Skip to main content

Gwaith lliniaru llifogydd lleol i'w gynnal yn Abercynon

Plantation Road grid - Copy

Bydd y Cyngor yn dechrau ar waith cynllun wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru yn fuan er mwyn lleihau perygl llifogydd ar Heol y Blanhigfa yn Abercynon.

Bydd trigolion yn sylwi ar waith yn cael ei gynnal ar y safle o ddydd Llun, 27 Ionawr ymlaen, ac mae disgwyl i'r cynllun gael ei gwblhau mewn oddeutu dau fis.

Ar hyn o bryd, mae dŵr sy'n llifo i lawr o'r mynyddoedd, wedi cyfnodau o law trwm, yn gollwng i'r briffordd yn aml gan achosi perygl llifogydd i eiddo cyfagos.

Bwriad y gwaith yw mynd i'r afael â'r broblem yma yn y cwrs dŵr cyffredin. Bydd yn cynnwys atgyweirio ac uwchraddio'r sianel yn uwch i fyny'r ffrwd sy’n golygu bydd y dŵr yn llifo heb rwystr.

Bydd yr isadeiledd draenio presennol hefyd yn cael ei uwchraddio, ynghyd â gwaith adeiladu cilfach cwlfer ychwanegol.

Bydd Carfan Gofal y Strydoedd Rhondda Cynon Taf yn cyflawni'r gwaith ar y safle, ar y cyd â'r is-gontractwr Peter Simmons Construction Ltd.

Bydd angen goleuadau traffig dros dro yn yr ardal waith ar Heol y Blanhigfa er mwyn cwblhau'r gwaith. Bydd mynediad i gerddwyr ar gael gan na fydd effaith ar unrhyw lwybr troed.

Mae'r cynllun yn cael ei ariannu yn rhan o Raglen Grant ar gyfer Gwaith ar Raddfa Fach Llywodraeth Cymru.

Diolch ymlaen llaw i'r gymuned am eich cydweithrediad.

Wedi ei bostio ar 20/01/25