Skip to main content

Ail gam cynllun gwaith atgyweirio draenio i gychwyn yn Aberpennar

Mountain Ash TC grid

Bydd ail gam y gwaith atgyweirio i isadeiledd draenio yn Aberpennar yn dechrau wythnos nesaf – gan ganolbwyntio ar Stryd y Ffrwd, y Stryd Fawr a Stryd Pryce.

Bydd y gwaith yn dechrau o ddydd Llun, 20 Ionawr, a bydd yn cynnwys atgyweirio darnau o bibellau lle bo angen, ynghyd ag ailadeiladu tyllau archwilio.

Bydd angen cynllun rheoli traffig dros dro yn rhai o’r lleoliadau gwaith, gan gynnwys cau lonydd sengl gyda goleuadau traffig dros dro ar hyd y Stryd Fawr.

Wrth i'r gwaith symud o un lleoliad i'r llall, bydd angen cau ffyrdd sydd wedi'u cynllunio, a hynny er mwyn gwneud cynnydd diogel.

Bydd hyn yn cynnwys cau pen deheuol Heol y Chwarel (am bythefnos ym mis Chwefror) a Stryd Pryce (am bedair wythnos ar draws mis Chwefror a mis Mawrth).

Bydd hysbysiadau a chynlluniau o'r ffyrdd fydd ar gau yn cael eu harddangos yn y mannau gwaith maes o law.

Lle bydd dim modd defnyddio llwybrau troed, bydd llwybrau dargyfeirio addas yn cael eu rhoi ar waith i gynnal diogelwch cerddwyr.

Bydd y gwaith cyffredinol wedi'i gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth 2025, a bydd yn cael ei gynnal gan garfan Gofal Strydoedd Rhondda Cynon Taf ochr yn ochr â'r is-gontractwr Arch Drainage Services.

Mae ail gam y gwaith yma yn Aberpennar yn dilyn cam cychwynnol, a gafodd ei gwblhau yn ddiweddar ar hyd Stryd y Buddugwr, Stryd y Clogwyn, Stryd y Ffrwd a'r Stryd Fawr.

Caiff y cynllun cyffredinol ei ariannu gan Gynllun Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu ArfordirolLlywodraeth Cymru, gyda dau gam y gwaith yn cynrychioli buddsoddiad cyfunol o fwy na £500,000.

Diolch ymlaen llaw i'r gymuned am eich cydweithrediad.

Wedi ei bostio ar 17/01/25