Skip to main content

Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cyhoeddi y bydd Cofeb Ryfel newydd yn Nhreorci

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o gyhoeddi y bydd cofeb ryfel newydd yn cael ei chodi yn Nhreorci. Bydd hi'n talu teyrnged i ddynion a merched dewr yr ardal leol a wasanaethodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, yr Ail Ryfel Byd, a phob achos arall o ryfel neu wrthdaro. Mae’r fenter yma'n rhan o ymrwymiad parhaus y Cyngor i anrhydeddu aberthau cymuned ein Lluoedd Arfog.

Mae Cynghorwyr Treorci, Bob Harris a Sera Evans, yn gefnogol iawn o'r datblygiad, a bydd y gofeb cael ei hadeiladu gan ddefnyddio cerrig a achubwyd o hen ysgol uwchradd yn y Ddraenen-wen. Mae hyn yn adlewyrchu’r deunyddiau traddodiadol a fyddai wedi cael eu defnyddio yn ystod y rhyfel. Bydd pedwar plac ag arysgrif ar y gofeb, gan gynnwys plac hanesyddol a achubwyd o'r capel a oedd yn arfer bod ar safle Theatr y Parc a Dâr. Bydd y gofeb yn cael ei chodi y tu allan i Theatr y Parc a'r Dâr.

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber BEM, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog: “Rydw i'n falch o weld ein Cyngor yn cymryd camau mor ystyrlon i anrhydeddu ein trigolion sy'n rhan o'r lluoedd arfog. Mae’r gofeb yma'n coffáu eu haberthau ac yn atgyfnerthu'r cyswllt hwnnw rhwng ein cymuned sifil a’r Lluoedd Arfog.

“Mae’r deunyddiau o arwyddocâd hanesyddol a'r elfennau digidol sy'n rhan o'r prosiect yn cyfleu ymrwymiad pellach y Cyngor i ddiogelu a rhannu’r straeon pwysig yma.

“Rydw i'n edrych ymlaen at weld y gymuned yn dod at ei gilydd i gefnogi’r prosiect gwych yma.”

Yn ogystal â'r Gofeb newydd, mae'r Cyngor yn bwriadu creu llyfr Coffa/Rhestr y Gwroniaid, Treorci, er mwyn rhestru enwau'r rhai a aberthodd eu bywydau. Bydd y llyfr yn cael ei gadw yn Llyfrgell Treorci, a bydd ar gael i’r cyhoedd ei ddefnyddio ar gais. Bydd hefyd yn cael ei gynnwys yn ein Prosiect Digideiddio Cofebion Rhyfel.

Mae'r Cyngor yn dymuno ymgynghori â’r cyhoedd i drafod y gofeb a sicrhau bod pob enw wedi’i gynnwys yn llyfr Rhestr y Gwroniaid. Bydd swyddogion o Wasanaeth Lluoedd Arfog a Threftadaeth y Cyngor yn cynnal diwrnod ymgysylltu yn Llyfrgell Treorci ar 13 Mawrth, rhwng 10am a 6pm. Dyma wahodd y gymuned leol i alw heibio a sgwrsio gyda ni - bydden ni wrth ein boddau'n clywed eich barn am y gofeb neu ddysgu am unrhyw enwau y mae angen i ni eu cynnwys yn y Llyfr Coffa.

Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau a Chynghorydd lleol ward Treorci: “Rydw i'n falch o ddweud y bydd cofeb newydd yn cael ei chodi er mwyn talu teyrnged i bobl Treorci a wnaeth aberthiad dewr er budd ein dyfodol. Mae'r gofeb yma'n hynod arwyddocaol i'r gymuned yn Nhreorci a bydd hi'n deyrnged arbennig i'n hynafiaid.

“A minnau'n Gynghorydd lleol yn Nhreorci, rydw i'n falch o gefnogi’r fenter yma i sicrhau bod enwau ac atgofion am y rhai a fu farw'n cael eu diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Rydw i'n annog pawb o’r gymuned leol i gymryd rhan yn y prosiect er mwyn sicrhau ein bod ni'n llunio Rhestr y Gwroniaid helaeth er cof amdanyn nhw.”

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o fod ymhlith yr awdurdodau lleol cyntaf yng Nghymru i lofnodi'r Cyfamod, sy'n ddatganiad gwirfoddol o gefnogaeth rhwng cymuned sifil Rhondda Cynon Taf a chymuned y Lluoedd Arfog sy'n byw yn y Fwrdeistref Sirol. Mae'n symbol o'r parch deublyg a rennir ymhlith y Cyngor, ei asiantaethau partner, cymunedau lleol, a Phersonél uchel eu parch y Lluoedd Arfog - y rhai sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd a'r rhai sydd wedi ymddeol- ynghyd â'u teuluoedd.

Mae creu'r gofeb newydd yma'n cyd-fynd ag ymrwymiad y Cyngor i raglen fuddsoddi 5 mlynedd gwerth £200,000 rhwng 2022 a 2027 – ac mae'r Cabinet wedi cytuno i fuddsoddi £50,000 pellach yn y rhaglen yma yn ddiweddar. Dan arweiniad Swyddog Treftadaeth a Henebion y Cyngor, dyma'r fenter arloesol gyntaf o'i thebyg yn y DU, a'i nod yw gwella Cofebion Rhyfel ledled Rhondda Cynon Taf gan ddefnyddio dulliau digideiddio.

Gyda chymorth gwirfoddolwyr o'r gymuned leol ac ysgolion, ymgymerwyd â gwaith ymchwil ar fywydau miloedd o unigolion a restrir ar ein holl gofebion. Bydd yr wybodaeth yma ar gael trwy godau QR a osodir wrth bob cofeb, a fydd yn arwain at wefan dreftadaeth newydd lle mae modd i ymwelwyr ddysgu am y straeon personol y tu ôl i'r enwau.

Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau pellach neu pe hoffech chi wybod rhagor, e-bostiwch: LluoeddArfog@rctcbc.gov.uk

Wedi ei bostio ar 27/02/2025