Skip to main content

Noson Tân Gwyllt: Byddwch yn ystyriol o eraill ar 5 Tachwedd

CYM Veterans Bonfire Night

Wrth i ni baratoi i ddathlu Noson Tân Gwyllt trwy gynnal arddangosfeydd a dathliadau lliwgar, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn annog trigolion i fod yn ystyriol o eraill gan fwynhau'r dathliadau mewn modd cyfrifol a chyda thosturi.

Ar y Pumed o Dachwedd, cadwch ein cyn-filwyr mewn cof.

Er bod nifer o bobl yn mwynhau gwylio tân gwyllt, dydy'r stori ddim yn wir i bawb. Mae’r synau uchel a’r goleuadau sy’n fflachio yn dwyn atgofion o frwydro a thrawma i’r cof ar gyfer nifer o'n cyn-filwyr lleol sy'n byw gydag Anhwylder Straen wedi Trawma (PTSD). Mae nifer o gyn-filwyr yn wynebu gor-bryder, pyliau o banig ac ofn ar noson tân gwyllt.

Yn ôl Help the Heroes, roedd arolwg barn YouGov yn 2023 yn nodi bod:

  • 74% o gyn-filwyr o blaid cyflwyno cyfyngiadau mwy llym yn ymwneud â phryd mae modd cynnau tân gwyllt.
  • 67% o blaid cyflwyno gostyngiad yn nifer y diwrnodau lle mae modd gwerthu tân gwyllt i'r cyhoedd.
  • 23% wedi dweud bod tân gwyllt wedi sbarduno profiad negyddol iddyn nhw, boed hynny'n teimlo'n nerfus ac yn or-wyliadwrus, yn ogystal â phyliau o banig sylweddol.

Dyma gyflwyno Cod Tân Gwyllt Help for Heroes – ‘Firework Heroes Code’

Er mwyn sicrhau bod Noson Tân Gwyllt yn fwy diogel ac yn fwy cynhwysol, dyma annog trigolion i ddilyn Cod Tân Gwyllt Help for Heroes – ‘Firework Heroes Code’:

  • Byddwch yn ystyriol o eraill – ystyriwch sut byddai'r tân gwyllt yn effeithio ar bobl yn yr ardal gyfagos.
  • Dewiswch arddangosfeydd cyhoeddus – ewch i achlysuron sydd wedi’u trefnu, yn hytrach na chynnau tân gwyllt gartref.
  • Rhowch rybudd ymlaen llaw – rhowch wybod i gymdogion os ydych chi'n bwriadu cynnau tân gwyllt. Mae anfon neges gyflym ar grŵp WhatsApp neu Facebook lleol yn gallu helpu eraill i baratoi a sicrhau bod strategaeth ymdopi yn ei lle.
  • Oes angen y sŵn? - beth am ystyried defnyddio tân gwyllt tawel neu gynnal sioeau golau laser?
  • Ystyriwch gynnig cymorth i eraill - os ydych chi'n credu bod rhywun wedi cael ei effeithio gan dân gwyllt, helpwch nhw i deimlo mor ddiogel a chyfforddus â phosibl a’u hannog nhw i geisio cymorth proffesiynol.

Mae modd dysgu rhagor am y Cod Tân Gwyllt yma: The Firework Heroes Code | Help For Heroes

Meddai Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog: “Mae Noson Tân Gwyllt yn achlysur i'w ddathlu, mae hefyd yn gyfle i ddangos caredigrwydd a bod yn ystyriol o’r rhai sydd o’n cwmpas adeg yma o'r flwyddyn – yn enwedig ein cyn-filwyr a’r rhai sy'n dioddef ag Anhwylder Straen wedi Trawma.

“Drwy ddilyn Cod Tân Gwyllt Help for Heroes, mae modd i ni gyd chwarae ein rhan wrth i ni sicrhau bod dathliadau 5 Tachwedd yn fwy diogel, yn fwy cynhwysol, ac yn dangos parch i bawb.

“Gyda’n gilydd, mae modd i ni fwynhau’r dathliadau gan gadw’r cyn-filwyr hynny sydd wedi gwasanaethu dros ein gwlad mewn cof.”

Os ydy Noson Tân Gwyllt yn achosi teimladau annifyr i chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod, mae cymorth ar gael:

Mae Gwasanaeth Cyngor i Gyn-filwyr Cyngor Rhondda Cynon Taf yn rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth diduedd i aelodau o Gymuned y Lluoedd Arfog yn Rhondda Cynon Taf, a hynny'n rhad ac am ddim.

P'un a ydych chi'n gwasanaethu yn y lluoedd arfog ar hyn o bryd, neu wedi gwasanaethu yn y gorffennol,  cewch chi a'ch teulu fanteisio ar ein gwasanaeth am gyngor a chymorth.

Cyfeiriad E-bost: GwasanaethiGynfilwyr@rctcbc.gov.uk

Ffôn: 07747485619 (dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am i 5:00pm)

Gwasanaeth Cyngor i Gyn-filwyr | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Wedi ei bostio ar 04/11/2025