Bydd trigolion Llwyncelyn yn sylwi ar waith i gyflawni cyfres o welliannau draenio yn Nheras Nyth Brân dros yr wythnosau nesaf.
Mae'r gwaith yn cael ei ariannu drwy Raglen Grant Gwaith Graddfa Fach Llywodraeth Cymru, ynghyd â chyfraniad arian cyfatebol gan y Cyngor.
Bydd y gwelliannau'n ceisio mynd i'r afael â'r broblem hysbys yn y stryd hon, sydd wedi'i heffeithio gan lifogydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf – gan gynnwys yn ystod Storm Bert ym mis Tachwedd 2024.
Bydd y gwaith yn dechrau ddydd Llun, 3 Tachwedd, a bydd y gwaith yn para oddeutu pum wythnos.
Nod y gwaith yw cywiro sawl diffyg yn y rhwydwaith cwrs dŵr â chwlfer yn Nheras Nyth Brân, sy'n gysylltiedig â Nant Llwyncelyn.
Mae contractwr y Cyngor, Arch Drainage Ltd, wedi asesu cyflwr y seilwaith ac mae angen cwblhau cyfres o atgyweiriadau strwythurol – a fydd yn dechrau'n fuan.
Dydyn ni ddim yn rhagweld y bydd y gwaith yn tarfu'n fawr ar y gymuned – fodd bynnag, bydd mesurau rheoli traffig ar waith yn yr ardal leol o bryd i'w gilydd fel bod modd i'r contractwr gael mynediad i'r tyllau archwilio yn y briffordd.
Diolch ymlaen llaw i'r gymuned am eich cydweithrediad tra bod y gwaith hanfodol yma'n cael ei gwblhau.
Wedi ei bostio ar 30/10/2025