Mae landlord Tŷ Amlfeddiannaeth (HMO) ym Mhontypridd wedi cael dirwy o fwy na £1500 ar ôl torri amodau ei Drwydded Tŷ Amlfeddiannaeth.
Mae Mr Daly, landlord eiddo yn Heol Llanilltud, Trefforest, sydd wedi'i drwyddedu yn berchennog Tŷ Amlfeddiannaeth o dan Gynllun Trwyddedu Ychwanegol y Cyngor 2019 ar gyfer uchafswm o 5 o bobl sy'n byw fel 5 aelwyd. Cafodd ei ddal gan Gyngor Rhondda Cynon Taf am beidio â chydymffurfio â rheoliadau ac amodau'n ymwneud â'i drwydded Tŷ Amlfeddiannaeth ar ôl nifer o arolygiadau dilynol.
Gwnaeth Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor ymweld â'r Tŷ Amlfeddiannaeth ar gyfer arolygiad arferol ym mis Hydref 2023 a nodi nifer o ddiffygion a oedd yn gofyn am sylw Mr Daly i sicrhau diogelwch arferol yr eiddo. Ar ôl archwiliad ar 17 Gorffennaf 2024, canfuwyd bod Mr Daly yn dal i fethu ag ymdrin â'r diffygion ac nad oedd yn bodloni'r amodau sydd wedi'u nodi dan y drwydded Tŷ Amlfeddiannaeth. O ganlyniad i hyn, does dim dewis arall gan y Cyngor ond cyfeirio'r achos at y llys.
Ymhlith rhai o'r diffygion a amlygwyd oedd methu â darparu ffenestr agored o faint addas ar y llawr gwaelod at ddibenion awyru, paent yn gollwng a rendro'r drychiadau blaen/cefn a drws ffrynt pren mewn cyflwr gwael, gan gynnwys bwlch i'r gwaelod a'r ffrâm ar goll.
Cafodd yr achos ei glywed yn Llysoedd Ynadon Merthyr ar ddiwedd Rhagfyr 2024 a phlediodd Mr Daly yn euog i bum mater a amlygwyd. Methodd y llys â chytuno bod tywydd garw wedi atal Mr Daly rhag cyflawni'r gwaith.
Cafodd Mr Daly ddirwy o £1000 am y diffygion, costau o £150 a thâl ychwanegol o £400, gan roi cyfanswm o £1550 i'w dalu o fewn 28 diwrnod.
Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau:
"Dyma enghraifft arall eto o'n carfan Iechyd yr Amgylchedd yn helpu i ddiogelu hawliau a diogelwch preswylwyr sy'n rhentu gyda landlordiaid preifat. Mae gwaith caled y garfan i gynnal safonau yn y Fwrdeistref Sirol wedi arwain at erlyniad llwyddiannus arall o landlord nad oedd yn bodloni'r safon ofynnol o lety rydyn ni’n ei disgwyl i denantiaid. Dylid ystyried hyn yn rhybudd cryf i landlordiaid ledled y Fwrdeistref Sirol bod yn rhaid iddyn nhw gydymffurfio â'r rheolau neu wynebu'r canlyniadau.
"Mae dyletswydd ar landlordiaid i reoli eu holl eiddo yn rhagweithiol, gan nodi a datrys problemau fel mater o drefn wrth iddyn nhw godi, ac anwybyddodd Mr Daly lu o faterion mewn modd anystyriol, gan fethu ar ôl sawl ymgais i gywiro'r materion. Roedd hyn nid yn unig yn torri'r gyfraith ond gallai fod wedi peryglu diogelwch ei denantiaid.
"Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i greu cymunedau diogel a chryf a byddwn ni bob amser yn gweithredu yn erbyn landlordiaid twyllodrus sy'n diystyru'r rheolau."
Am ragor o wybodaeth am Dai Amlfeddiannaeth ewch i www.rctcbc.gov.uk/TaiAmlfeddiannaeth.
Wedi ei bostio ar 16/01/25