Skip to main content

Ardal Goffa newydd yn swyddogol ym Mynwent Maes-yr-Arian

RCT_Maesyrarian_Cemetery-1593

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi agor Ardal Goffa newydd yn swyddogol ym Mynwent Maes-yr-Arian, Aberpennar, gan gynnig lle heddychlon i'r gymuned orffwys, myfyrio a chofio.

Mae staff o garfan Gwasanaethau Profedigaethau y Cyngor wedi creu'r lle hardd, gyda meinciau a photiau planhigion newydd, yn rhan o'u hymrwymiad i gefnogi holl aelodau'r gymuned sy'n galaru.

Bydd ardaloedd coffa pwrpasol tebyg yn cael eu creu a'u hagor mewn mynwentydd ledled y Fwrdeistref Sirol yn rhan o'r un ymrwymiad yma.

Mae gan yr ardal newydd ym Maes-yr-Arian flwch post gwyn 'Llythyrau i'r Nefoedd' hefyd, lle mae modd i ymwelwyr bostio llythyrau, cardiau, cerddi neu waith celf at eu hanwyliaid ymadawedig. Mae'n ffordd syml ond effeithiol o rannu eich teimladau a theimlo cysylltiad â'r rhai rydych chi wedi'u colli. Mae hyn yn gweithio'n arbennig o dda ar gyfer plant ifainc.

Yn ystod oriau agor y fynwent, mae modd i unrhyw un sy’n teimlo eu bod eisiau neu angen defnyddio’r Ardal Goffa a’r blwch post Llythyrau i’r Nefoedd wneud hynny.

Agorodd y Cynghorydd Scott Emanuel, yr Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Gwasanaethau Profedigaethau, yr Ardal Goffa yn swyddogol yr wythnos yma. Meddai'r Cynghorydd: "Mae carfan Gwasanaethau Profedigaethau Cyngor Rhondda Cynon Taf yn darparu gwasanaeth urddasol ac effeithiol ar ran yr ymadawedig, ond mae hefyd yn gwybod ei bod hi'n bwysig darparu gofal a chysur i'r rhai sy'n galaru.

“Mae Ardaloedd Coffa a Llythyrau i’r Nefoedd yn ffyrdd pwysig o ddarparu’r gofal a’r cysur hynny.

“Mae’r adborth wedi'i dderbyn ers i ni agor yr Ardal Goffa gyntaf ym Mynwent Trealaw ddiwedd y llynedd wedi bod yn hynod gadarnhaol. Mae'r ardal wedi dod yn lle pwysig ar gyfer myfyrio, cofio a gwella i lawer o bobl.

“Gobeithiwn y bydd y lle pwrpasol ym Maes-yr-Arian yr un mor bwysig i’r rhai sydd ei angen. Rydyn ni'n edrych ymlaen at greu rhagor o leoedd sy'n cynnig cysur i fwy o bobl ledled y fwrdeistref sirol.”

Mae'r cyfleusterau newydd ym Maes-yr-Arian, mynwent 120 mlwydd oed yng Nglenbói, wedi agor ychydig fisoedd ar ôl i'r Ardal Goffa gyntaf yn Rhondda Cynon Taf gael ei hagor ym Mynwent Trealaw ddiwedd 2025 ac maen nhw eisoes yn cael eu defnyddio'n helaeth.

Mae'r Gwasanaethau Profedigaethau wedi nodi yn eu Strategaeth 10 Mlynedd “Gwasanaeth Parchus a Chynaliadwy i Alarwyr” bod ganddyn nhw ymrwymiad i agor Mannau Coffa ym mhob un o’u mynwentydd.

Darllenwch y strategaeth yma:

Yn y cyfamser, mae'r ddwy Ardal Goffa ym Mynwent Trealaw a Mynwent Maes-yr-Arian ar agor i bawb sy'n dymuno eu defnyddio. Gweler gwybodaeth am leoliad Maes-yr-Arian a'r oriau agor yma:

Mae blychau post Llythyrau i'r Nefoedd i'w cael ym mynwentydd Trealaw, Maes-yr-Arian, Glyn-taf a Llwydcoed. Dyma wybodaeth am y lleoliad a'r oriau agor yma:

 

 

Wedi ei bostio ar 09/02/2026