Skip to main content

Y Cabinet yn cytuno ar newid allweddol i gynnig gofal preswyl yng Nglynrhedynog

Mae'r Cabinet wedi dod i benderfyniad terfynol ar ddau gynnig sy'n ymwneud â gofal preswyl yn dilyn ymgynghoriad diweddar. Yn y cyfarfod ddydd Mercher, 22 Ionawr, aeth yr Aelodau ati i ddiwygio'r cynnig sy'n ymwneud â Chartref Gofal Ferndale House, gan gytuno i gadw'r ddarpariaeth ar agor nes y bydd llety gofal newydd yn cael ei adeiladu yng Nghwm Rhondda Fach. Bydd y Cyngor yn bwrw ymlaen â'r cynnig i gau Cartref Gofal Cae Glas.

Cafodd y cynigion eu dwyn ymlaen yn sgil newidiadau yn y galw am ofal preswyl. Mae rhagor o fanylion i'w gweld yma. Mae disgwyliadau pobl hŷn yn newid ac mae llai o drigolion yn dewis byw mewn cartrefi gofal traddodiadol. Yn hytrach, maen nhw’n awyddus i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain cyn hired â phosibl. 

Roedd adroddiad a gafodd ei gyflwyno i'r Cabinet ddydd Mercher yn crynhoi adborth yr ymgynghoriad.

Yn dilyn trafod adborth yr ymgynghoriad a chynnwys yr adroddiad, mae Aelodau'r Cabinet wedi penderfynu na ddylai'r Cyngor fwrw ymlaen â datgomisiynu Ferndale House. Bydd y llety'n aros ar agor nes y bydd y datblygiad cartref gofal newydd ar hen safle Ffatri 'Chubb' yng Nglynrhedynog yn barod.

Penderfynodd yr Aelodau hefyd y byddai'r cynnig ar gyfer Cartref Gofal Cae Glas yn y Ddraenen-wen yn mynd rhagddo yn unol â'r ymgynghoriad gwreiddiol. Penderfynodd yr Aelodau fwrw ymlaen â'r cynnig yma oherwydd bod gorgyflenwad o welyau cartrefi gofal preswyl ledled Rhondda Cynon Taf, a’r lefel uchel o gymhorthdal ​​sydd ei angen i redeg y cartref. O ganlyniad i hyn, bydd swyddogion yn dechrau ar y gwaith o ddatgomisiynu’r cartref gofal yn barhaol – byddan nhw'n sicrhau bod trigolion yn derbyn gofal parhaus ac yn effro i'r wybodaeth ddiweddaraf trwy gydol y broses yma.

Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Rydyn ni'n deall bod cyflwyno newidiadau i wasanaethau fel y rhain yn ennyn emosiynau cryf iawn.

“Wrth ddod i'w benderfyniad heddiw, bu’r Cabinet yn trafod ystod o faterion pwysig, gan gynnwys yr angen i ymateb i’r galw newidiol am ofal preswyl. Mae llawer o drigolion bellach yn dewis byw’n annibynnol am gyfnod hwy, gan arwain at orgyflenwad o gartrefi gofal preswyl. Mae’n yn debygol y bydd y duedd yma’n parhau yn y dyfodol. Mae'n bwysig felly bod y Cyngor yn dal ati i ystyried opsiynau i ailgynllunio ein gwasanaethau llety er mwyn cefnogi model darparu gwasanaeth mwy effeithlon a gwneud y defnydd gorau o'r adnoddau sydd ar gael, gan sicrhau bod modd diwallu anghenion ein holl drigolion.

“Mae’r setliad Llywodraeth Leol yn well na’r disgwyl, ac mae hyn wedi darparu rhywfaint o hyblygrwydd ariannol sydd wedi ein galluogi ni i ystyried y pryderon cryf a gafodd eu codi mewn perthynas ag effaith symud trigolion allan o Ferndale House, a'u symud eto o fewn cyfnod byr. Bydd modd osgoi hyn drwy aros nes bydd y datblygiad newydd ar safle Ffatri 'Chubb' ar agor cyn cau Ferndale House. Bydd y penderfyniad yma hefyd yn galluogi staff i drosglwyddo'n uniongyrchol i'r lleoliad newydd.

“Yn anffodus, oherwydd yr angen i leihau’r capasiti dros ben sy'n effeithio ar holl wasanaethau llety’r Cyngor, a’r angen i ymateb i alw newidiol o ran gofal, penderfynodd y Cabinet fwrw ymlaen â datgomisiynu Cartref Gofal Cae Glas. Nododd yr Aelodau fod bod digon o leoedd mewn cartrefi gofal preswyl a chartrefi gofal dementia phreswyl ledled y Fwrdeistref Sirol yn y tymor byr a'r tymor canolig.

“Bydd yr holl drigolion yn parhau i dderbyn gofal a chymorth trwy gydol camau nesaf y broses, a bydd swyddogion yn gweithio’n agos iawn gyda nhw a’u teuluoedd i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddyn nhw a'u helpu i ddod o hyd i lety amgen addas sy’n bodloni’r holl anghenion a aseswyd. Dim ond ar ôl i hyn gael ei gyflawni ar gyfer pob un o drigolion Cae Glas y bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith.”

Mae trefniadau galw i mewn Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Cyngor, ar gyfer galw penderfyniad y Cabinet i mewn, yn ddilys tan 5pm ar 27 Ionawr. 

Wedi ei bostio ar 22/01/25