Ar 8 Mai 2025, byddwn ni'n nodi 80 mlynedd ers Diwrnod VE. Bydd Rhondda Cynon Taf yn ymuno â'r genedl i ddathlu 80 mlynedd ers diwedd yr Ail Ryfel Byd yn Ewrop. Mae Diwrnod VE 80 nid yn unig yn deyrnged i’r rhai a frwydrodd dros ryddid ond hefyd yn atgof pwerus o’r cydnerthedd a’r undod sydd wedi diffinio ein gwlad ers hynny. Mae'n gyfle i anrhydeddu’r gorffennol a gweithio tuag at ddyfodol sy’n seiliedig ar undod, gobaith a heddwch.
Yma yn Rhondda Cynon Taf, mae cynlluniau ar y gweill i ymuno yn y dathlu. Bydd nifer o achlysuron yn cael eu cynnal ar Ddiwrnod VE, ddydd Iau 8 Mai, a hefyd ddydd Sadwrn 10 Mai.
Bydd y dathliadau yn dechrau am 10am ar 8 Mai wrth i faner Diwrnod VE 80 gael ei chodi, ac wrth i broclamasiwn Diwrnod VE 80 gael ei ddarllen. Bydd hyn yn digwydd y tu allan i swyddfeydd y Cyngor yn Llys Cadwyn, Stryd Taf, Pontypridd. Mae croeso i'r cyhoedd ymuno â ni yn yr achlysur arbennig yma.
Am 9.30pm ar 8 Mai, bydd ffaglau a goleuadau heddwch yn disgleirio ar draws y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, a Thiriogaethau Tramor y DU - gan symboleiddio cryfder parhaus cymunedau ar draws y Gymanwlad.
Bydd ffagl Rhondda Cynon Taf yn cael ei chynnau am 9.30pm ym Mharc Coffa Ynysangharad, Pontypridd. Mae trefnwyr swyddogol Diwrnod VE 80 yn annog pawb i gymryd rhan a sefyll gyda'i gilydd mewn diolchgarwch, gan anrhydeddu'r rhai a gollodd eu bywydau er ein rhyddid. Mae'r ffaglau'n symbol o'n hymrwymiad i heddwch, gan sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn deall ac yn gwerthfawrogi ei werth.
Bydd y dathlu'n parhau ddydd Sadwrn 10 Mai gydag achlysur Diwrnod VE 80 ym Mharc Coffa Ynysangharad, Pontypridd rhwng 11am a 4pm. Am 11am, bydd gwasanaeth wrth y Gofeb Ryfel. Mae croeso i bawb alw heibio, dod â phicnic a mwynhau’r adloniant ar ôl y gwasanaeth. Bydd yn cynnwys cerddoriaeth fyw, stondinau lluniaeth, a gardd gwrw. Yn ogystal â hynny, bydd stondinau gweithgareddau i blant a gwybodaeth am wasanaethau sydd ar gael i aelodau a chyn-filwyr y Lluoedd Arfog.
Yn ogystal â hyn, bydd wal ddringo yn cael ei gosod ar gyfer yr achlysur. Bydd yna hefyd brofiad ogof lle bydd plant ac oedolion yn gallu archwilio system dwnnel sy’n ymestyn ar draws dwy lefel sy’n cynnwys stalactidau a stalagmidau a llawer yn rhagor.
Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Busnes y Cyngor ac Eiddo'r Cyngor:
Mae Diwrnod VE – neu Ddiwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop – yn nodi’r diwrnod pan ddaeth y rhyfel i ben yn Ewrop ac roedd yn drobwynt hynod arwyddocaol tuag at fuddugoliaeth gyffredinol yn yr Ail Ryfel Byd. Mae'n eithriadol o bwysig ein bod yn coffáu’r diwrnod yma, nid yn unig i gofio’r cyfnod anodd a’r aberth gan bobl yn y Deyrnas Unedig a ledled y byd yn y gwrthdaro mwyaf dinistriol yn ein hanes, ond hefyd i sicrhau nad yw cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol yn anghofio.
Rwy'n falch dros ben ein bod yn gallu ymuno â gweddill y DU i gynnig yr achlysuron cofio yma. Byddwn i'n annog trigolion i ddod i achlysur Diwrnod VE 80 ym Mharc Coffa Ynysangharad ddydd Sadwrn 10 Mai i fwynhau’r adloniant a hefyd i gofio’r rhai a frwydrodd dros y rhyddid rydyn ni'n ei fwynhau heddiw.
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cynnig ystod eang o wybodaeth a buddion i gyn-filwyr ac aelodau'r Lluoedd Arfog sy'n gwasanaethu, sy'n amrywio o fynediad am ddim i ganolfannau hamdden i gymorth lles ac iechyd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.
Edrychaf ymlaen at gymryd rhan yn yr achlysuron sydd wedi’u cynllunio yn Rhondda Cynon Taf i goffáu Diwrnod VE 80, ac at groesawu trigolion yno.
Wedi ei bostio ar 04/04/2025