Dyma roi gwybod i drigolion ardal Pentre y bydd gwaith yn cael ei gynnal yn y gymuned dros yr wythnosau nesaf, a hynny i lywio Cynllun Lliniaru Llifogydd mawr ar gyfer ardal Pentre.
Mae cyfres o fesurau gwrthsefyll llifogydd wedi'u cyflwyno yn ardal Pentre dros y blynyddoedd diwethaf, a bydd y Cynllun Lliniaru Llifogydd sydd ar y gweill yn cynrychioli buddsoddiad pellach gwerth miliynau o bunnoedd mewn seilwaith lleol. Bydd yn cael ei gyflwyno'n raddol dros nifer o flynyddoedd, er mwyn amddiffyn aelwydydd a'r gymuned ymhellach rhag y risg o lifogydd.
Mae'r cynllun mawr yn ei gam dylunio ar hyn o bryd, sy'n cael ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru.  Mae gwaith dylunio yn cael ei lywio gan waith ymgynghori a gynhaliwyd gyda'r gymuned yn ystod haf 2023 yn ogystal ag adroddiad Adran 19 o dan y Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr. Roedd yr adroddiad wedi'n helpu ni i ddeall yr hyn a achosodd llifogydd lleol yn ystod Storm Dennis.
O ddydd Mercher, 29 Hydref, mae arolwg drôn wedi bod yn cael ei gynnal gan gontractwr sydd wedi'i benodi gan y Cyngor, Kestrel Surveys. Mae disgwyl i’r gwaith yma bara wythnos.
Bydd arolwg topograffig ac arolwg draenio yn cael eu cynnal yn ystod yr wythnos sy'n dechrau dydd Llun, 3 Tachwedd. Bydd y rhain yn cael eu cynnal gan John Vincent Survey ac Arch Utilities yn y drefn honno - a bydd pob arolwg yn para tua phedair wythnos.
Bydd y gwaith yn cael ei gynnal ledled ardal Pentre – mewn sawl stryd gan gynnwys Coedlan St Stephen, Stryd Margaret, Stryd Albert a Stryd Baglan.
Dydyn ni ddim yn rhagweld y bydd y gwaith yn tarfu'n fawr ar y gymuned, ond bydd angen goleuadau traffig dros dro er mwyn cynnal elfennau o'r arolwg draenio.
Mae gwaith lliniaru llifogydd yn parhau i fod yn flaenoriaeth bwysig i'r Cyngor, ac mae'r Cyngor wedi sicrhau cyllid gwerth tua £6 miliwn gan Lywodraeth Cymru yn 2025/26 i ddatblygu a chyflawni cynlluniau lleol yn rhan o'r Grant Gwaith Graddfa Fach, y Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol a'r Gronfa Ffyrdd Cydnerth.
Diolch ymlaen llaw i drigolion Pentre am eich cydweithrediad yn ystod y gwaith sydd ar ddod.
			Wedi ei bostio ar  31/10/2025