Dewch i ddechrau 2025 mewn steil gyda sesiynau nofio mewn dŵr oer yn Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty!
Yn ôl ar ôl galw mawr, bydd sesiynau nofio mewn dŵr oer yn dychwelyd i Lido Ponty ddydd Sadwrn 1 Chwefror ac yn cael eu cynnal bob penwythnos am chwe wythnos. Tymheredd y pwll fydd 15 gradd.
Bydd tocynnau'n mynd ar werth am 9am, ddydd Llun 13 Ionawr 2025.
Denodd y sesiynau nofio mewn dŵr oer ymwelwyr o bob cwr o'r DU y llynedd. Mae'r sesiynau yma'n dilyn yr achlysuron nofio ar Ŵyl San Steffan a Dydd Calan yn y cyfleuster poblogaidd.
Bydd sesiynau nofio mewn dŵr oer yn dechrau tymor 2025, a byddan nhw'n cael eu cynnal am chwe wythnos tan 8 Mawrth. Ar ôl hynny, mae disgwyl i’r prif dymor ailddechrau adeg y Pasg gyda sesiynau nofio yn ystod yr wythnos a sesiynau hwyl i deuluoedd.
Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: “Ar ôl blwyddyn wych ond heriol arall yn Lido Ponty yn 2024, lle croesawon ni ymwelwyr o bedwar ban y byd, ochr yn ochr â'n hymwelwyr lleol ffyddlon, a goroeson ni ddifrod o ganlyniad i ddwy storm fawr, mae'n amser i ni groesawu 2025 gyda sesiynau nofio mewn dŵr oer.
“Mae'r sesiynau'n parhau i ddod yn fwy poblogaidd ac rydyn ni'n croesawu nofwyr 16 oed ac yn hŷn – mae modd gwisgo siwtiau gwlyb, hetiau, menig ac esgidiau nofio hefyd os oes angen.
“Mae'r sesiynau'n wych i'r rheiny sydd am ddechrau nofio mewn dŵr oer a gall pobl aros cyhyd ag yr hoffen nhw. Mae rhai yn nofio am hyd cyfan y sesiwn ac mae eraill yn mynd i mewn ac allan o'r dŵr.
“Fel bob amser, mae'r ystafelloedd newid a chawodydd dan do yn gynnes ac mae ein cymdogion yng Nghaffi'r Lido, yn ogystal ag ystod enfawr o gaffis a bwytai yng nghanol tref Pontypridd, yn gwerthu diodydd, byrbrydau a phrydau poeth.”
Mae modd prynu tocynnau ar gyfer y sesiynau nofio mewn dŵr oer ar wefan www.lidoponty.co.uk
Wedi ei bostio ar 10/01/2025