Mae Aelodau o'r Cabinet wedi trafod y broses gosod cyllideb ar gyfer 2025/26, yn dilyn ail gam yr ymgynghoriad cyhoeddus. Mae bellach yn argymell y caiff y strategaeth ddrafft ei chytuno gan Aelodau Etholedig yng Nghyfarfod o’r Cyngor Llawn ym mis Mawrth.
Bu'n rhaid i broses gosod cyllideb y Cyngor ar gyfer 2025/26, sydd wedi bod yn rhaglen waith barhaus drwy gydol y flwyddyn, fynd i'r afael â bwlch ariannu cychwynnol gwerth £35.7 miliwn. Rhagamcanwyd y bwlch yma yn y gyllideb gan swyddogion yn ystod eu modelu ariannol cychwynnol, fel yr adroddwyd yn y Cynllun Ariannol Tymor Canolig ym mis Medi 2024. Roedd y sefyllfa yma'n adlewyrchu'r heriau ariannol parhaus ledled Llywodraeth Leol, gan gynnwys pwysau costau byw yn parhau'n uchel iawn.
Arweiniodd gwaith cynnar yn ystod y flwyddyn ar fesurau lleihau’r gyllideb at £10.28 miliwn o arbedion parhaol wedi’u nodi a’u hadrodd gan swyddogion ym mis Tachwedd 2024 – tra bod setliad dros dro mwy ffafriol Llywodraeth Leol ym mis Rhagfyr yn nodi y bydd Rhondda Cynon Taf yn derbyn cynnydd o 4.8% yn y cyllid y flwyddyn nesaf. Ochr yn ochr â hyn, roedd gwaith yn parhau i ddiweddaru gofynion y gyllideb sylfaenol yng ngoleuni pwysau parhaus ar draws gwasanaethau, ac adroddwyd ar hyn i'r Aelodau ym mis Ionawr 2025.
O ystyried yr holl ffactorau yma, gweddill y bwlch yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf oedd £6.8 miliwn – y sefyllfa y datblygwyd Strategaeth y Gyllideb ddrafft arni. Mae elfennau allweddol o'r strategaeth wedi'u cynnwys ar waelod yr eitem newyddion yma. Cynhaliwyd ail gam yr ymgynghoriad ar y gyllideb rhwng 23 Ionawr a 7 Chwefror, 2025, a roddodd gyfle i drigolion a rhanddeiliaid roi eu barn ar y cynigion yn y strategaeth ddrafft.
Ddydd Mercher, 19 Chwefror, trafododd y Cabinet yr adborth gan dros 400 o bobl yn yr ail gam o'r ymgynghoriad yma. Mae crynodeb o’r ymatebion a dderbyniwyd o’r ystod o weithgareddau a gyflawnwyd wedi’i gynnwys fel Atodiad i adroddiad Cabinet dydd Mercher.
Yn ystod cyfarfod dydd Mercher, cynigiwyd cynnydd o 4.7% yn Nhreth y Cyngor, sy’n debygol o fod yr ail gynnydd lleiaf yng Nghymru. Mae eiddo yn Rhondda Cynon Taf yn talu bron i £300 yn llai o Dreth y Cyngor fesul annedd ar gyfartaledd, o gymharu â chyfartaledd Cymru.
Byddai'r arian a godwyd yn cynyddu’r adnoddau parhaol sydd ar gael i'r Cyngor i baratoi'n rhagweithiol ac ymateb i ddigwyddiadau tywydd mawr, tra ar yr un pryd yn lleihau'r ddibyniaeth ar arian unwaith ac am byth wrth osod y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf. Cafodd y diwygiad yma ei gytuno gan Aelodau'r Cabinet.
Cytunodd y Cabinet ar Strategaeth y Gyllideb ddrafft gyda’r diwygiad uchod, ac mae’n argymell yn awr ei bod yn cael ei chymeradwyo yng nghyfarfod llawn o'r Cyngor yn y cyfarfod ddydd Mercher, 5 Mawrth. Bydd Aelodau Etholedig yn pennu cyllideb derfynol 2025/26 yn y cyfarfod hwnnw.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Yn dilyn ail gam yr ymgynghoriad cyhoeddus, mae Aelodau’r Cabinet bellach wedi cytuno ar fanylion y Strategaeth Gyllideb ddrafft – ac wedi argymell bod Aelodau Etholedig yn ei chymeradwyo ar 5 Mawrth. Byddai hyn yn sicrhau bod y Cyngor yn gosod cyllideb sy'n gytbwys yn gyfreithiol ar gyfer 2025/26, hynny o fewn yr amserlen ofynnol.
“Mae’r broses gosod cyllideb eleni wedi bod yn broses drylwyr gan swyddogion unwaith eto. Roedd y bwlch cyllidebol o £35.7 miliwn a adroddwyd ym mis Medi yn dangos maint yr her ariannol a wynebir – ac mae hyn ar gefn y Cyngor yn wynebu ei fylchau cyllidebol mwyaf erioed yn y ddwy flynedd ddiwethaf. Rydyn ni'n ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am gydnabod hyn ac am gymryd camau gweithredu i amddiffyn ein gwasanaethau cyhoeddus allweddol drwy ddarparu cyllid ychwanegol. Mae hyn wedi lleihau rhywfaint o'r baich yn y tymor byr, er ein bod ni'n cydnabod bod y rhagolygon tymor canolig yn parhau i fod yn heriol.
