Mae Rhaglen Brentisiaethau arobryn Cyngor Rhondda Cynon Taf ar agor!
Mae gan Gyngor Rhondda Cynon Taf hanes cryf o ddarparu cyfleoedd cyflogaeth drwy amrywiaeth o gynlluniau cyflogaeth, gyda 173 o brentisiaid wedi’u cyflogi ers 2020, ac mae’n ymfalchïo mewn darparu cyfleoedd cyflogaeth o safon.
Mae’r Cynllun Prentisiaeth wedi bod ar waith ers mis Medi 2012, ac yn ystod y cyfnod hwnnw, mae bron 400 o brentisiaid wedi’u cyflogi ar draws y Cyngor.
Mae pob un o’r cyfleoedd prentisiaeth yn cynnig cyflog ac yn sefydlog am ddwy flynedd, maen nhw hefyd yn cynnwys gwyliau blynyddol, buddion staff ac yn rhoi’r cyfle i sicrhau cymwysterau a gydnabyddir gan y diwydiant a phrofiad galwedigaethol hanfodol mewn maes penodol!
Mae’r cyfleoedd sydd ar gael ar gyfer 2025 yn cynnwys:
Technegydd Cerbydau dan Brentisiaeth
Swyddog Cymorth Glanhau Cyfleusterau dan Brentisiaeth
Syrfëwr Adeiladu dan Brentisiaeth
Technegydd Gwyddoniaeth dan Brentisiaeth
Swyddog Cymorth i Fusnesau dan Brentisiaeth – Eiddo'r Cyngor
Swyddog Pensiynau dan Brentisiaeth
Gweithiwr y Fynwent dan Brentisiaeth
Peiriannydd Trydanol dan Brentisiaeth (Ynni)
Swyddog Rheoli Adeiladu dan Brentisiaeth
Swyddog Rheoli Plâu ac Anifeiliaid dan Brentisiaeth
Swyddog Peirianneg Sifil dan Brentisiaeth
Swyddog y Gyflogres ac iTrent dan Brentisiaeth
Meddai’r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Rwy’n hynod falch o gyhoeddi dyddiad agor Rhaglen Brentisiaethau Cyngor Rhondda Cynon Taf ar gyfer 2025.
“Mae Rhaglen Brentisiaethau’r Cyngor wedi bod yn hynod lwyddiannus bob blwyddyn.
“Fel un o gyflogwyr mwyaf yr ardal leol, rydyn ni’n cydnabod y pwysigrwydd o greu swyddi o ansawdd uchel sy’n talu’n dda gyda chyfleoedd dysgu i’n trigolion.
“Mae’r Cyngor yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau, ac mae ein cyfleoedd i brentisiaid yn adlewyrchu hyn gyda swyddi ar gael mewn meysydd sy’n amrywio o beirianneg sifil i gyflogres, rheoli adeiladu i weithredwyr mynwentydd, mae rhywbeth at ddant pawb.
“Ers 2020, mae 173 o brentisiaid eisoes wedi elwa ar y cyfleoedd hyfforddi a datblygu sy’n rhan annatod o’r cynllun, gyda’r rhai a ddechreuodd yn 2023 bellach yn nesáu at ddiwedd eu cynllun ac yn symud ymlaen i ddechrau gyrfa lwyddiannus.
“Rydyn ni’n falch bod 100% o’n Prentisiaid wedi cyflawni eu fframwaith cymhwyster llawn rhwng 2012-2024, bod 93% wedi sicrhau cyflogaeth ar ôl i’w cynllun ddod i ben, gyda dros 79% o’r rhain yn sicrhau cyflogaeth o fewn y Cyngor, tra bod eraill wedi mynd ymlaen i ddysgu pellach.
“Mae creu cyfleoedd prentisiaeth hefyd yn ategu’r cynlluniau gwaith rydyn ni’n eu cynnig i’r rhai sy’n gadael gofal, gan gynnwys eu paratoi ar gyfer gwaith drwy’r cynllun Gofal i Weithio a chynnig lleoliadau gwaith dwy flynedd â thâl a chatalog profiad gwaith helaeth i helpu pobl ifainc i ddod o hyd i waith llawn amser drwy’r cynllun “Cam yn y Cyfeiriad Cywir”.
“Mae’r gwaith y mae staff y Cyngor yn ei wneud yn hanfodol i sicrhau bod ein cymunedau’n cael eu cadw’n ddiogel a bod gwasanaethau hanfodol yn parhau i fod yn hygyrch i drigolion. Rwy’n gobeithio y bydd y gwaith hanfodol mae ein staff yn ei wneud yn ysbrydoli pobl i ystyried gweithio i Gyngor Rhondda Cynon Taf.
Darganfod mwy a gwneus cais yma!
Wedi ei bostio ar 30/04/2025