Mynychodd Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf dros Ffyniant a Datblygiad, y Cynghorydd Mark Norris, Y Cynghorydd Jayne Smith a'r Cynghorydd Susan Morgans Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn ddydd Gwener, 14 Chwefror, i agor yr ysgol newydd yn ffurfiol a chwrdd â’r dysgwyr a’r staff sy’n ffynnu yn y cyfleusterau newydd.
Mae’r ysgol ddiweddaraf yng Nglynrhedynog yn addas ar gyfer yr 21ain Ganrif, ac yn cynnwys Cylch Meithrin â 30 o leoedd. Mae’r prosiect wedi darparu cyfleusterau modern gwych ar gyfer staff, dysgwyr a’r gymuned ar safle newydd, na ellid eu darparu ar hen safle’r ysgol – yn enwedig mewn perthynas â chyfleoedd dysgu awyr agored a chwarae. Mae’r datblygiad wedi ehangu’r arlwy cynradd cyfrwng Cymraeg lleol ar gyfer Cwm Rhondda Fach, ac mae’n cynnwys cyfleusterau modern, hyblyg a hygyrch.
Cyfleoedd cyfyngedig ar gyfer gwella a oedd ar hen safle’r ysgol, ac mae’r adeilad newydd wedi’i adeiladu ychydig bellter i ffwrdd mewn lleoliad mwy addas. Mae’n cynnwys Ardal Chwaraeon Amlddefnydd, cae chwaraeon glaswellt, ardaloedd chwarae allanol, maes parcio i staff, a maes parcio ar gyfer gollwng/casglu, ochr yn ochr â mannau addysgu a dysgu modern – cyfleusterau o’r radd flaenaf na ellid eu darparu ar hen safle’r ysgol.
Mae’r ysgol newydd hefyd yn cynnwys mannau storio beiciau diogel i hyrwyddo Teithio Llesol gan ein bod yn anelu at annog teuluoedd i gerdded yn ôl ac ymlaen i’r ysgol lle bo modd.
Mae’r buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd wedi’i ddarparu ar y cyd â Llywodraeth Cymru. Mae'r Cyngor wedi elwa o gyfraniad o 65% gan y Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu i adeiladu'r ysgol.
Dywedodd y Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf dros Addysg a’r Gymraeg: “Rwyf wrth fy modd bod disgyblion a staff Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn yn mwynhau eu cyfleusterau newydd gwych. Mae'r adeilad o'r radd flaenaf yn welliant sylweddol ar eu hysgol flaenorol ac mae'r ardaloedd awyr agored newydd wedi defnyddio'r gofod helaeth i gyfoethogi profiadau dysgu a chwarae awyr agored y disgyblion. Yn ogystal, mae'r safle newydd yn cynnig trefniadau codi a gollwng mwy diogel a mwy effeithlon, gan wneud y boreau a'r prynhawniau yn llai aflonyddgar.
“Mae’r prosiect hwn yng Nglynrhedynog yn cynrychioli’r buddsoddiad mawr diweddaraf ym maes addysg yn Rhondda Cynon Taf, diolch i’n partneriaeth â Llywodraeth Cymru.
“Byddwn yn parhau i fuddsoddi yn ein preswylwyr ieuengaf i roi’r cyfleoedd gorau iddynt ar gyfer eu dyfodol, ar ôl sicrhau caniatâd cynllunio yn ddiweddar ar gyfer ysgol newydd gwerth £15 miliwn yng Nglyn-coch, cynyddu Dosbarthiadau Cymorth Dysgu i ddisgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol a chynyddu lleoliadau gofal plant fel y gall mwy o drigolion fanteisio ar Gynnig Gofal Plant Llywodraeth Cymru.
“Cyflwynwyd tair ysgol newydd yn y Ddraenen Wen, Cilfynydd a Rhydfelen ym mis Medi 2024, fel rhan o fuddsoddiad o £79.9miliwn ar draws ardal ehangach Pontypridd – tra bod Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref ac Ysgol Gynradd Penygawsi hefyd wedi derbyn adeiladau newydd yn 2024. Bydd y buddsoddiad hwn drwy’r Model Buddsoddi Cydfuddiannol yn cael ei gwblhau gydag ysgol newydd ar gyfer Ysgol Gynradd Pont-y-clun yn 2025.”
Wedi ei bostio ar 19/02/2025