Mae effaith gadarnhaol partneriaeth Bwyd RhCT wedi dod i'r amlwg yn ystod ymweliad diweddar i Down to Zero gan y Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb, Sioned Williams.
Wrth weithio i wella mynediad at fwyd fforddiadwy a chryfhau rhwydweithiau bwyd lleol ar draws Rhondda Cynon Taf, mae'r Cyngor yn cydweithio â sefydliadau cymunedol a'r trydydd sector, gwirfoddolwyr, busnesau bwyd a phartneriaid eraill i gefnogi preswylwyr sy'n profi ansicrwydd o ran bwyd, gan helpu ar yr un pryd i ddatblygu system fwyd leol sy'n fwy cynaliadwy ac yn fwy cydnerth.
Un sefydliad sy'n gwneud gwahaniaeth sylweddol i uchelgeisiau Partneriaeth Bwyd RhCT yw Down to Zero, cymdeithas budd cymunedol dielw sy'n tyfu bwyd fforddiadwy ac iach, gan greu cyfleoedd i bobl leol wirfoddoli, datblygu sgiliau a chymryd rhan mewn gwaith gweithredu o ran hinsawdd.
Yn ystod 2025-26, fe ymgysylltodd Down to Zero â mwy na 180 o bobl drwy achlysuron, hyfforddiant a gweithgareddau gwirfoddoli. Cyfrannodd ei 44 o wirfoddolwyr rheolaidd dros 5,600 o oriau, tra bod ei menter Llysh Bocs wedi dosbarthu mwy na 230 o flychau bwyd, sy'n cyfateb i 2.4 tunnell o fwyd cynaliadwy, i 80 o gwsmeriaid ledled Rhondda Cynon Taf.
Mae gwaith Down to Zero yn ymestyn y tu hwnt i dyfu a dosbarthu bwyd drwy wella mynediad at fannau cymunedol gwyrdd a chefnogi natur a bioamrywiaeth. Mae hyn yn cynnwys gwaith gyda Gwlyptiroedd Cymunedol Cwm-bach, lle daethpwyd â 27 erw o wlyptiroedd a choetiroedd i berchnogaeth y gymuned a'u prydlesu i Gwlyptiroedd Cymunedol Cwm-bach Ltd i'w rheoli am 25 mlynedd.
Mae Down to Zero hefyd yn croesawu gwirfoddolwyr o Men's Shed Pont-y-clun yn rheolaidd ac yn gweithio gyda sefydliadau fel Think Creatively i ddarparu gweithgareddau sy'n seiliedig ar natur ac sy'n helpu pobl leol i ddatblygu sgiliau, cysylltu ag eraill a gwella eu lles.
Mae'r Cyngor hefyd yn gweinyddu cyllid Llywodraeth Cymru i gefnogi sefydliadau cymunedol sy'n ymateb i galedi ledled y Fwrdeistref Sirol, gyda dros £206,000 wedi'i ddyfarnu i 112 o sefydliadau cymunedol yn ystod 2025-26, trwy Gronfa Cymorth Bwyd Brys Llywodraeth Cymru a Chronfa Caledi Gaeaf RhCT.
Meddai Kevin Edwards, un o reolwyr y safle yn Down to Zero, Llantrisant: "A minnau'n arwain Llysiau yn Down to Zero, fy rôl yw helpu gyda rhedeg y safle yn gyffredinol, a dosbarthu nwyddau’r Llysh Bocs. Ar hyn o bryd rwy'n dosbarthu bocsys llysiau i 40 o deuluoedd ledled RhCT.
“Mae’r cynllun yn helpu teuluoedd sy’n cael trafferth gyda thlodi bwyd i gael cynnyrch bob tridiau. Mae'n dorcalonnus clywed bod teuluoedd yn ei chael hi'n anodd bwydo eu plant, felly rwy'n falch iawn o fod yn rhan o gynllun sy'n ceisio lleihau tlodi bwyd.”
Cafodd effaith ehangach y dull partneriaeth yma'i gydnabod yn ystod yr ymweliad â Down to Zero ddydd Iau, 17 Medi, pan ymwelodd y Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb, Sioned Williams. Yn ystod taith o amgylch y safle, fe gwrddodd y Dirprwy Brif Weinidog â gwirfoddolwyr, staff a phartneriaid cymunedol a dysgu sut mae’r prosiect yn darparu bwyd fforddiadwy, wedi’i dyfu’n lleol wrth greu cyfleoedd gwirfoddoli a mentrau amgylcheddol i bobl leol.
