Bu Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Dawn Bowden AS, Y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, yn ymweld â Rachel, trigolyn lleol sydd wedi cael cymorth yn flaenorol gan Garfan Ailalluogi Cyngor Rhondda Cynon Taf, yn ei chartref. Roedd yr ymweliad yma yn dathlu cyhoeddi cyllid ychwanegol er mwyn ategu'r her 50 diwrnod, wedi'i hanelu yn benodol at wella gwasanaethau ailalluogi.
Yn ystod eu hymweliad, bu Ysgrifennydd y Cabinet a'r Gweinidog yn cwrdd â Rachel, yn ogystal â Heledd Howell, y ffisiotherapydd ailalluogi a oedd wedi goruchwylio rhaglen ailalluogi Rachel. Cafodd yr ymweliad ei ffilmio, gan gynnig cipolwg go iawn ar y gwasanaethau ailalluogi sy’n cael eu darparu mewn lleoliad cartref nodweddiadol. Rhannodd Rachel a'r gweithiwr eu profiadau mewn ymweliad ar wahân gydag ITV a BBC hefyd.
Mae Rachel, a gafodd strôc yn 2023, wedi gwneud cynnydd rhyfeddol gyda chymorth y garfan ailalluogi. Cafodd Rachel wybod i ddechrau na fyddai byth yn cerdded eto, ond mae hi wedi adennill ei gallu i gerdded, sefyll a hyd yn oed cwblhau tasgau beunyddiol yn annibynnol. Mae ei thaith ysbrydoledig wedi'i chynnwys yn flaenorol mewn fideo gan Gofalwn Cymru, gan arddangos effaith sylweddol y gwasanaethau ailalluogi ar adferiad Rachel.
Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Cyngor RhCT ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol: "Mae stori Rachel yn enghraifft wych o bŵer trawsnewidiol y gwasanaethau ailalluogi, nid yn unig ar gyfer yr unigolion sy'n derbyn gofal, ond hefyd ar gyfer eu teuluoedd.
"Mae ei thaith o beidio â gallu cerdded i adennill ei hyder i goginio, golchi a hyd yn oed ystyried dychwelyd i'r gwaith yn brawf o ymrwymiad ac effeithiolrwydd y garfan ailalluogi.
"Mae gwaith da'r gwasanaeth yn tynnu rhagor o sylw at bwysigrwydd rhoi cymorth i unigolion i aros yn eu cartrefi eu hunain gyda mentrau megis her 50 diwrnod Llywodraeth Cymru."
Mae stori Rachel yn un o sawl achos lle mae'r garfan ailalluogi wedi cael effaith gadarnhaol ar fywydau unigolion sydd angen cymorth yn Rhondda Cynon Taf. Mae'r her 50 diwrnod, a gafodd ei lansio gan Lywodraeth Cymru ar 11 Tachwedd 2024, yn fenter sy'n ceisio helpu rhagor o bobl i ddychwelyd i'w cartrefi o'r ysbyty yn ddiogel gan liniaru pwysau ar ein system iechyd a gofal dros y gaeaf.
Mae amcanion allweddol yr her 50 diwrnod yn cynnwys:
- Lleihau hyd cyfnodau yn yr ysbyty trwy symleiddio prosesau rhyddhau cleifion a lleihau'r amser y mae angen i gleifion aros yn yr ysbyty er mwyn sicrhau rhagor o welyau i'r rheiny mewn angen.
- Gwella'r gwasanaethau ailalluogi gyda chyllid ychwanegol, gan eu galluogi i ddarparu gofal a chymorth mwy cynhwysfawr i unigolion sy'n dychwelyd gartref o'r ysbyty.
- Cryfhau'r gwasanaethau gofal yn y gymuned er mwyn sicrhau bod unigolion yn derbyn y cymorth i fyw yn annibynnol yn eu cartrefi.
- Mae'r her hefyd yn annog dull cydweithredol gan ddarparwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gan sicrhau proses ryddhau ddi-dor o'r ysbyty yn ôl gartref.
Am ragor o wybodaeth am yr her 50 diwrnod, ewch i: Y diweddaraf am Her 50 diwrnod y Gaeaf ar gyfer Gofal Integredig (20 Ionawr 2025) | LLYW/CYMRU
Meddai Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles AS: "Mae'r canlyniadau cychwynnol yn gadarnhaol, ond mae llawer yn rhagor i'w wneud er mwyn lleihau oedi wrth ryddhau cleifion o'r ysbyty a helpu pobl i gadw’n iach yn eu cartrefi.
"Mae angen i fyrddau iechyd a phartneriaid gofal cymdeithasol barhau i weithio gyda'i gilydd er mwyn rhoi’r 10 polisi a cham gweithredu allweddol yr ydyn ni’n gwybod eu bod nhw’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf, ar waith yn yr hirdymor.
"Roedd yn wych cwrdd â Rachel a siarad am y cymorth mae hi wedi'i dderbyn gan y garfan ailalluogi yn dilyn strôc fawr. Mae ei stori yn brawf o'r effaith enfawr y mae carfanau ailalluogi yn gallu ei chael ar fywydau pobl."
Meddai'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden AS: "Gall ailalluogi helpu i gadw pobl yn iach yn eu cymunedau lleol ac atal yr angen i fynd i'r ysbyty. Mae'n agwedd bwysig ar system iechyd a gofal cymdeithasol fwy effeithlon a chynaliadwy.
"Mae'n amlwg bod gwaith carfan ailalluogi Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cael effaith sylweddol ar fywyd Rachel, a hoffwn i ddiolch iddi, ac i bawb sy'n gwneud gwaith tebyg ledled Cymru, am bopeth maen nhw'n ei wneud."
Am ragor o wybodaeth am stori Rachel, yn ogystal â straeon eraill, ewch i: Straeon | Gofalwn Cymru
I ddysgu rhagor am Ailalluogi a Gofal yn y Cartref yn Rhondda Cynon Taf, ewch i: Cymorth yn y Cartref | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Wedi ei bostio ar 26/02/2025