Skip to main content

Cwblhau tri cham yn rhan o gynllun gwella seilwaith draenio yn Aberpennar

Victor

Yn ddiweddar, mae'r Cyngor wedi cwblhau gwaith atgyweirio sylweddol i'r seilwaith draenio yn Aberpennar – ac mae trydydd cam y gwaith bellach wedi'i gwblhau.

Mae'r cynllun wedi cael ei ariannu drwy Raglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru, gydag arian cyfatebol gwerth 15% gan y Cyngor.  Mae'r cynllun yn ei gyfanrwydd, sy'n cynnwys tri cham, yn cynrychioli buddsoddiad cyfunol gwerth dros hanner miliwn o bunnoedd.

Cafodd cam cyntaf y gwaith ei gynnal yn 2024. Roedd hyn yn cynnwys atgyweirio'r rhwydwaith draenio yn Stryd y Buddugwr, Stryd y Clogwyn, Stryd Eva, Stryd y Ffrwd a’r Stryd Fawr. Cafodd yr ail gam ei gwblhau yn gynharach yn 2025, gan ganolbwyntio ar atgyweiriadau yn Stryd y Ffrwd, y Stryd Fawr a Stryd Pryce.

Dechreuodd gwaith cam tri ym mis Awst 2025 a chafodd y gwaith ei gwblhau yn ddiweddar ym mis Hydref 2025. Cafodd y gwaith yma ei gwblhau gan Garfan Gofal y Strydoedd RhCT a'r is-gontractwr Arch Services Ltd.

Roedd y gwaith yn cynnwys gosod pibellau dwbl newydd ar gyffordd Stryd y Clogwyn â’r Stryd Fawr, gan hefyd osod pibell sengl newydd sy'n fwy o ran ei maint er mwyn cynyddu capasiti’r rhwydwaith.  Cafodd gwaith ail-leinio pibellau ei gynnal yn y Stryd Fawr hefyd.

Daeth yr holl fesurau rheoli traffig i ben ar ôl cwblhau'r gwaith – gan gynnwys trefniadau cau ffordd yn Stryd y Clogwyn a'r trefniadau traffig unffordd dros dro a gyflwynwyd mewn sawl stryd.

Mae'r Cyngor yn parhau i weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru i gyflawni mesurau gwrthsefyll llifogydd yn ein cymunedau lleol, gyda chyllid gwerth tua £6 miliwn wedi'i sicrhau ar gyfer 2025/26 (nid yw hyn yn cynnwys cyllid cyfatebol y Cyngor).

Mae'r cyllid yma wedi'i sicrhau trwy'r Grant Gwaith Graddfa Fach, y Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol a'r Gronfa Ffyrdd Cydnerth.

Diolch i'r gymuned am eich cydweithrediad yn ystod pob cam o'r gwaith yn Aberpennar, sydd wedi gwella'r gallu i wrthsefyll llifogydd yn yr ardal leol.

Wedi ei bostio ar 03/11/2025