Mae'r Cyngor yn cynnal ymarfer ymgysylltu er mwyn helpu llywio a datblygu Strategaeth Canol Tref Tonypandy - sydd yn amlinellu gweledigaeth uchelgeisiol a chlir ar gyfer y dref a’r cynllun ar gyfer buddsoddiad lleol yn y dyfodol.
Mae cyllid adfywio wedi'i sicrhau gan Lywodraeth Cymru, drwy ei grant Creu Lleoedd, Trawsnewid Trefi, i ddatblygu'r Strategaeth yn y misoedd i ddod. Mae'r Cyngor wedi penodi'r ymgynghorwyr cynllunio The Urbanists i helpu gyda hyn, gyda'r bwriad o lunio Strategaeth ddrafft yn ystod gwanwyn 2025. Yna, bydd ymgynghoriad ffurfiol ar y Strategaeth ddrafft ar ddechrau haf 2025.
Mae’r ymarfer ymgysylltu cychwynnol yn ceisio barn trigolion ar gryfderau, gwendidau, heriau a chyfleoedd canol tref Tonypandy. Bydd y broses yn dod i ben ddiwedd mis Chwefror 2025.
Bydd y gweithgarwch yn cynnwys gweithdai gyda sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus allweddol, ysgolion a phobl ifainc, grwpiau cymunedol, busnesau, ac Aelodau Etholedig Lleol – gyda'r broses yn gyfle i'r Cyngor a phartneriaid ddod at ei gilydd.
Mae hefyd cyfle i'r cyhoedd ehangach gymryd rhan trwy dudalen benodol ar wefan ymgysylltu 'Dewch i Siarad' y Cyngor, o 24 Ionawr. Bydd yr wefan yn darparu mwy o wybodaeth ac arolwg, fel bod trigolion yn cael dweud eu dweud. Mae'n dilyn achlysur cychwynnol ar 20 Rhagfyr 2024, pan aeth swyddogion i Farchnad wythnosol Tonypandy i siarad â thrigolion, busnesau ac ymwelwyr.
Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Datblygu a Ffyniant: "Dyma gyfle cyffrous i drigolion ddweud eu dweud yng nghamau cynnar y gwaith o ddatblygu strategaeth adfywio glir y Cyngor ar gyfer Canol Tref Tonypandy, ochr yn ochr â'n hymgynghorydd cynllunio penodedig. Mae ffurfioli strategaeth o'r fath yn ffordd sefydledig i bawb ddod at ei gilydd a chytuno ar gyfres o nodau ac amcanion ar y cyd ar gyfer gwella, yn ogystal â gweledigaeth gyffredinol ar gyfer canol y dref.
"Ar ôl iddi gael ei datblygu a'i chytuno arni, bydd y Strategaeth yn y pen draw yn darparu cynllun ar gyfer buddsoddi yng Nghanol Tref Tonypandy yn y dyfodol. Mae prosesau tebyg wedi bod yn effeithiol mewn trefi eraill yn Rhondda Cynon Taf yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda strategaethau ar waith ar gyfer Aberpennar, Porth, Pontypridd ac Aberdâr.
"Mae swyddogion yn cydnabod bod ymgysylltu ac ymwneud â'r holl randdeiliaid yn hanfodol er mwyn nodi cryfderau, gwendidau a chyfleoedd yng nghanol tref Tonypandy - a dyna pam mae'r Cyngor yn cymryd rhan yn y cam cynnar yma o'r broses. Bydd yr holl safbwyntiau a'r adborth sy'n cael eu casglu erbyn diwedd mis Chwefror yn cael eu defnyddio i lywio Strategaeth ddrafft, i'w chyflwyno a bod yn destun ymgynghoriad ddechrau haf 2025. Felly, rwy'n annog yr holl drigolion sydd â diddordeb yn y mater i ddysgu rhagor a dweud eu dweud ar wefan 'Dewch i Siarad' y Cyngor dros yr wythnosau nesaf."
Wedi ei bostio ar 24/01/25