Mae'n bleser gan Gyngor Rhondda Cynon Taf gyhoeddi bod ei Raglen i Raddedigion hynod boblogaidd bellach ar agor ar gyfer ceisiadau.
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn ymfalchïo yn y ffaith ei fod yn darparu cyfleoedd i gael swyddi o safon ac mae ei Raglen i Raddedigion yn gychwyn perffaith tuag at yrfa lwyddiannus mewn llawer o wahanol feysydd.
Mae 9 swydd i raddedigion ar gael, sy'n amrywio o beirianneg sifil ac iechyd a diogelwch i gyfrifeg a rheoli prosiectau.
Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Rydw i wrth fy modd i gyhoeddi lansiad ein Rhaglen i Raddedigion 2025!
"Mae ein Rhaglen i Raddedigion wedi bod yn llwyddiant ysgubol bob blwyddyn, gydag ymgeiswyr o safon yn cael eu cydnabod ac yn dechrau eu gyrfaoedd gyda ni.
“Ac yntau'n un o'r cyflogwyr mwyaf yn Rhondda Cynon Taf, mae'r Cyngor yn deall pwysigrwydd creu swyddi gwerthfawr â chyflog da sy'n cynnig digon o gyfleoedd dysgu i’n trigolion.
"Fel awdurdod lleol, rydyn ni'n darparu ystod eang o wasanaethau i'r cyhoedd, ac mae ein swyddi diweddaraf i raddedigion yn adlewyrchu'r amrywiaeth yma. Mae gyda ni swyddi mewn nifer o feysydd, gan gynnwys cyllid, rheoli prosiectau, eiddo ac iechyd a diogelwch.
“Rwy’n gobeithio y bydd y gwaith hanfodol a'r gwasanaeth cyhoeddus y mae ein staff yn eu cynnal o ddydd i ddydd yn ysbrydoli llawer o raddedigion i ystyried ymuno â ni a gweithio i Gyngor Rhondda Cynon Taf.”
Mae gan y Cyngor hanes cryf o ddarparu cyfleoedd trwy ystod o gynlluniau cyflogaeth. Ers 2020, mae'r Cyngor wedi cyflogi 102 o swyddogion graddedig, gyda dros 70% yn parhau i weithio i'r Cyngor. Mae llawer o raddedigion o flynyddoedd blaenorol wedi cael swyddi rheoli a swyddi penaethiaid gwasanaeth yn y Cyngor.
Mae'r swyddi i raddedigion yn lleoliadau gwaith cyfnod penodol (2 flynedd) lle bydd modd cael cyfle i ddatblygu sgiliau rheoli mewn sefydliad dynamig ac amrywiol, yn ogystal â chyflawni cymhwyster Rheoli Prosiectau Lefel 4, a hynny gyda chymorth Cydlynydd.
Dyma'r swyddi sydd ar gael i raddedigion yn 2025:
Swyddog Graddedig – Cyfrifeg
Swyddog Graddedig – Syrfëwr Adeiladu
Swyddog Graddedig – Peirianneg Sifil
Swyddog Graddedig – Rheoli Prosiectau ac Adeiladu
Swyddog Graddedig – Peiriannydd Trydanol
Swyddog Graddedig – Iechyd a Diogelwch
Swyddog Graddedig – Peiriannydd Mecanyddol
Swyddog Graddedig – Gwybodaeth am Eiddo a Chydymffurfiaeth
Swyddog Graddedig - Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd (HDRC)
Mae modd ymgeisio ar gyfer Rhaglen i Raddedigion Cyngor Rhondda Cynon Taf rhwng heddiw a 10 Ebrill 2025. Hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen a sut mae cyflwyno cais? Os felly, ewch i: Rhaglen i Raddedigion | RhCT – Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Wedi ei bostio ar 25/02/2025