Mae angen cau'r ffordd ar y bont yn Heol Goitre Coed, Abercynon (gweler y llun), er mwyn cwblhau cynllun atgyweirio a chynnal a chadw a fydd yn para hyd at wythnos.
Bydd Pont Royal Oak yn cau ar fore Llun, 3 Mawrth, a bydd llwybr amgen ag arwyddion yn cael ei roi ar waith. Sylwch, mae'r llwybr amgen yn mynd trwy ardal Mynwent y Crynwyr ym Mwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.
Mae angen cau'r ffordd er mwyn gosod dec newydd ar y bont a chwblhau gwaith cynnal a chadw arall yn ddiogel. Bydd y gwaith yn cael ei gyflawni gan y contractwr Hammond ECS.
Mae'r llwybr amgen i fodurwyr yn mynd ar hyd Teras Trem-deg, Stryd y Loc, Teras Glancynon, B4275, A4054, Cylchfan Fiddler's Elbow, Heol Caerdydd, Teras Roderick a Heol Goitre Coed.
Mae copi o'r map sy'n dangos y llwybr amgen yma, a'r ffordd sy'n cau, wedi'i gyhoeddi ar wefan y Cyngor.
Fydd dim mynediad ar gael i gerbydau'r gwasanaethau brys, ond bydd mynediad i gerddwyr ac i eiddo. Dylai beicwyr ddod oddi ar eu beic a defnyddio'r llwybr i gerddwyr.
Sylwch, er bod Pont Royal Oak yn darparu croesfan dros yr A4059, ni fydd y gwaith yn tarfu ar y llwybr pwysig yma i deithwyr.
Mae'r cynllun yn cael ei gyflawni gan ddefnyddio cyllid refeniw'r Cyngor.
Diolch ymlaen llaw i drigolion a defnyddwyr y ffordd am eu cydweithrediad.
Wedi ei bostio ar 28/02/2025