Wrth i Gymru baratoi i nodi 60 mlynedd ers trychineb Aberfan, mae Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda wedi lansio cyfres o achlysuron coffa lleol i bawb eu mynychu.
Dyma wahodd y rhai sy'n dymuno myfyrio a chofio ar 21 Hydref i ymweld â'r amgueddfa yn Nhrehafod ar gyfer gweithgareddau ac achlysuron agored wedi'u trefnu, i gyd yn rhad ac am ddim.
Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cyd-sefyll mewn undod â’i gymunedau wrth i Gymru gofio a nodi 60 mlynedd ers trychineb Aberfan.
“Mae ein meddyliau’n parhau gyda’r 116 o blant a'r 28 o oedolion a fu farw ar 21 Hydref 1966, a'r rhai sy'n parhau i gael eu heffeithio hyd heddiw. Yn angof ni chânt fod.
"Mae Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda ar safle hen Lofa Lewis Merthyr, yng nghadarnle diwydiannol y Cymoedd. Mae ein cymunedau wedi'u cysylltu'n agos â chymuned Aberfan. Rydyn ni am gynnig lle i fyfyrio a chofio yn lleol, i gyd-fynd ag achlysuron cofio ehangach fydd yn cael eu cynnal ledled Cymru.
“Rydyn ni'n ddiolchgar i’r holl sefydliadau partner ac unigolion sydd wedi creu ffyrdd teimladwy a phwysig o gofio yn y dyddiau cyn, ac yn dilyn, 21 Hydref.
“Mae’n bwysig ein bod ni nid yn unig yn myfyrio ac yn cofio, ond hefyd yn parhau i gofnodi atgofion a rhannu straeon, gan greu gwaddol i genedlaethau’r dyfodol a fydd, wrth i’r blynyddoedd fynd heibio, yn cynnal ein haddewid i beidio byth ag anghofio’r rhai a fu farw yn Aberfan."
Mae pob achlysur yn rhad ac am ddim i fynychu ac yn cynnwys y canlynol:
Atgofion Ffotograffydd Cylchgrawn Life, I. C. Rapoport, am Drychineb Aberfan
Bwriwch olwg ar gerflun coffa hardd 21.10.1966 144 9.13AM
The Silent Volunteer
Coeden Goffa a Gobaith
Arddangosfa ddigidol, ryngweithiol a chwrt gyda gwrthrychau yn ymwneud â mwyngloddio yn arddangos bywyd yng Nghymunedau Glofaol De Cymru.
Atgofion Ffotograffydd Cylchgrawn Life, I. C. Rapoport, am Drychineb Aberfan
Dydd Mawrth, 20 Hydref, 2pm: Dangosiad ffilm a sesiwn holi ac ateb gyda Suzanne Grover, gafodd ei magu yn Aberfan ac a oedd yn fyfyrwraig Lefel A ac yn aelod o Warchodlu Sifil Merthyr Tudful pan ddigwyddodd y trychineb.
Ar 21 Hydref, 1966, cafodd hi, yn yr un modd â phob disgybl arall yn Aberfan, ei hanfon adref o'r ysgol yn gynnar ar ôl i'r trychineb heb ei debyg o'r blaen ddigwydd. Yna aeth i gynorthwyo'r Gwarchodlu Sifil yn ei hen ysgol – Ysgol Fabanod ac Iau Pantglas – i roi help llaw. Ni fydd yr hyn a welodd hi'r diwrnod hwnnw byth yn cael ei anghofio.
Aeth Suzanne, pennaeth wedi ymddeol, ymlaen i arwain a chyflawni prosiectau yn ymwneud ag Aberfan, gan gynnwys Achlysur Coffa I. C. Rapoport yn 2016, oedd yn nodi 50 mlynedd ers trychineb Aberfan.
Roedd I. C. “Chuck” Rapoport yn ffoto-newyddiadurwr ifanc o'r Unol Daleithiau, a oedd ar aseiniad yn Aberfan gyda chylchgrawn LIFE ar 21 Hydref, 1966. Fe arhosodd yn y pentref am chwe wythnos a daeth ei ffotograffau o'r plant, y teuluoedd a'r gymuned a oroesodd, wrth iddyn nhw frwydro i ddod i delerau â'r trychineb ofnadwy yma, i sylw rhyngwladol mewn traethawd lluniau yng nghylchgrawn LIFE ym 1967. Mae'r 111 o luniau gwreiddiol yn gofnod rhyfeddol o fywyd yn Aberfan yn dilyn y trychineb ac yn gofnod hanesyddol o fywyd yng nghymoedd De Cymru.
Gweithiodd Suzanne gyda Chuck Rapoport i gynhyrchu'r ffilm 'Sorrow and Stirring Of a New Life', sy'n cynnwys lluniau nas gwelwyd o'r blaen, wedi'u dewis i ddarparu ffyrdd newydd a gwahanol o fyfyrio a chofio. Mae'n ffurf o gysylltu â chynulleidfaoedd a chenedlaethau gwahanol, er mwyn iddyn nhw hefyd allu trin a thrafod eu treftadaeth, gweld effaith trychineb o'r fath, profi cydnerthedd y gymuned yn sgil y trychineb a pharhau â'r gwaddol a'r cofio.
