Yn rhan o Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau, daeth Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru i gwrdd â phrentisiaid gofal cymdeithasol RhCT ddydd Iau 13 Chwefror, i gael gwybod sut mae Cynllun Prentisiaethau Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi helpu i ddatblygu eu gyrfaoedd ym maes gofal cymdeithasol.
Fe wnaeth popeth y mae'r prentisiaid wedi'i gyflawni argraff wych ar y Gweinidog. Mae'r Academi Gwaith Cymdeithasol yn cynnig hyfforddiant a phrentisiaethau i staff sydd eisiau ennill cymwysterau ym maes gwaith cymdeithasol.
Mae 96% o staff sydd wedi ymgymryd â menter yr Academi wedi aros yn y Cyngor, ac mae nifer wedi mynd ymlaen i ddod yn weithwyr cymdeithasol profiadol yn y gwasanaethau i blant a'r gwasanaethau i oedolion.
Roedd Naomi, sy'n 27 oed, yn blentyn a dderbyniodd ofal yn RhCT ac o ganlyniad i'r cynllun prentisiaethau, mae hi bellach yn weithiwr cymdeithasol cymwys sy'n helpu i ddiogelu plant a chadw teuluoedd gyda'i gilydd.
Dechreuodd Naomi weithio i'r Cyngor yn Gynorthwy-ydd Cyllid yn 2015 ond roedd hi bob amser yn frwdfrydig am weithio yn y gwasanaethau i blant.
Roedd y Cyngor yn falch o'i chefnogi hi trwy gynllun GofaliWaith lle manteisiodd ar ystod o hyfforddiant a chyfleoedd ac adnoddau cyflogaeth.
Yn 2017, llwyddodd i sicrhau prentisiaeth gyda gwasanaethau Meisgyn RhCT, sy'n hyrwyddo sefydlogrwydd lleoliadau i blant sy'n wynebu anawsterau yn eu bywydau. Graddiodd yn 2022 ar ôl cwblhau gradd mewn gwaith cymdeithasol ac mae hi wedi bod yn weithiwr cymdeithasol ers bron i 3 blynedd.
Meddai Naomi, Gweithiwr Cymdeithasol, Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Roeddwn i'n gwybod ers yn ifanc fy mod eisiau gweithio gyda phlant, a'u helpu nhw. Rydw i wedi cael profiad o dderbyn gofal felly roeddwn i eisiau deall y penderfyniadau a oedd yn cael eu gwneud ar fy nghyfer i a phlant eraill a oedd yn derbyn gofal.
“Mae'r cynllun prentisiaethau wedi fy helpu i mewn sawl ffordd. Doeddwn i ddim yn gallu fforddio mynd yn ôl i astudio a rhoddodd Cyngor RhCT gefnogaeth i fi er mwyn sicrhau fy swydd ddelfrydol.
“Rhoddodd y Cyngor o'i amser ynof i, ac mae wedi fy helpu i wneud cynnydd dros y 10 mlynedd diwethaf.
“Roeddwn i eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i'r gymuned a wnaeth fy magu i, ac mae bellach modd i fi helpu plant sydd wedi cael profiadau tebyg i fi.
“Byddwn i'n annog unrhyw un i wneud prentisiaeth, roedd y gefnogaeth a'r hyfforddiant a gefais i heb eu hail.”
Yn 2022, derbyniodd y Cyngor Wobr Hyfforddiant y Dywysoges Frenhinol am ei ymrwymiad i ddatblygu staff a llwyddo i gyflogi bron i 400 o brentisiaid yn RhCT.
Meddai'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden: “Gall gofal cymdeithasol fod yn yrfa am oes.
“Trwy ddarparu cyfleoedd datblygu gyrfa ac hyfforddiant cynhwysfawr, mae modd i ni gryfhau'n gweithlu gofal cymdeithasol yn sylweddol. Roedd hi'n ysbrydoledig gweld hyn ar waith yn Rhondda Cynon Taf lle mae unigolion yn ffynnu ac yn defnyddio'u sgiliau i gefnogi cymunedau lleol.
“Byddwn ni'n parhau i weithio gydag awdurdodau lleol i weld sut mae modd i ni roi arferion arloesol fel hyn ar waith ledled Cymru.”
Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Rydw i'n deall pa mor bwysig yw hi i gefnogi plant a phobl ifainc yn Rhondda Cynon Taf i ffynnu a chyflawni eu nodau o ran gyrfa.
“Mae cefnogi prentisiaid a chynlluniau megis GofaliWaith yn hanfodol i ddull y Cyngor o sicrhau gweithlu sefydlog, medrus, sy'n derbyn cymorth digonol. Rydw i'n falch o weld y fenter wych yma'n helpu unigolion ac yn cryfhau ein cymuned trwy feithrin gweithwyr cymdeithasol medrus ac ymroddedig.”
Mae Cynllun Prentisiaethau RhCT yn agor ym mis Ebrill, gan gynnig amrywiaeth o yrfaoedd ar draws holl sectorau'r Cyngor. Mae modd darllen rhagor o wybodaeth am y cynllun, yma.
Wedi ei bostio ar 17/02/2025