Cafodd seremoni ei chynnal yn Amlosgfa Glyn-taf i agor gardd goffa newydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, Seren Fach, er cof am bob baban a fu farw'n rhy gynnar.
Daeth Aelodau'r Cyngor, ei Wasanaethau Profedigaethau, rhieni sydd wedi colli babanod, elusennau sy'n darparu cymorth i’r rheiny sydd wedi colli babanod a staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg sy'n gofalu am y rhai sy'n cael eu heffeithio ynghyd ar gyfer yr achlysur.
Cafodd ymwelwyr â'r amlosgfa gyfle i edmygu'r ardal newydd hardd yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod. Cafodd yr ardal ei hadeiladu gan staff y Gwasanaethau Profedigaethau a'r contractwr P Morgan Services.
Mae Seren Fach yn darparu man tawel, lle mae modd i bobl eistedd, myfyrio a chofio, gan gydnabod bod angen lle arbennig ar deuluoedd, gan gynnwys y rheiny sydd heb fedd y mae modd ymweld ag ef.
Mae'n cynnwys meinciau addurnedig sy’n cynnig lle heddychlon i unrhyw un sydd eisiau eistedd, yn ogystal â phlanhigion, tirlunio a ffrisiau coffa wedi’u gwneud â metel. Mae modd i bobl brynu deilen fetel wedi’i hysgythru a neges i’w hanwylyd coll, cyn iddyn nhw eu rhoi ar y gofeb.
Mae’r ardal hefyd yn cynnwys cerfluniau a thedis i adlewyrchu’r babanod a’r plant bach.
Cynhaliodd Prif Gaplan Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, y Parchedig Carolyn Castle, gysegriad ar gyfer Seren Fach cyn arwain gwasanaeth yng nghapel yr amlosgfa.
Cafodd ardal Seren Fach ei hagor yn swyddogol gan y Cynghorydd Maureen Webber BEM, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf. Datgelodd y Cynghorydd Webber BEM plac ar gyfer yr ardd.
Wrth ddatgelu'r plac swyddogol, dywedodd: “Ardal goffa ar gyfer pob baban a fu farw’n rhy gynnar yw Seren Fach. Mae'r Cyngor yn effro i’r ffaith bod angen lle fel hyn ar nifer fawr o deuluoedd, ac rydyn ni'n falch o fod wedi'i ddarparu.
“Mae Seren Fach yn dyst i dosturi carfan y Gwasanaethau Profedigaethau, a oedd yn effro iawn i’r galw am ardal fel hyn cyn mynd ati i’w chreu.
“Mae’r ardal yn adlewyrchiad o'r tosturi, yr urddas a'r gefnogaeth gyson y mae staff gwych Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf ac elusennau penodol yn eu darparu i’r rhai sy’n colli baban.
“Mae’n eithaf arbennig gweld cynrychiolwyr o’r holl garfanau, sefydliadau ac elusennau yma heddiw wrth i ni agor Seren Fach, gan wybod y bydd yr ardal yma’n ardal y bydd modd i bawb ei defnyddio. Dyma arwydd o’n cydymdeimlad a’r gefnogaeth rydyn ni'n ei chynnig i’r rhai sy'n galaru.”
Aeth Jade Harries o The Mitchell Foundation i'r lansiad. Sefydlodd Jade yr elusen er cof am ei mab, Mitchell, a fu farw yn dair awr oed yn 2023. Mae hi bellach yn rhoi o'i hamser i helpu teuluoedd eraill, gan ddarparu hanfodion iddyn nhw ar gyfer yr ysbyty a rhoi cefnogaeth iddyn nhw pan fydd ei hangen. Darllenwch ei stori a chael rhagor o wybodaeth, yma.
Mae mannau fel Gardd Goffa Seren Fach yn hynod bwysig i deuluoedd sydd wedi colli babi neu blentyn, gall ardal y mae modd ymweld â hi i gofio, myfyrio a chasglu’ch meddyliau eich helpu trwy’r cyfnod yma.
Dywedodd hi: "Mae colli babi neu blentyn yn dorcalonnus i deuluoedd sy'n byw trwy'r golled yma. Yn anffodus mae nifer o deuluoedd yn colli mab neu ferch ac mae’r daith trwy’r broses alaru’n edrych yn wahanol i bawb.
"Mae mannau fel Gardd Goffa Seren Fach yn hynod bwysig i deuluoedd sydd wedi colli babi neu blentyn, gall ardal y mae modd ymweld â hi i gofio, myfyrio a chasglu’ch meddyliau eich helpu trwy’r cyfnod yma.
"Does gan rai teuluoedd ddim gorffwysfan ar gyfer eu babi neu blentyn, weithiau mae’r teulu wedi dewis gwneud hyn, ond i nifer o deuluoedd, doedd dim dewis arall gyda nhw ar y pryd. Rwy’n sicr y bydd yr ardd yma'n rhoi cyfle i deuluoedd ddod ynghyd i gofio'r plentyn neu'r baban annwyl y maen nhw wedi'u colli."
Does gan rai teuluoedd ddim gorffwysfan ar gyfer eu babi neu blentyn, weithiau mae’r teulu wedi dewis gwneud hyn, ond i nifer o deuluoedd, doedd dim dewis arall gyda nhw ar y pryd. Rwy’n sicr y bydd yr ardd yma'n rhoi cyfle i deuluoedd ddod ynghyd i gofio'r plentyn neu'r baban annwyl y maen nhw wedi'u colli’.
Mae croeso i bob ymwelydd dreulio amser yn Seren Fach yn Amlosgfa Glyn-taf a dyma'ch atgoffa bod modd i chi hefyd ymweld â’r Ardaloedd Coffa sydd ar gael ym Mynwentydd Trealaw, Maes-yr-Arian a Threorci. Mae gan bob un o'r ardaloedd coffa flwch post Llythyrau i'r Nefoedd lle mae modd postio llythyrau, cerddi, lluniau a negeseuon at anwyliaid coll.
Os ydych chi’n dymuno prynu deilen fetel i'w chynnwys ar y ffrisiau addurnedig sydd ym Mynwentydd Treorci, Trealaw a Seren Fach, mae modd i chi wneud hynny drwy e-bostio'r Dail Mynwent.
Wedi ei bostio ar 16/10/2026