Roedd yr ymweliad yn cyd-fynd â Chyhoeddiad Llywodraeth Cymru o gyllid gwerth £4.8 miliwn ar gyfer awdurdodau lleol ledled Cymru i ddarparu cymorth bwyd brys a helpu i atal tlodi dros y tymor hir. Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i gryfhau rhwydweithiau cymorth cymunedol, darparu grantiau i sefydliadau sy'n wynebu galw cynyddol a helpu grwpiau cymunedol i brynu offer i storio a dosbarthu bwyd.
Meddai Sioned Williams, Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb:"Ddylai neb yng Nghymru orfod mynd heb fwyd na chael trafferth dod â dau ben llinyn ynghyd. Bydd y cyllid yma'n helpu awdurdodau lleol i ymateb yn gyflym i bobl mewn argyfwng ar hyn o bryd, yn ogystal â chynyddu cefnogaeth y tymor hir sy'n helpu teuluoedd i osgoi caledi yn y dyfodol.
"Rydyn ni'n gwybod bod costau byw yn parhau i roi pwysau ar gartrefi ledled y wlad, a dyna pam rydyn ni'n targedu cefnogaeth lle mae ei hangen fwyaf. Rydyn ni am i bob rhan o Gymru gael yr adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw i gefnogi pobl trwy gyfnodau anodd a meithrin cydnerthedd parhaol ar gyfer y dyfodol."
Drwy ddod â grwpiau cymunedol, cyrff cyhoeddus a busnesau bwyd ynghyd, mae Partneriaeth Bwyd RhCT yn helpu sefydliadau i rannu gwybodaeth, nodi anghenion lleol a datblygu dull mwy cydlynol o wella mynediad at fwyd iach, fforddiadwy a chynaliadwy ledled Rhondda Cynon Taf, gan gyd-lunio'r. Strategaeth Fwyd RhCT Taith Bwyd - Y Daith Fwyd 2025-2030 cyntaf.
Yn 2025, sicrhaodd y bartneriaeth y Wobr Arian Lleoedd Bwyd Cynaliadwy, gan gydnabod cryfder ei chydweithrediad traws-sector a'i waith hirdymor i fynd i'r afael â thlodi bwyd.
Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Cymunedau, Diwylliant a Hamdden: “Ddylai neb orfod wynebu ansicrwydd bwyd, ac rydyn ni wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru a’n partneriaid cymunedol dros nifer o flynyddoedd i ddatblygu rhwydwaith cryf o gefnogaeth ledled Rhondda Cynon Taf.
“Yn ystod 2025-26, dyfarnodd y Cyngor fwy na £206,000 i 112 o sefydliadau cymunedol drwy Gronfa Cymorth Bwyd a Chronfa Caledi Gaeaf Llywodraeth Cymru, gan eu helpu i ddarparu cefnogaeth hanfodol i drigolion ledled Rhondda Cynon Taf.
“Mae Down to Zero yn enghraifft wych o’r gwahaniaeth cadarnhaol y mae sefydliadau cymunedol yn ei wneud ar draws Rhondda Cynon Taf. Drwy ei waith i ddarparu bwyd fforddiadwy, wedi'i dyfu'n lleol, cefnogi gwirfoddolwyr a chreu cyfleoedd i bobl ymgysylltu â natur, mae'r prosiect yn gwella bywydau, yn cryfhau cymunedau ac yn galluogi trigolion i gymryd rhan mewn gweithredu amgylcheddol lleol.
“Felly, rydyn ni'n croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru am gyllid parhaus a bydd yn ein helpu i barhau i gefnogi sefydliadau cymunedol a chryfhau rhwydweithiau lleol drwy Bartneriaeth Bwyd RhCT, gan sicrhau bod modd i drigolion gael mynediad at gymorth ymarferol yn eu cymunedau.”
Bydd Pecyn Cymorth Taclo Tlodi newydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi teuluoedd ledled RhCT, gan ddarparu gweithgareddau atal tlodi ehangach, cymorth bwyd uniongyrchol a chymorth i sefydliadau cymunedol lleol.
Mae Down to Zero yn gymdeithas buddiannau cymunedol dielw sy'n cefnogi gweithgareddau amgylcheddol dan arweiniad cymunedol sy'n mynd i'r afael â newid hinsawdd.
Dysgwch ragor am Down to Zero
Mae Partneriaeth Bwyd Rhondda Cynon Taf yn rhwydwaith arobryn sy'n cynnwys sefydliadau ac unigolion sy'n angerddol am sicrhau bwyd iach, cynaliadwy a hygyrch i bawb.
Dysgwch ragor am Bartneriaeth Bwyd RhCT
Wedi ei bostio ar 15/10/2026