Skip to main content

Gwaith i greu plaza ar lan yr afon yng nghanol tref Pontypridd

M&S grid

Bydd gwaith adeiladu ar gyfer ailddatblygiad safle Marks and Spencer cyffrous yng nghanol tref Pontypridd yn dechrau o 17 Chwefror. Bydd y Cyngor yn gweithio'n agos gyda'r contractwr y mae wedi'i benodi i leihau aflonyddwch yn lleol.

Y mis diwethaf, cyhoeddodd y Cyngor fod dros £5.6 miliwn wedi'i sicrhau i gyflawni prosiect 'plaza ar lan yr afon' yn 97-102 Stryd y Taf – diolch i gymorth ariannol sylweddol trwy Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru (£3.68 miliwn) a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU (£1.95 miliwn). Cyhoeddwyd bod cwmni Horan Construction Ltd wedi'i benodi'n gontractwr y cam adeiladu.

Mae'r prosiect yn rhan allweddol o ailddatblygiad Porth Deheuol Canol Tref Pontypridd. Derbyniwyd y syniad ynghylch ‘plaza ar lan yr afon’ ymateb cadarnhaol mewn ymgynghoriad cyhoeddus blaenorol, ac mae'r cynnig yma wedi cael ei gymeradwyo'n ffurfiol a'i fwrw yn ei flaen ers hynny – mae'r safle wedi'i ddymchwel i baratoi ar gyfer y gwaith. Bydd y prosiect yn creu ardal ddeniadol i'r cyhoedd ac yn amlygu'r afon o gyfeiriad canol y dref am y tro cyntaf ers dros 100 mlynedd. Y nod yw:

  • Manteisio i'r eithaf ar botensial y safle yn 'amgylchedd cyswllt' allweddol, yn rhan o lwybr newydd i ymwelwyr o'r orsaf drenau a thrwy safle'r hen Neuadd Bingo.
  • Cael golygfeydd newydd o'r afon a'r parc cyfagos.
  • Integreiddio nodweddion allweddol megis coed ac ardaloedd gwyrdd, cynefinoedd bioamrywiol newydd a datrysiadau draenio cynaliadwy.
  • Darparu amgylchedd agored newydd sy'n ddigon hyblyg i ymateb i gyfleoedd newydd ar gyfer canol y dref.
  • Creu 'plaza newydd ar lan yr afon' sy'n cynnwys ciosgau bach ysgafn (unedau masnachol) sy'n gwerthu bwyd a diod.

Bydd y rhan fwyaf o'r safle yn cael ei godi'n uwch na'r parth llifogydd, yn seiliedig ar fodelu llifogydd. Bydd y contractwr hefyd yn gosod arwyneb newydd ar y lôn sy'n arwain at y parc.

Gwybodaeth bwysig am y prif gam adeiladu

Bydd gwaith adeiladu yn dechrau ddydd Llun 17 Chwefror, gyda'r bwriad o gwblhau'r prosiect yn ystod misoedd cynnar 2026. Bydd yn cael ei gyflawni dros sawl cam allweddol, a'r cam cyntaf fydd paratoi'r safle a gwaith strwythurol. Mae hyn yn cynnwys gwaith cychwynnol i baratoi'r safle, adeiladu waliau cynnal, a fframwaith strwythurol.

Bydd gwaith ar y safle wedyn yn cynnwys gwaith tir a gosod systemau draenio, adeiladu rampiau, grisiau a llwybrau, gwaith tirlunio terfynol a chreu'r man cyhoeddus trwy blannu, gosod cerrig palmant a chelfi stryd.

Fydd y rhan fwyaf o'r gwaith ddim yn achosi llawer o aflonyddwch – a bydd modd i bob busnes barhau i fod ar agor. Bydd byrddau yn cael eu gosod ar hyd y llwybr troed ar Stryd y Taf, ac mae'n bosibl y bydd angen llwybrau amgen byr i gerddwyr. Fydd y safle bysiau ger y safle gwaith ddim ar gael, a bydd defnyddwyr bysiau yn defnyddio safleoedd bysiau cyfagos eraill.

