Skip to main content

Ffair Swyddi Cyngor RhCT a'i Bartneriaid 2025: Eich Llwybr i Gyfleoedd Newydd!

Jobs-Fair-2025-WELSH

Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi y bydd ein Ffair Swyddi boblogaidd yn cael ei chynnal ddydd Mercher, 19 Mawrth yn Llyfrgell Pontypridd, Llys Cadwyn, CF37 4TH, rhwng 10am a 2pm. Bydd 'awr dawel' yn cael ei chynnal rhwng 9am a 10am.

Bydd yr achlysur am ddim yma'n gyfle i chi siarad yn uniongyrchol â chyflogwyr a gweithwyr, cymryd rhan mewn gweithdai a fydd yn eich helpu chi i baratoi ar gyfer cyfweliad ac ysgrifennu CV, a dechrau ymgeisio am swyddi ar y diwrnod!

Bydd dros 50 o sefydliadau yn bresennol yn y ffair ac yn awyddus i lenwi swyddi sy'n addas i bawb yn y gymuned ar unwaith. Bydd rheolwyr gwasanaeth a gweithwyr y Cyngor yno hefyd, byddan nhw'n rhoi'r wybodaeth am weithio i Gyngor RhCT sydd ei hangen arnoch chi!

Mae Rhaglen i Raddedigion RhCT ar agor ar hyn o bryd, a bydd y rhaglen Brentisiaethau yn agor ym mis Ebrill, felly dyma'r cyfle perffaith i siarad â'r garfan a dysgu rhagor!

Os ydych chi’n chwilio am ddechreuad newydd, newid gyrfa, neu rydych chi'n dechrau eich bywyd gwaith, bydd rhywbeth ar eich cyfer chi yn Ffair Swyddi RhCT!

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Mae'r Ffair Swyddi yn parhau i fod yn boblogaidd iawn, ac rwy'n falch iawn bod yr achlysur yn helpu nifer fawr o unigolion i gymryd eu camau cyntaf neu'r camau nesaf ar eu taith i gyflogaeth.

“Rydyn ni fel Cyngor wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd sy’n galluogi ein trigolion i gael mynediad at gyflogaeth o safon. Mae’r Ffair Swyddi yn dod â chyflogwyr lleol at ei gilydd mewn un lleoliad, gan ddangos ein hymrwymiad drwy roi cyfle i drigolion sicrhau’r swyddi yma. Mae amrywiaeth eang o gyfleoedd ar gael ar y diwrnod ac rwy’n annog pawb sy’n chwilio am rywbeth newydd, gwahanol, neu sydd newydd ddechrau arni, i ymweld â Llys Cadwyn a bwrw golwg ar yr hyn sydd ar gael."

Mae rhestr o gyflogwyr sydd wedi cadarnhau y byddan nhw'n mynychu i’w gweld isod:

  • Abacare
  • Acorn Nurseries
  • Acorn Recruitment
  • ACT & ALS
  • Apollo Teaching
  • Arc Group
  • Y Fyddin (Byddin Prydain)
  • BAM Construct UK & Ireland.
  • Bluewater Recruitment
  • Coleg Pen-y-bont ar Ogwr
  • Care Cymru
  • Coleg y Cymoedd
  • Catalyddion Cymunedol
  • Tŷ'r Cwmnïau
  • Academi'r Hwb Adeiladu
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
  • Grŵp Dawson
  • Canolfan Byw Annibynnol 'Dewis'
  • Dragon Studios
  • Addysgwyr Cymru
  • EE
  • Maethu Cymru RhCT
  • Y Swyddfa Gartref
  • Horizon Civil Engineering Ltd.
  • Sefydliad Yswiriant Caerdydd
  • Interlink
  • ITEC
  • Canolfan Byd Gwaith / Adran Gwaith a Phensiynau
  • Lorne Stewart PC
  • Manpower
  • Matrix Agency
  • MPS Industrial
  • NAB Group Engineering LTD
  • Prichards
  • Q Care
  • R&M Williams
  • Radis
  • Cyngor Rhondda Cynon Taf - adrannau amrywiol
  • Gwaith a Sgiliau RhCT
  • Y Llynges Frenhinol
  • Opera Brenhinol a Bale
  • Screen Alliance Cymru
  • Techxi
  • Trafnidiaeth Cymru
  • Trivallis
  • Prifysgol De Cymru a Network75
  • Gofalwn Cymru  
  • Wilmot Dixon
  • Cymru'n Gweithio a Gyrfa Cymru

 **Nodwch, mae'n bosibl y bydd arddangoswyr gwahanol yno ar y diwrnod

Wedi ei bostio ar 26/02/2025