Skip to main content

Helpwch ni i lunio Cais Tref Diwylliant y DU ar gyfer Pontypridd

UK Culture bid re size

Mae angen eich help arnon ni er mwyn gwneud Pontypridd yn Dref Diwylliant gyntaf y DU! Mae Tref Diwylliant y DU yn fenter newydd ledled y DU dan arweiniad yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS), sy'n adeiladu ar lwyddiant rhaglen Dinas Diwylliant y DU. Am y tro cyntaf, mae trefi o bob maint yn cael eu gwahodd i arddangos eu creadigrwydd, eu treftadaeth ddiwylliannol a'u straeon unigryw, gyda phwyslais ar ddiwylliant cynhwysol a hygyrch.

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf, ar y cyd â Chyngor Tref Pontypridd a Phartneriaeth y Dref a Diwylliant, yn awyddus i enwebu Pontypridd i fod yn Dref Diwylliant y DU 2028. Bydd y wobr yma’n gyfle i amlygu cyfoeth yr ardal o ran diwylliant a threftadaeth, ac yn rhoi lle i Bontypridd ar fap diwylliannol y DU.

Bydd y dref fuddugol yn derbyn £3 miliwn i gyflwyno rhaglen ddiwylliannol uchelgeisiol yn dros gyfnod o oddeutu chwe mis yn 2028. Yn ogystal â hynny, bydd dwy dref sydd ar y rhestr fer ym mhob categori maint yn derbyn £250,000 yr un i gefnogi'r gwaith o ddatblygu a chyflawni elfennau o'u ceisiadau.

Bydd rhaglen Tref Diwylliant y DU yn ymgyrch ledled y DU, a bydd hi'n gyfle arwyddocaol i ddathlu'r rôl hanfodol y mae trefi yn ei chwarae yn hunaniaeth ddiwylliannol y genedl.

Mae’r Cyngor a’r Cyngor Tref yn awyddus i lunio’r cais gyda chymorth trigolion, busnesau, grwpiau cymuned a sefydliadau eraill. I’r perwyl yma, rydyn ni’n eich gwahodd i fynychu cyfres o weithdai cymunedol lle bydd swyddogion a phartneriaid allweddol yno er mwyn helpu i gynnal trafodaethau am yr hyn y gallai cais Tref Diwylliant ei olygu i Bontypridd.

Ymunwch â ni:

Dydd Mawrth 24 Chwefror: 4pm - 6pm - Llyfrgell Pontypridd

Dydd Iau 26 Chwefror: 11am - 1pm - Parc Arts, Trefforest

Dydd Sadwrn 28 Chwefror: 10.30am - 12pm - Amgueddfa Pontypridd

Yn ystod y sesiynau yma, byddwn ni'n gwahodd cyfranogwyr i rannu eu barn a'n helpu ni i:

  • Nodi'r diwylliant cyffredin sy'n ein clymu ni
  • Dathlu'r bobl, y lleoedd a'r syniadau sy'n gwneud Pontypridd yn arbennig
  • Amlygu creadigrwydd, treftadaeth a photensial y dref yn y dyfodol
  • Ymgysylltu â chymaint o bobl â phosibl a'u cynnwys yn y gwaith

Meddai’r Aelod o’r Cabinet ar faterion Cymunedau, y Cynghorydd Scott Emanuel: “Rydyn ni'n annog pob trigolyn, busnes lleol, artist, trefnydd cymunedol, a phawb sy'n awyddus i wella dyfodol Pontypriddi ddod i'r gweithdai a helpu i lunio'r cais pwysig yma. Dyma gyfle i ddylanwadu ar sut mae ein straeon yn cael eu hadrodd, sut mae diwylliant yn cael ei ddathlu'n lleol, a sut mae modd cynrychioli Pontypridd ar lwyfan genedlaethol. P'un a ydych chi'n rhan o grŵp cymuned, busnes, sefydliad creadigol, neu'n rhywun sydd wrth eich bodd â'r ardal, mae eich syniadau a'ch barn yn hollbwysig i ni.

“Does dim amheuaeth bod ein cais wedi’i atgyfnerthu ymhellach gan y buddsoddiad sylweddol y mae’r Cyngor wedi’i wneud ledled Pontypridd, ac mae’r rhan fwyaf o’r gwaith hwnnw wedi bod ar y cyd â Llywodraeth Cymru. Dros y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi adfer Y Muni yn ganolfan fywiog ar gyfer y celfyddydau a cherddoriaeth, yn ogystal ag ailddatblygu’r adeilad YMa a safle Llys Cadwyn, ac agor preswylfa gofal ychwanegol Cwrt yr Orsaf. Rydyn ni hefyd wedi tynnu’r hen Neuadd Bingo wag i lawr er mwyn creu ardal newydd i’r cyhoedd, gyda safleoedd bws sy’n gwasanaethu ochr ddeheuol y dref. Mae’r gwaith ar ein prosiect ‘plaza ar lan yr afon’ ar hen safle M&S hefyd yn dirwyn i ben. Rydyn ni’n parhau i fuddsoddi ym Mharc Coffa Ynysangharad, sy’n le poblogaidd iawn, ac mae Lido Ponty’n ffynnu yn rhinwedd ei rôl yn Lido Cenedlaethol Cymru.

Rydyn ni'n edrych ymlaen at eich croesawu a gweithio gyda'n gilydd i lunio cynnig sy'n adlewyrchiad gwirioneddol o dref Pontypridd a'n cymunedau ni.”

Wedi ei bostio ar 10/02/2026