Skip to main content

Cyflawni rhan olaf llwybr cerdded a beicio Cwm Rhondda Fach

Rhondda Fach Active Travel phase 5

Bydd gwaith adeiladu'n dechrau'r wythnos nesaf ar y rhan o Lwybr Teithio Llesol Cwm Rhondda Fach rhwng Glynrhedynog a phentref Tylorstown. Dyma brif ran olaf y llwybr cerdded a beicio 10km o hyd i gael ei hadeiladu.

Mae'r Cyngor yn gwneud cynnydd da iawn tuag at gyflawni'r buddsoddiad sylweddol yma ar gyfer cymunedau ledled Cwm Rhondda Fach. Bydd y llwybr a rennir newydd yn mynd o Faerdy i bentref Tylorstown, ac mae'r gwaith yn cael ei gyflawni mewn pum cam. Mae camau un, dau, pedwar a phump yn canolbwyntio ar y prif lwybr teithio llesol, tra bod cam tri'n darparu cyswllt lleol allweddol o'r llwybr.

Agorodd cam pedwar trwy dref Glynrhedynog i'r cyhoedd yn ddiweddar (dechrau mis Mehefin 2025) yn dilyn agor camau un a dau trwy Faerdy yn 2023 a 2024.

Mae'r Cyngor yn falch o gyhoeddi bod cwmni Horan Construction Ltd wedi'i benodi'n brif gontractwr i gyflawni gwaith cam pump. Efallai y bydd trigolion yn sylwi ar y gwaith cychwynnol ar y safle yn dechrau ddydd Llun 23 Mehefin.

Dyma ran olaf y prif lwybr, a bydd y cam yma'n uwchraddio rhan 2.8km o hyd o lwybr a rennir rhwng Glynrhedynog a phentref Tylorstown. Bydd yn parhau â'r llwybr o ben deheuol Cam Pedwar, gan ymestyn rhwng Canolfan Chwaraeon Cwm Rhondda Fach (Glynrhedynog) a throsbont Stanleytown, a chysylltu â llwybr i'r gymuned Ffordd Lliniaru Porth wrth ei ben deheuol. Bydd cam olaf y gwaith yma'n dilyn llwybr yr hen reilffordd ac yn creu cysylltiadau â'r ganolfan chwaraeon a Meddygfa Tylorstown.

Mae'r llwybr yn gymharol wastad, gyda bron pob arwyneb presennol wedi'i wneud o raean, cerrig a/neu dir moel. Bydd pob arwyneb yn cael ei uwchraddio wrth i ni osod wyneb newydd. Bydd Cam Pump hefyd yn cynnwys gwaith hanfodol ar ddwy hen bont reilffordd i gynnal ategweithiau a phileri'r strwythurau, a gosod deciau newydd ar y pontydd. 

Yn ystod y gwaith, bydd y llwybr presennol a fydd yn cael ei uwchraddio yng ngham pump yn cau i'r cyhoedd o 23 Mehefin. Yn ogystal, bydd ardal mwyaf deheuol cam pedwar, ger y trac beicio newydd a Heol yr Orsaf, hefyd yn cau o'r wythnos sy'n dechrau 16 Mehefin. Mae hyn yn hanfodol i sicrhau diogelwch, a rhaid i drigolion barchu'r cau yn ystod y cyfnod.

Bydd yna hefyd sawl mynediad i'r safle ar gyfer y contractwr ar hyd y llwybr. Bydd yr un mwyaf gogleddol ger pont Heol yr Orsaf yng Nglynrhedynog, ac ar y pen deheuol bydd mynediad o dan bont Heol Llanwynno a thrwy'r maes parcio y tu cefn i Feddygfa Tylorstown. Bydd safle ar gyfer peiriannau ac offer y contractwr yma, gyda'r holl waith cyflenwi a thraffig adeiladu yn cael eu trefnu gyda'r feddygfa i leihau aflonyddwch. Bydd yr ardal o balmant wrth ymyl y cae chwarae yn Stryd Edmondes, Tylorstown hefyd yn cael ei defnyddio i gynnig mynediad ychwanegol a man storio. Does dim disgwyl llawer o aflonyddwch yn y lleoliad yma.

