Bydd gwaith brys sylweddol ar gwlfer ar Heol Troed-y-rhiw, Aberpennar, yn dechrau ar 3 Chwefror ac yn cael ei gynnal dros 8 wythnos. Bydd y gwaith yn cael ei gwblhau mewn dau gam, gyda phob cam yn cymryd oddeutu 4 wythnos i'w gwblhau.
Cafodd y cwlfer ar Heol Troed-y-rhiw ei ddifrodi yn sylweddol o ganlyniad i Storm Bert. Cafodd gwaith atgyweirio brys ei gyflawni ar y pryd er mwyn i'r cwlfer allu parhau i weithredu yn dilyn Storm Bert ac er mwyn ailagor y ffordd. Mae modd i waith brys pellach gael eu cynnal nawr er mwyn atgyweirio'r cwlfer yn ogystal â chynyddu ei gapasiti a'i gydnerthedd yn ystod tywydd eithafol.
Bydd cam cyntaf y gwaith yn cael ei gynnal ar Heol Troed-y-rhiw rhwng ei chyffordd â'r Poplys a Chlos y Cerdin / Bron-y-deri.
Yn ystod yr amser yma, bydd lôn ar gau ar Heol Troed-y-rhiw rhwng ei chyffordd â'r Poplys a Chlos y Cerdin / Bron-y-deri. Bydd ond modd i gerbydau deithio i gyfeiriad y de (i gyfeiriad yr Heol Newydd), a bydd goleuadau traffig dros dro ar Heol Troed-y-rhiw a Bron-y-deri er mwyn hwyluso'r gwaith mewn modd diogel.
Bydd ail gam y gwaith yn cael ei gynnal ymhellach i'r de ar hyd Heol Troed-y-rhiw, rhwng ei chyffordd â Chlos y Cerdin / Bron-y-deri a'r Heol Newydd (yr A4059).
Yn ystod y cyfnod yma, ni fydd modd i gerbydau gael mynediad at Heol Troed-y-rhiw o'i chyffordd â'r Heol Newydd. Dim ond cerbydau sy'n teithio i gyfeiriad y de (gan adael Heol Troed-y-rhiw) fydd yn cael defnyddio rhan yma'r ffordd.
Bydd goleuadau traffig dros dro ar Heol Troed-y-rhiw rhwng ei chyffordd â'r Poplys a Chlos y Cerdin / Bron-y-deri ac ar Fron-y-deri er mwyn hwyluso'r gwaith mewn modd diogel.
Rhaid i gerbydau sy'n dymuno cael mynediad at Heol Troed-y-rhiw o gyfeiriad yr Heol Newydd ddilyn llwybr y gwyriad ar hyd Heol y Dyffryn, Stryd Jeffrey, a Stryd Navigation.
Rydyn ni'n effro i'r ffaith bydd hyn yn tarfu'n lleol, ond rydyn ni'n diolch i chi am eich cydweithrediad. Gwaith brys sylweddol yw hwn er mwyn gwella diogelwch i drigolion nawr ac ar gyfer y dyfodol ac mae'n rhaid ei gynnal o ganlyniad i'r difrod sylweddol gafodd ei achosi i'r cwlfer.
Mae modd i chi ddod o hyd i wybodaeth mewn perthynas â'r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Dros Dro yma: www.rctcbc.gov.uk/ttro
Wedi ei bostio ar 31/01/25