Skip to main content

Cymeradwyo buddsoddiad ym maes addysg i ymateb i gynlluniau tai sylweddol

Primary 2 schools generic

Yn dilyn cyfnod Rhybudd Statudol, mae’r Cabinet wedi cytuno ar gynigion allweddol er mwyn paratoi ar gyfer y galw cynyddol am addysg yn y dyfodol o ganlyniad i ddatblygiad tai Llanilid, Mae hyn yn cynnwys agor ysgol gynradd Gymraeg newydd sbon.

Rhoddodd y Cabinet ystyriaeth derfynol i'r mater yn ei gyfarfod ddydd Mercher, 19 Chwefror, lle nododd adroddiad swyddog nad oedd unrhyw wrthwynebiad wedi dod i law yn ystod y cyfnod rhybudd diweddar o 28 diwrnod. Felly, argymhellwyd y dylid rhoi'r cynigion ar waith heb eu diwygio. Dechreuodd y cyfnod rhybudd ym mis Tachwedd 2024 ar ôl i'r Cabinet gytuno i fwrw ymlaen â'r cynigion yn ei gyfarfod y mis hwnnw.

Mae'r newidiadau yma i fyd addysg yn hanfodol er mwyn ateb y galw a fydd yn deillio o gynllun datblygwr tai i adeiladu 1,850 o gartrefi ar hen safle glo Llanilid. Mae 400 o dai eisoes wedi'u hadeiladu. Mae dau brif gynnig wedi’u cyflwyno gan swyddogion y Cyngor, ac mae'r rhain wedi'u llywio gan Strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru a Chynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg y Cyngor ei hun. Maen nhw'n cynnwys y canlynol:

  • Sefydlu ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd ar gyfer plant 3-11 oed yn rhan o ddatblygiad tai Llanilid, gyda lle i 480 o ddisgyblion oedran ysgol statudol ynghyd â 60 o leoedd meithrin.
  • Newid cyfrwng iaith Ysgol Gynradd Dolau o ysgol sydd â dwy ffrwd iaith i ysgol cyfrwng Saesneg. Byddai ganddi gapasiti mwy ar gyfer 488 o ddisgyblion oedran statudol ynghyd â 63 o leoedd meithrin, wedi'u darparu trwy addasiadau ar raddfa fach i ailddefnyddio lleoedd presennol.

Byddai cost cyfalaf yr ysgol Gymraeg yn cael ei thalu gan yr Ardoll Seilwaith Cymunedol, ynghyd â buddsoddiad drwy Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru. Byddai'r buddsoddiad bychan sydd ei angen yn Ysgol Gynradd Dolau yn cael ei dalu gan y Cyngor. Byddai unrhyw anghenion am gyllid pellach, er enghraifft costau Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol, yn cael eu nodi wrth i'r prosiect fynd rhagddo.

Bydd gan yr ysgol Gymraeg newydd ar gyfer Llanilid ystafelloedd dosbarth modern, cyfleusterau cwbl hygyrch a hyblyg, man penodol ar gyfer cynnal ymyriadau Anghenion Dysgu Ychwanegol, ac ardaloedd awyr agored modern a fydd yn cefnogi'r cwricwlwm ac yn gwella rheolaeth traffig.

Ar ôl i'r Cabinet gytuno ar y cynigion ddydd Mercher, maen nhw bellach wedi'u cymeradwyo'n llawn, a byddan nhw'n cael eu cyflawni erbyn blwyddyn academaidd 2027/28 fan bellaf.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a'r Gymraeg: “Mae'n hanfodol bod y Cyngor yn rhagweithiol wrth fwrw ymlaen â'r newidiadau yma i addysg oedran cynradd, a hynny er mwyn paratoi ar gyfer y datblygiad mawr yn Llanilid. Bydd y datblygiad yma, yn ei hanfod, yn creu cymuned newydd sbon yn y rhan yma o'r Fwrdeistref Sirol ac yn arwain at gynnydd mawr yn y boblogaeth leol. Dangosodd ymgynghoriad a gynhaliwyd ddiwedd yr haf a dechrau’r hydref gefnogaeth eang i’r hyn sydd wedi’i gynllunio, a dyna pam y cytunodd y Cabinet i symud y cynigion ymlaen i’r cyfnod Hysbysiad Statudol ym mis Tachwedd.

“Bydd y newidiadau yn cynnig dewis gwych i deuluoedd, ni waeth pa gyfrwng iaith maen nhw’n ei ddewis. Bydd yr ysgol gynradd newydd yn cynyddu nifer y lleoedd cyfrwng Cymraeg lleol yn sylweddol ac yn darparu addysg mewn cyfleuster o’r radd flaenaf, wrth i ni barhau i gefnogi gweledigaeth ‘Cymraeg 2050’ Llywodraeth Cymru a gweithio tuag at gyflawni ymrwymiadau ein Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg. Bydd Ysgol Gynradd Dolau yn parhau i ddarparu addysg drwy gyfrwng y Saesneg. Mae gan yr ysgol yma hanes o gyflawni'n dda, a byddwn ni'n buddsoddi ynddi er mwyn cynyddu ei chapasiti.

“Yr ysgol Gymraeg newydd Llanilid fydd y cyfleuster newydd diweddaraf i'r Cyngor ei ddarparu ar y cyd â Llywodraeth Cymru. Ym mis Medi, llwyddodd buddsoddiad o £79.9 miliwn yn Ardal Ehangach Pontypridd i ddarparu ysgolion newydd yng Nghilfynydd, y Ddraenen Wen a Rhydfelen – tra bod Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref, Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi ac YGG Llyn y Forwyn wedi cael prif adeiladau newydd yn ystod y misoedd diwethaf. Mae buddsoddiad tebyg ar fin digwydd yn Ysgol Gynradd Pont-y-clun, ac rydyn ni wedi cael caniatâd cynllunio i agor ysgol newydd yng Nglyn-coch hefyd.

“Dywedodd swyddogion wrth y Cabinet ddydd Mercher na chafodd unrhyw wrthwynebiadau eu codi yn erbyn cynigion ysgol Llanilid yn y cyfnod Hysbysiad Statudol diweddar – a chytunodd yr Aelodau ag argymhellion y swyddogion i roi cymeradwyaeth derfynol i'r cynnig. Mae hon yn garreg filltir bwysig tuag at gyflawni'r prosiectau yn y dyfodol. Bydd y Cyngor yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i drigolion am holl brif gamau’r prosiectau maes o law, ac mae disgwyl i'r newidiadau gael eu rhoi ar waith ym mlwyddyn academaidd 2027/28.”

Wedi ei bostio ar 26/02/2025