“Mae ein hymagwedd ariannol gyfrifol wedi ein helpu i gyrraedd y sefyllfa bresennol – a hynny drwy ymgymryd â gwaith modelu ariannol a nodi arbedion effeithlonrwydd yn gynnar yn y broses o osod y gyllideb. Cafodd mwy na £10 miliwn mewn mesurau lleihau’r gyllideb eu cynnwys mor gynnar â mis Tachwedd, gan ganiatáu gwaith pellach i ddod ag arbedion newydd gwerth £5.75 miliwn ymlaen. Rydyn ni'n cydnabod ei bod yn fwyfwy anodd nodi a chyflawni arbedion effeithlonrwydd ar y raddfa yma o flwyddyn i flwyddyn – gyda £29 miliwn o arbedion o’r fath wedi’u gwneud yn ystod y flwyddyn yma a’r llynedd. Unwaith eto, bu’n ymdrech eithriadol i nodi’r lefel yma o arbedion heb effeithio ar ein gwasanaethau rheng flaen hanfodol a gwerthfawr. Rhaid i mi gydnabod ymdrechion ein holl aelodau o staff i allu cyflawni mesurau o'r fath ac ar y fath raddfa.
“Mae gan Strategaeth Gyllideb ddrafft ar gyfer 2025/26 lawer o elfennau cadarnhaol – er enghraifft, ariannu ein hysgolion yn llawn gyda dyraniad ychwanegol gwerth £14 miliwn ar gyfer y flwyddyn nesaf, a chynyddu ein hadnoddau parhaol ymhellach i baratoi ar gyfer digwyddiadau tywydd mawr. Byddai ein cynnig ar gyfer Ffioedd a Thaliadau yn sicrhau eu bod yn parhau’n gystadleuol o’u cymharu â chynghorau eraill, tra bydd y cynnydd o 4.7% yn Nhreth y Cyngor yn debygol o fod yn un o’r isaf yng Nghymru o hyd. Mae setliad llywodraeth leol Llywodraeth Cymru wedi sicrhau, er gwaethaf 14 mlynedd o galedi a’r heriau parhaus o ran costau byw, bod modd i ni ddiogelu gwasanaethau allweddol cymaint â phosibl.
“Hoffwn ddiolch i drigolion a gymerodd ran yn ein prosesau ymgynghori ar y gyllideb flynyddol, gyda mwy na 1,100 o ymatebion ar draws y ddau gam. Mae Aelodau'r Cabinet wedi trafod yr holl adborth gwerthfawr a dderbyniwyd, ac fe’i defnyddiwyd fel ffactor allweddol yn eu penderfyniadau drwy gydol y broses.”
Elfennau allweddol o'r Strategaeth Gyllideb ddrafft
Mae ariannu ysgolion bob amser wedi bod yn flaenoriaeth, hyd yn oed pan fo'r Cyngor wedi wynebu heriau ariannol heb ei debyg. Roedd y Cynllun Ariannol Tymor Canolig yn modelu cynnydd yn seiliedig ar ofynion chwyddiant (sy'n gysylltiedig â chyflogau ysgolion ac nad ydyn nhw'n gysylltiedig â chyflogau ysgolion) yn cael eu hariannu – gyda'r angen i ysgolion eu hunain ddelio ag unrhyw bwysau. Serch hynny, mae'r Strategaeth Gyllideb ddrafft yn cynnig ymdrin â'r holl bwysau ar y gyllideb, gan ariannu ein hysgolion yn llawn gyda chynnydd cyffredinol yn y cyllid o £14 miliwn (7%).
Mae swyddogion wedi nodi arbedion effeithlonrwydd drwy gydol y flwyddyn, sydd wedi'u trafod. Mae hyn yn cynnwys dros £10 miliwn mewn mesurau lleihau cyllideb a adroddwyd ym mis Tachwedd, a £5.75 miliwn ychwanegol o fesurau a nodwyd yn fwy diweddar. Mae hyn wedi cael ei gyflawni trwy fesurau effeithlonrwydd cyffredinol, taliadau cyfalaf wedi'u diweddaru a lefelau cyllid y mae modd cael llog arnyn nhw yn y gyllideb, ac ailstrwythuro gwasanaethau. Mae'r gwaith yma wedi diogelu ein gwasanaethau rheng flaen.
Mae’r strategaeth yn cynnig bod yr holl Ffioedd a Thaliadau yn destun cynnydd safonol o 5% (gyda rhai yn destun triniaeth benodol ac eraill wedi’u rhewi), gan gydnabod y cynnydd mawr yn sylfaen costau’r Cyngor sy’n parhau i gynyddu lefel y cymhorthdal y mae’r Cyngor yn ei ddarparu.
Mae'r Cyngor bob amser yn gweithredu agwedd gyfrifol tuag at osod lefelau treth y Cyngor, gan gydbwyso'r angen i ddiogelu gwasanaethau allweddol a modd trigolion i dalu. Bydd angen i bob Cyngor yng Nghymru godi eu Treth y Cyngor flwyddyn nesaf, a'r cynnydd arfaethedig ar gyfer Rhondda Cynon Taf yw 4.7%. Mae'n debygol y bydd y cynnydd yma ymhlith yr isaf yng Nghymru.
Wedi ei bostio ar 24/02/2025