Y DIWEDDARAF: 20/01/25 – nodwch, bydd y gwaith yma yng Nghilfynydd yn dechrau ar 27 Ionawr, yn dilyn oedi nad oedd modd ei osgoi. Mae'r erthygl wreiddiol isod wedi cael ei diweddaru gyda'r trefniadau newydd yma. Diolch
Bydd cynllun gwaith i atgyweirio difrod i wal fawr yn ardal Cilfynydd yn dechrau'r wythnos nesaf. Bydd angen rhoi mesurau rheoli traffig ar waith yn ystod y cyfnod yma.
Mae wal gynnal y gwaith maen wedi'i lleoli rhwng Heol Cilfynydd a'r A470 - ac mae angen ailadeiladu'r rhan o'r strwythur sydd yn y llun.
Cafodd y wal ei difrodi yn ystod gwrthdrawiad y llynedd, ac mae angen adfer y strwythur er mwyn sicrhau ei fod yn ddiogel ar gyfer y dyfodol.
Bydd angen gosod goleuadau traffig dros dro ar Heol Cilfynydd yn ystod y dydd - mae disgwyl i hyn bara oddeutu pedair wythnos o ddydd Llun, 27 Ionawr, ymlaen.
Nodwch y bydd y llwybr troed yn yr ardal yma'n dal i fod ar gau tra bo'r gwaith yn mynd rhagddo. Serch hynny, bydd y mesurau rheoli traffig yn darparu cyfleusterau sy'n helpu cerddwyr i groesi'r ffordd.
Rhaid cau lonydd a ffyrdd tua'r de ar yr A470 o bryd i'w gilydd hefyd fel bod modd cyflawni rhannau o'r gwaith yn ddiogel.
Bydd y rhain yn cael eu cynnal yn ystod y nos er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl ar drigolion. Byddan nhw'n cael eu hyrwyddo gan Asiant Cefnffyrdd De Cymru (SWTRA), sydd â chyfrifoldeb am yr A470.
Mae'r Cyngor wedi penodi'r contractwr Hammond ECS Ltd i wneud y gwaith atgyweirio.
Diolch ymlaen llaw i drigolion a defnyddwyr y ffordd am eu cydweithrediad.
Wedi ei bostio ar 20/01/2025