Mae pont droed newydd Glan-yr-afon yn Llwydcoed wedi agor yn dilyn gwaith adeiladu. Mae bellach yn darparu strwythur gwell i'r gymuned a bydd yn sicrhau bod y cyswllt lleol allweddol i Lwybr Cwm Cynon yn parhau i fod ar gael.
Mae'r bont droed wedi'i lleoli ym mhen deheuol Lôn Las, ac roedd yr hen strwythur coed mewn cyflwr gwael ac roedd angen gosod un newydd. Dechreuodd cynllun gwaith y Cyngor, sy’n cael ei ariannu trwy Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024/25, ar y safle yn ystod yr haf y llynedd. Mae dyluniad y strwythur newydd yn fwy llydan, sydd yn fwy addas na'r bont wreiddiol.
Carreg filltir allweddol y prosiect oedd gosod y bont newydd, wedi iddi gael ei hanfon i'r safle gwaith mewn sawl darn. Cafodd ei chodi i'w lle yn yr hydref. Mae'r gwaith dros yr wythnosau diwethaf wedi cynnwys gosod wyneb newydd ar y llwybr a gosod canllaw ar hyd y ramp. Agorodd y bont droed i'r cyhoedd ei defnyddio yn ystod yr wythnos a ddechreuodd ar 24 Chwefror.
Mae arwyddion y llwybr amgen dros dro i gerddwyr a beicwyr wedi'u tynnu o'r safle wedi i'r bont gael ei hagor gan y contractwr, Horan Construction Ltd.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: "Mae'r cyswllt lleol yma i'r de o Lwydcoed bellach wedi'i adfer er budd y gymuned, a hynny ar ôl gosod pont fodern sy'n fwy llydan ac yn fwy addas yn lle'r hen strwythur. Mae'r llwybr allweddol dros yr afon yn sicrhau mynediad uniongyrchol i Lwybr Cwm Cynon rhwng Trecynon a Phen-y-waun - wrth i ni barhau i hyrwyddo Teithio Llesol yn flaenoriaeth allweddol mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.
"Mae annog trigolion i gerdded a beicio bob dydd yn cynnig nifer o fanteision, gan gynnwys gwella iechyd a lles pobl a diogelu'r amgylchedd. Mae'r dyraniad gwerth £6.2 miliwn o Gronfa Teithio Llesol 2024/25 yn ein galluogi ni i ddatblygu a bwrw ymlaen â sawl cynllun isadeiledd eleni - gan gynnwys gwelliannau i Lwybr Cwm Cynon yng Nghwm-bach, gwella Llwybr Taith Taf yn ardal Trallwng a gwaith dylunio ac adeiladu pellach ar Lwybr Teithio Llesol Cwm Rhondda Fach.
"Hoffwn i ddiolch i'r gymuned am ei hamynedd a'i chydweithrediad yn ystod y cyfnod pan oedd Pont Droed Glan-yr-afon ar gau, yn enwedig y trigolion hynny sy'n byw'n agos. Roedd oedi nad oedd modd ei osgoi tua diwedd y cam adeiladu, ond rwy'n falch bod y bont droed newydd bellach wedi'i chwblhau a'i bod hi ar agor, a bod Llwybr poblogaidd Cwm Cynon ar gael unwaith yn rhagor ac wedi'i ddiogelu ar gyfer y dyfodol."
Wedi ei bostio ar 27/02/2025