Mae'r Cabinet wedi cytuno i barhau â Chynllun Lleihau Ardrethi Busnes Lleol y Cyngor yn 2025/26. Diolch i'r cynllun pwysig yma, bydd y Cyngor yn rhoi cymorth ychwanegol o hyd at £500 i tua 750 o fusnesau sydd eisoes yn gymwys ar gyfer rhyddhad ardrethi o 40% gan Lywodraeth Cymru y flwyddyn nesaf.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig y Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch ers 2020/21, fel mesur dros dro i gefnogi busnesau megis siopau, tafarndai, bwytai, lleoliadau perfformio, campfeydd a gwestai. Cafodd ei gyflwyno yn ystod y pandemig ac mae'n parhau o hyd oherwydd pwysau parhaus. Hyd yn hyn yn 2024/25, mae wedi rhoi £2.2miliwn mewn rhyddhad ardrethi i dros 700 o fusnesau cymwys yn ardal Rhondda Cynon Taf.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi fydd ei Chynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch ddim yn newid yn 2025/26, a bydd yn parhau i ddarparu rhyddhad ardrethi o 40% i fusnesau – gydag uchafswm rhyddhad o £110,000 fesul busnes cymwys. Mae manylion cymhwysedd ar gael ar wefan y Cyngor ac yn adroddiad y Cabinet ddydd Mercher.
Ar ben hyn, mae'r Cyngor hefyd wedi cynnig cymorth ariannol i fusnesau drwy'r Cynllun Lleihau Ardrethi Busnes Lleol – a ddydd Mercher, 19 Chwefror, cytunodd y Cabinet y bydd y cynllun yma hefyd yn parhau yn 2025/26.
Gan barhau â'r trefniadau o'r flwyddyn gyfredol, bydd y busnesau hynny sy'n derbyn Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch Llywodraeth Cymru hefyd yn gymwys ar gyfer y cymorth ychwanegol yma o hyd at £500 gan y Cyngor. Hyd yn hyn yn 2024/25, mae £225,000 wedi'u dyrannu ar gyfer rhyddhad ardrethi lleol. Rydyn ni'n amcangyfrif y bydd tua 750 o fusnesau yn gymwys ar gyfer y cynllun yma yn 2025/26.
Rhaid i fusnesau wneud cais i'r Cyngor ar gyfer Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch Llywodraeth Cymru. Bydd eu bil Ardrethi Annomestig yn cael ei addasu yn unol â hynny, gan gymhwyso'r Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch ynghyd â hyd at £500 gan gynllun y Cyngor. Byddwn ni'n rhoi rhagor o fanylion am y broses cyflwyno cais yn fuan, a bydd angen cyflwyno cais ar gyfer 2025/26 erbyn 31 Mawrth 2026. Fydd ceisiadau ar gyfer blwyddyn ariannol flaenorol ddim yn cael eu derbyn.
Meddai'r Cynghorydd Christina Leyshon, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Gwasanaethau Corfforaethol, Cyfranogiad Ieuenctid a Newid Hinsawdd: “Mae'n wych y bydd cannoedd o fusnesau yn parhau i dderbyn Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch Llywodraeth Cymru, ynghyd â Chynllun Lleihau Ardrethi Busnes Lleol y Cyngor. Mae dros 700 o fusnesau wedi derbyn cymorth y flwyddyn ariannol yma – gyda chais llwyddiannus i gynllun Llywodraeth Cymru yn arwain yn awtomatig at gymorth ychwanegol gan y Cyngor.
“Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod yn cynnig ei Chynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch am flwyddyn arall ym mis Rhagfyr. Nododd fod busnesau a threthdalwyr eraill yn parhau i wynebu pwysau yn sgil yr hinsawdd economaidd bresennol. Argymhellodd swyddogion, am yr un rhesymau, y dylai cymorth dewisol y Cyngor o hyd at £500 barhau y flwyddyn nesaf hefyd – ac rwy'n falch iawn bod Aelodau'r Cabinet wedi cytuno â hyn. Bydd yn helpu tua 750 o fusnesau, a bydd yn golygu na fydd rhai busnesau bach yng nghanol trefi yn talu unrhyw ardrethi busnes o gwbl.
“Yn ystod y pandemig, roedd y sector busnes wedi'i heffeithio’n wael, ac mae Costau Byw uchel parhaus yn cyflwyno heriau economaidd parhaus. Mae'n beth da, felly, ein bod yn rhoi cymorth i fasnachwyr mewn eiddo wedi'u meddiannu cymwys gwrdd â’u hatebolrwydd ardrethi. Mae ein cynllun rhyddhad ardrethi parhaus yn rhan o becyn cymorth ehangach i greu a chynnal canol trefi bywiog ar draws y Fwrdeistref Sirol – sy'n ymrwymiad allweddol wedi'i nodi yn y Cynllun Corfforaethol.
“Bydd swyddogion nawr yn dechrau paratoi'r broses ymgeisio ar gyfer Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch Llywodraeth Cymru, a fydd hefyd yn berthnasol i'r Cynllun Lleihau Ardrethi Busnes Lleol. Bydd y Cyngor yn esbonio'r gofynion gwneud cais ar gyfer 2025/26 maes o law. Cofiwch hefyd y bydd modd cyflwyno cais ar gyfer y flwyddyn gyfredol (2024/25) tan 31 Mawrth 2025.”
I gael rhagor o wybodaeth am Gynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch y flwyddyn gyfredol a'r Cynllun Lleihau Ardrethi Busnes Lleol, gan gynnwys cymhwysedd a sut i wneud cais cyn y dyddiad cau ar 31 Mawrth 2025, ewch i wefan y Cyngor.
Wedi ei bostio ar 20/02/2025