Mae'n bleser gan y Cyngor gyhoeddi y bydd ffordd ddeuol yr A4119 rhwng Coedélai ac Ynysmaerdy yn agor am y tro cyntaf cyn yr awr frys ar bore Dydd Llun. Mae hyn yn nodi terfyn arwyddocaol y cynllun deuoli, gan sicrhau buddsoddiad mawr i wella cysylltedd ac annog buddsoddiad yng Nghymoedd y Rhondda.
Mae’r prosiect trafnidiaeth mawr wedi cynyddu rhan o’r A4119 i fod yn ffordd ddeuol wrth y porth i Gwm Rhondda, rhwng cylchfannau Coed Elái a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Mae capasiti’r ffordd wedi’i ehangu’n sylweddol, gan ddod â nifer o fanteision strategol – mynd i’r afael â thagfeydd traffig ar adegau prysur, annog gweithgarwch economaidd i mewn i Gymoedd y Rhondda, ac agor safle Parc Coedelái Llywodraeth Cymru.
Mae’r cynllun hefyd wedi darparu llwybr Teithio Llesol newydd ochr yn ochr â’r ffordd, i ddarparu isadeiledd cerdded a beicio newydd sylweddol er budd cymunedau lleol, a chreu gwell mynediad i’r pentref. Mae hyn wedi cynnwys adeiladu pont defnydd a rennir newydd ger Cylchfan Coedelái.
Yn dilyn cwblhau gwaith sy'n hanfodol i ddiogelwch gan gontractwr y prosiect yn ddiweddar, mae'r Cyngor bellach wedi cyhoeddi y bydd y ffordd ar agor yn llawn cyn i'r ffordd ddechrau prysuro fore dydd Llun (3 Mawrth).
Dylai defnyddwyr y ffordd gymryd gofal ychwanegol wrth deithio ar y ffordd ddeuol newydd wrth iddyn nhw ddod i'r arfer â'r trefniadau newydd. Nodwch, fydd gan ran fwyaf o'r ffordd terfyn cyflymder o 50mya, gyda therfyn cyflymder byr o 40mya ger cylchfan Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Bydd y rhain wedi'u nodi'n glir ag arwyddion.
Mae’r cynllun wedi bod yn bosibl diolch i £11.4 miliwn o gyllid a sicrhawyd o Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, a gadarnhawyd ym mis Hydref 2021. Mae'r dyraniad yma yn ychwanegol at gyllid y mae'r Cyngor a Llywodraeth Cymru eisoes wedi'i ymrwymo, gan gyfuno i ariannu'r cyfnod adeiladu.
Mae agor y ffordd ddydd Llun yn nodi terfyn arwyddocaol y cynllun. Efallai y bydd angen i gontractwr y Cyngor gwblhau mân waith gorffen yn y dyfodol. Bydd unrhyw waith pellach sydd ei angen yn cael ei rannu â thrigolion.
Meddai llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Mae’r cyhoeddiad cadarnhaol iawn heddiw wedi cadarnhau y bydd yr A4119 rhwng Coedelái ac Ynysmaerdy yn agor fel ffordd ddeuol am y tro cyntaf yn fuan iawn. Bydd hyn wedi ei gwblhau erbyn 3 Mawrth – gyda’r conau sydd ar y ffordd ar hyn o bryd yn cael eu tynnu cyn y cyfnod mwyaf prysur o ran traffig fore Llun, fan bellaf.
“Mae’r Cyngor wedi elwa ar gymorth gwerth miliynau o bunnoedd i wneud hyn yn bosibl, gan gynnwys £11.4 miliwn a sicrhawyd o Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU yn 2021, a chyfraniadau allweddol Llywodraeth Cymru. Mae miloedd o fodurwyr yn defnyddio'r ffordd yma bob wythnos, a bydd y buddsoddiad yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddefnyddwyr y ffordd, gan leihau tagfeydd traffig bob bore a phrynhawn. Bydd y cynllun yn cynyddu cynhwysedd y briffordd, gan helpu i yrru gweithgaredd economaidd i mewn i Gymoedd y Rhondda, cynyddu mynediad i Barc Coedelái, a darparu darpariaeth cerdded a beicio newydd yn lleol.
“Rydyn ni'n cydnabod bod elfennau terfynol y cynllun wedi parhau y tu hwnt i'r dyddiad cwblhau a ragwelwyd, a amcangyfrifwyd pan ddechreuodd y gwaith gyntaf. Mae’n anodd iawn rhoi amserlenni manwl cywir ar gyfer prosiectau isadeiledd mor fawr – fodd bynnag, hoffen ni ddiolch i ddefnyddwyr y ffyrdd a thrigolion lleol am eu hamynedd drwy gydol y prosiect, yn enwedig yn ystod y gwaith terfynol sy’n hanfodol i ddiogelwch a gafodd ei gynnal yn ddiweddar. Roedd y gwaith yma yn wirioneddol hanfodol er mwyn sicrhau diogelwch defnyddwyr y ffordd, cyn y gallai'r Cyngor dderbyn cyfrifoldeb am y ffordd."
Wedi ei bostio ar 27/02/2025