Mae'r Cyngor wedi darparu diweddariad mewn perthynas â gwaith diweddar i adeiladu dwy bont droed yn Blaenllechau, yn rhan o waith adeiladu Llwybr Teithio Llesol Cwm Rhondda Fach.
Dechreuodd gwaith cam pedwar yn ystod haf y llynedd, gan barhau â'r llwybr heibio Glynrhedynog a thrwy Blaenllechau - ar hyd hen linell y rheilffordd.
Dysgwch ragor am waith Cam Pedwar, a'r Llwybr Teithio Llesol yn ei gyfanrwydd, yma.
Er mwyn cysylltu'r cam yma â'r gwaith sydd wedi'i gwblhau yn y Maerdy (Cam Dau), mae pont droed 'Gogledd Blaenllechau' wedi'i gosod yn ddiweddar - gweler y llun ar y chwith.
Mae'r strwythur 30 metr o hyd yma wedi llewni bwlch lle y bu pont rheilffordd rhwng y Maerdy a Glynrhedynog, ar ran anghysbell o'r llwybr teithio llesol, i'r gogledd o Ysgol Gymuned Glynrhedynog.
Mae'r ail strwythur, pont droed 'De Blaenllechau' yn bont droed bach, naw metr o hyd, sy'n cysylltu Stryd yr Afon, Glynrhedynog â'r llwybr teithio llesol - gweler y llun ar y dde.
Nodwch, bydd y ddwy bont yn agor pan fydd Cam Pedwar gyfan wedi'i gwblhau yn y gwanwyn.
Mae'r gwaith yn cael ei ariannu yn rhan o ddyraniad yn rhan o Gronfa Teithio Llesol 2024/25 Llywodraeth Cymru i Gyngor Rhondda Cynon Taf.
Diolch i'r gymuned am ei chydweithrediad parhaus wrth i ni gyrraedd diwedd Cam Pedwar.
Wedi ei bostio ar 19/02/2025