld yn y llun ac mae'r gwaith wedi'i drefnu ar gyfer hanner tymor er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl ar y gymuned.
Bydd y gwaith yn para tridiau o ddydd Llun i ddydd Mercher (16-18 Chwefror) ac yn cael ei gynnal ar gyffordd Ffordd Llantrisant â Llys Cadwal a'r Coetir.
Mae angen gosod y goleuadau traffig newydd gan fod y goleuadau presennol wedi cyrraedd diwedd eu hoes. Bydd y goleuadau a'r polion yn cael eu diweddaru yn rhan o'r cynllun yma.
Bydd goleuadau traffig dros dro yn cael eu defnyddio trwy gydol y gwaith i adlewyrchu'r trefniadau arferol ar y gyffordd yma.
Bydd y mesurau rheoli traffig yma ar waith rhwng 9.30am a 3pm ar bob un o'r diwrnodau gwaith, er mwyn osgoi'r cyfnodau teithio prysur yn gynnar yn y bore ac ar ddiwedd y prynhawn.
Mae'r Cyngor wedi penodi Centregreat Ltd i gynnal y gwaith ar y safle, sy'n cael ei ariannu gan Raglen Gyfalaf barhaus y Cyngor ar gyfer y Priffyrdd a Thrafnidiaeth.
Diolch ymlaen llaw i drigolion a defnyddwyr y ffordd am eu cydweithrediad.
Wedi ei bostio ar 11/02/2026