Yr unig lwybr amgen sydd ar gael i gerddwyr a beicwyr ar hyd llwybr Cam Pump yw'r briffordd rhwng Tylorstown a Glynrhedynog (A4233). Mae gwaith Cam Pump i fod i ddod i ben tua dechrau gwanwyn 2026.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: "Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi'r Cyngor gyda buddsoddiad sylweddol bob blwyddyn o'i Chronfa Teithio Llesol, gyda'r nod cyffredin o wella a chreu llwybrau cerdded a beicio newydd ar gyfer ein cymunedau. Yn 2025/26, mae dros £1 filiwn wedi'i sicrhau i fwrw ymlaen â gwaith dylunio ar gyfer llwybrau teithio llesol newydd rhwng Tonysguboriau a Llanharan, a rhwng Treorci a Threherbert, ynghyd â chytundebau mewn egwyddor i ddatblygu sawl cynllun arall.

"Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi darparu cyllid ar gyfer cyflawni cam pump Llwybr Teithio Llesol Rhondda Fach yn ei gyfanrwydd, ac rydw i'n falch bod y gwaith adeiladu bellach yn barod i ddechrau o 23 Mehefin. Mae hyn yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus yr haf diwethaf a chaniatâd cynllunio ym mis Ionawr 2025. Agorodd cam pedwar y prif lwybr, trwy dref Glynrhedynog, ddechrau mis Mehefin 2025, gyda dim ond mân waith gorffen yn mynd rhagddo ar hyn o bryd.

"Cam pump o dref Glynrhedynog i bentref Tylorstown yw rhan olaf y prif lwybr ar draws Cwm Rhondda Fach, sef llwybr sydd dros 10km o hyd. Mae'n fuddsoddiad mawr yn ein cymunedau lleol wrth i ni annog rhagor o bobl i gerdded a beicio rhannau o'u teithiau bob dydd. Bydd hyn yn gwella eu hiechyd a'u lles, a bydd deilliannau ychwanegol megis lleihau nifer y cerbydau ar ein ffyrdd, lleddfu tagfeydd traffig, a diogelu'r amgylchedd."

Dyma grynodeb o'r manylion am bedwar cam cyntaf y llwybr:

  • Cafodd Cam Un ei gyflawni ddiwedd 2023. Creodd y gwaith yma ben gogleddol y llwybr teithio llesol cyffredinol, o leoliad i'r gogledd o ystad ddiwydiannol Maerdy i bwynt ger Cofeb Porth Maerdy.
  • Cafodd Cam Dau ei gyflawni yn 2024, gan ymestyn y llwybr i'r de o gam un. Mae'n ymestyn trwy ardal Maerdy am 1.5km o Gofeb Porth Maerdy, gan ddilyn yr hen reilffordd.
  • Cam Tri sy'n gwella'r llwybr beicio presennol yn ardal Maerdy a chreu llwybr newydd 1.5km o hyd sy'n arwain i Stryd Richard a Phwll Nofio Glynrhedynog. Derbyniodd y cam yma ganiatâd cynllunio ym mis Mehefin 2024 ac mae'n parhau i gael ei ddatblygu, gyda gwaith ceisio cyllid yn parhau ar gyfer ei gyflawni.
  • Cafodd Cam Pedwar ei gyflawni yn 2025, gan uwchraddio'r hen reilffordd ar draws Glynrhedynog – o bwynt i'r gogledd o Deras Ffaldau (ger Maerdy) i bwynt ger Cartref Angladdau Dolycoed (Tylorstown). Roedd yn cynnwys cyswllt newydd â Stryd yr Afon (Glynrhedynog) ac adeiladu dwy bont droed newydd ym Mlaenllechau.
Wedi ei bostio ar 17/06/2025