Ar y 4ydd o Fawrth, croesawodd Ysgol Llanhari ddisgyblion o Goleg Germain St. Ruf yn Guadeloupe, adran dramor ac ardal Ffrengig yn y Caribî. Y llynedd, aeth disgyblion o Ysgol Llanhari i Guadeloupe i ymweld â disgyblion Coleg Germain St. Ruf, ac eleni aeth y Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o’r Cabinet dros Addysg, Cynhwysiant a’r Gymraeg i Ysgol Llanhari i’w croesawu i Gymru, ochr yn ochr â disgyblion a staff.
Daw’r ymweliad flwyddyn ar ôl i griw o ddisgyblion Llanhari sy’n astudio TGAU Ffrangeg a Lefel A Ffrangeg fynd i Guadeloupe am wythnos i ddysgu am dreftadaeth Guadeloupe a’r Iaith Ffrangeg. Mae’r ddwy ysgol wedi bod mewn cysylltiad am dros 4 blynedd, gan gyfnewid galwadau a negeseuon dros Teams yn ystod y cyfnod, a bellach wedi ymweld ag ysgolion a chymunedau ei gilydd yn bersonol i ddysgu am iaith a diwylliant gwlad arall.
Roedd Ysgol Llanhari yn falch o groesawu’r disgyblion, eu dangos o amgylch eu hysgol a’u dysgu am eu hetifeddiaeth Gymreig. Yn ystod eu hymweliad wythnos o hyd, aeth Ysgol Llanhari â’u ffrindiau o Guadeloupe ar deithiau o amgylch Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, Stadiwm Principality a Chastell Caerdydd. Aeth y disgyblion hefyd i Fae Caerdydd, y traeth a bowlio gyda’i gilydd. Yn yr ysgol, wnaeth côr Llanhari berfformio, a wnaethon nhw hyd yn oed dathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda’i gilydd. Perfformiodd disgyblion Coleg Germain St. Ruf ddawns carnifal Caribïaidd i'r disgyblion i ddiolch iddynt am eu cynnal am yr wythnos.
Gwnaeth Ysgol Llanhari dderbyn arian gan gynllun Taith Llywodraeth Cymru er mwyn cynnal y daith gyfnewid a chyfrannu at gostau’r ymweliad.
Dywedodd Meinir Thomas, Pennaeth Ysgol Llanhari: “Mae croesawu disgyblion Guadeloupe i Ysgol Llanhari wedi bod yn anrhydedd. Ar ôl ymweld â nhw llynedd, mae’n wych eu croesawu i’n hysgol a’n cymuned. Fel ysgol, rydym wedi dysgu cymaint am dreftadaeth Guadeloupe, yr iaith Ffrangeg a diwylliannau gwahanol yn ystod y 4 blynedd diwethaf rydym wedi bod mewn cyswllt â nhw, ac rydym yn ffodus iawn o allu cynnig y profiadau hyn i’n disgyblion.
Meddai’r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf dros Addysg, Cynhwysiant a’r Gymraeg: “Am brofiad i Ysgol Llanhari. Roedd yn fraint croesawu’r disgyblion o Guadeloupe i’r ysgol a’u gweld yn profi ein treftadaeth a’n diwylliant. Mae’r cysylltiadau rhwng y ddwy ysgol yn wych a gobeithio y byddan nhw’n parhau yn y dyfodol. Rydym yn ffodus i allu derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru i gynnal yr ymweliadau hyn a fydd o fudd i ddysgwyr mewn nifer o ffyrdd.”
Wedi ei bostio ar 02/04/2025