Mae band eiconig y Parc a'r Dâr wedi'i anrhydeddu â Phlac Glas. Cafodd y band ei sefydlu ym 1893 yng Nghwm-parc ac mae'n dal i ffynnu dros 130 o flynyddoedd yn ddiweddarach.
Mae hanes y band wedi’i gwreiddio’n ddwfn yn y gymuned leol . Daeth llawer o'i gyllid cynnar yn uniongyrchol gan lowyr Glofeydd y Parc a'r Dâr, a gyfrannodd geiniog yr wythnos o'u cyflogau i gefnogi datblygiad y band. Mae'r ysbryd yma o falchder cymunedol a chydsafiad yn parhau i ddiffinio'r band heddiw.
Dros y degawdau, mae Band y Parc a'r Dâr wedi profi llwyddiant eithriadol, gan gynnwys dwsinau o wobrau cyntaf mewn pencampwriaethau. Mae'r band wedi cynrychioli Cymru mewn Pencampwriaethau Cenedlaethol ar fwy nag ugain achlysur, maen nhw wedi cael eu coroni'n Fand Gorau Cymru bymtheg gwaith, ac wedi ennill lle ym Mhencampwriaethau Ewrop bedair gwaith.
Maen nhw wedi parhau i brofi llwyddiant yn yr 21ain ganrif, gan sicrhau teitlau Pencampwr Band Dosbarth 1af yn 2004 a 2005, cipio’r ail safle yn Rowndiau Terfynol y Pencampwriaeth Dosbarth Cyntaf Genedlaethol yn 2004, ac ennill lle ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol Prydain Fawr yn Neuadd Frenhinol Albert yn 2006. Yn fwy diweddar, aeth y band ati i gynrychioli Cymru yn rowndiau terfynol y Pencampwriaeth Ail Ddosbarth Genedlaethol yn 2014, daethon nhw'n ail yng Nghynghrair y Bandiau Pres yn 2015, ac yn 2017 fe'u coronwyd yn Bencampwr Band Dosbarth 1af Cymru, gan adennill statws Pencampwriaeth mewn pryd ar gyfer ei ben-blwydd yn 125 oed.
Gyda channoedd o berfformiadau ledled y DU ac Ewrop, a mwy na 250 o ddarllediadau radio a theledu, mae Band y Parc a'r Dâr wedi cael ei arwain gan rai o'r arweinwyr mwyaf uchel eu parch ym myd y bandiau pres. Mae ei hanes rhyfeddol hyd yn oed wedi'i gofnodi mewn cyhoeddiad pwrpasol, A Life Divine.
Roedd y Cynghorydd Scott Emanuel, Aelod o'r Cabinet â chyfrifoldeb ar y cyd dros Gymunedau, yn bresennol yn ystod y dadorchuddiad a chanmolodd gwaddol y band, gan ddweud:
Mae Band y Parc a'r Dâr yn cynrychioli’r gorau o’n treftadaeth ddiwylliannol. Mae eu cyflawniadau dros fwy na chanrif yn dyst i'w rhagoriaeth gerddorol ac i gryfder, balchder a chydnerthedd ein cymunedau. Rydyn ni'n hynod falch o ddathlu eu hanes nodedig a'u llwyddiant parhaus gyda'r Plac Glas yma.
Wrth i'r band edrych tua'r dyfodol, mae'r plac glas yn cymryd y lle blaenaf yn yr ystafell fandiau yng Nghanolfan Gerdd y Tabernacle, Treorci. Bydd yn parhau i ysbrydoli cenedlaethau newydd o gerddorion wrth anrhydeddu'r traddodiadau cyfoethog a luniodd ei hanes rhyfeddol.
Mae Cynllun Placiau Glas Rhondda Cynon Taf yn dathlu treftadaeth y Fwrdeistref Sirol drwy osod placiau glas sy'n coffáu pobl sydd wedi cyfrannu at hanes yr ardal ar adeiladau lle'r oedden nhw'n gweithio, byw neu berfformio. Mae'r Cynllun Placiau Glas yn un o sawl ffordd y mae treftadaeth gyfoethog ein bwrdeistref sirol yn cael ei chadw'n fyw.
Mae Carfan Treftadaeth y Cyngor yn derbyn enwebiadau ar gyfer placiau glas drwy gydol y flwyddyn. Mae modd gofyn am wybodaeth ynghylch sut i enwebu unigolion drwy gysylltu â'r Gwasanaeth Treftadaeth drwy e-bostio GwasanaethTreftadaeth@rctcbc.gov.uk. Mae lleoliad y Placiau Glas a llu o wybodaeth arall i'w cael ar wefan www.eintreftadaethrhct.com
Wedi ei bostio ar 11/12/2025