Nodwch y bydd mynediad i Barc Coffa Ynysangharad, ar hyd y lôn gyfagos a phont droed M&S, ar gael o ddechrau'r gwaith adeiladu. Bydd hyn yn cael ei fonitro o ran diogelwch, a bydd unrhyw newid angenrheidiol i drefniadau mynediad i'r parc yn cael ei rannu.

Bydd Horan Construction Ltd yn rhoi diweddariadau rheolaidd mewn perthynas â'r cynnydd i'r gymuned leol, a bydd cylchlythyr yn cael ei ddosbarthu o dro i dro.

Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Ffyniant a Datblygu: “Yn dilyn cyhoeddiad y mis diwethaf bod £5.6 miliwn wedi'i sicrhau ar gyfer y prosiect blaenllaw yma, mae'r Cyngor heddiw wedi cyhoeddi y bydd gwaith yn dechrau yng nghanol tref Pontypridd o 17 Chwefror. Mae'n bwysig nodi bod modd i bob masnachwr barhau i agor eu busnesau yn ôl yr arfer, a bydd pob prif fynediad yn yr ardal fanwerthu ar gael – gyda'r rhan fwyaf o'r gwaith adeiladu yn cael ei gynnal yn y safle gwaith.

“Rydyn ni wedi gwneud cynnydd ardderchog tuag at gyrraedd y cam yma, gyda chymorth parhaus trwy gyllid Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru – ac rydyn ni hefyd wedi croesawu cymorth sylweddol trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU i helpu i gyflawni'r cam adeiladu. Hyd yn hyn, mae’r Cyngor wedi mynd ati i brynu'r safle gwag, dymchwel yr ardal, dylunio prosiect ‘plaza ar lan yr afon’ a'i gymeradwyo, penodi contractwr a sicrhau cyllid gwerth miliynau o bunnoedd. Mae'r gwaith rhagweithiol yma wedi atal safle mawr yng nghanol tref Pontypridd rhag dadfeilio, ac mae'n gwireddu'r ymrwymiad a gafodd ei wneud yn ein Cynllun Creu Lleoedd Pontypridd i barhau i fuddsoddi yng nghanol y dref.

“Bydd y man agored, braf yn safle M&S yn cynnwys seddi ac ardaloedd gwyrdd, gyda golygfeydd o'r afon a'r parc – gan gynnwys ciosgau bwyd a diod. Bydd yn darparu man mwy a hyblyg y bydd modd ei ddefnyddio ar gyfer gweithgareddau megis achlysuron yng nghanol y dref. Mae'n wych gweld cynifer o'n prosiectau adfywio yn dwyn ffrwyth, gyda phrosiect y Neuadd Bingo, Y Muni, YMa, Llys Cadwyn a chynllun tai Cwrt yr Orsaf i gyd yn cael eu cyflawni dros y blynyddoedd diwethaf.

“Hoffwn i ddiolch i drigolion, busnesau ac ymwelwyr â chanol y dref am eich cydweithrediad wrth i safle M&S gael ei gwblhau. Bydd y Cyngor a'i gontractwr yn gweithio i sicrhau cyn lleied o aflonyddwch â phosibl yn lleol, a bydd diweddariadau cynnydd allweddol yn cael eu rhannu yn ystod yr wythnosau a misoedd nesaf wrth i'r cynllun cyffrous yma fynd rhagddo.”

Diben Rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru yw ailddatblygu a gwella canol trefi a dinasoedd. Mae'r rhaglen yn mynd ati'n weithredol i annog trefi defnydd cymysg fel lleoedd i fyw, gweithio ac aros ynddyn nhw ac i ymweld â nhw. I gael rhagor o fanylion, cliciwch yma.

Diben Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yw annog trigolion i ymfalchïo yn eu cymunedau lleol a chynnig cyfleoedd bywyd gwell i bobl ledled y DU trwy fuddsoddi mewn cymunedau a chefnogi busnesau lleol, pobl a sgiliau. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.

Wedi ei bostio ar 07/02/2025