Bydd 'Sorrow and Stirring Of A New Life' yn cael ei ddangos yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda ym mhresenoldeb Suzanne, a fydd yna'n cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb.
2pm, ddydd Llun 20 Hydref yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda. I beidio â chael eich siomi, archebwch eich tocynnau am ddim trwy ffonio'r Parc Treftadaeth ar 01443 682036.
Bwriwch olwg ar gerflun coffa hardd 21.10.1966 144 9.13AM
Mae'r cerflun yn sefyll yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda, yn gofeb barhaol i'r bywydau a gollwyd ar 21 Hydref, 1966. Mae'r cerflun yn cynnwys 144 o glociau, un ar gyfer pob un o'r oedolion a'r plant a fu farw yn y trychineb. Mae pob un o'r clociau yn dangos 9.13am, union amser y trychineb. Fe'i crëwyd gan y cerflunydd rhyfeddol o Gymro, Nathan Wyburn, a fagwyd ger Aberfan ac mae'n seiliedig ar ffotograff o'r cyn-löwr Johnny Thomas, wrth iddo wneud ei ffordd i safle'r trychineb, un o'r cyntaf i gyrraedd y safle.
Ewch i Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn ystod oriau agor i weld y cerflun.
The Silent Volunteer
Rhannwch eich atgofion neu fyfyrdodau a dewch i weld drama deimladwy, gyffrous gan ddisgynyddion ymatebwyr trychineb Aberfan ym mhrosiect 'The Silent Volunteer' Avant Cymru.
Yn rhan o'r prosiect, mae blwch post coffaol wedi'i osod yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda, er mwyn i bobl rannu atgofion, myfyrdodau a negeseuon coffa. Bydd pob cyfraniad sy'n cael ei bostio yn cael ei gadw tan ganmlwyddiant y trychineb yn 2066, gan greu gwaddol parhaol i genedlaethau’r dyfodol.
Mae modd i chi alw heibio a phostio'ch atgofion unrhyw bryd yn ystod oriau agor.
Dewch i weld 'The Silent Volunteer', drama sy'n cynnwys disgynyddion y rhai a aeth i helpu ar y diwrnod ofnadwy hwnnw, sy'n cofio'n deimladwy ond sydd hefyd yn dechrau sgwrs am sut mae hanes yn parhau i lywio cymunedau glofaol hyd heddiw.
Dewch i weld y ddrama yn Neuadd Lles Tylorstown ar 21 Hydref am 1pm neu 7.30pm neu yn Adeilad y Pierhead yng Nghaerdydd am 10am ar 20 Hydref.
Coeden Goffa a Gobaith
Dyma estyn gwahoddiad i chi helpu'r goeden yma i dyfu. Dewiswch ddeilen ac ychwanegwch eich neges o garedigrwydd eich hun. Gallwch chi ysgrifennu ychydig o eiriau, darlunio, neu ddefnyddio un o'r syniadau yma i ddechrau arni:
- Ysgrifennu neges o garedigrwydd i blant a theuluoedd Aberfan
- Darlunio rhywbeth sydd yn gwneud i chi feddwl am obaith, gofal a chyfeillgarwch.
- Rhannu dymuniad am ddyfodol mwy caredig.
- Ychwanegu eich deilen i'r goeden a’i gwylio hi'n tyfu gyda negeseuon pawb arall.
Mae pob deilen yn helpu'r goeden i ffynnu a disgleirio. Gyda'i gilydd, mae'r dail yn dangos bod gweithredoedd bach caredig yn gallu tyfu i fod yn rhywbeth ystyrlon, gan ein helpu ni i gofio Aberfan gyda gofal, parch a gobaith.
Ewch i Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn ystod oriau agor i rannu eich neges ar y Goeden Goffa a Gobaith.
Arddangosfa ddigidol, ryngweithiol a chwrt gyda gwrthrychau yn ymwneud â mwyngloddio yn arddangos bywyd yng Nghymunedau Glofaol De Cymru.
Dewch i brofi'r eitemau digidol, rhyngweithiol a hanesyddol sydd i'w gweld yn y man arddangos ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda, gan gynnwys eitemau a chofnodion sy'n ymwneud ag Aberfan a'r cyfnod a ddilynodd. Mae ffotograffau, fideos ac arteffactau hanesyddol yn rhoi cyfle i ymwelwyr brofi sut beth oedd bywyd yng nghymunedau glofaol De Cymru a gweld sut y datblygodd yr ysbryd cymunedol cryf oedd i'w ganfod ym mhentrefi ardal Aberfan trwy ddyddiau tywyllaf y trychineb.
Ewch i Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn ystod oriau agor i weld yr arddangosfeydd a'r arteffactau mwyngloddio hanesyddol yn y cwrt.
Mae Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda ar agor o 9am tan 4.30pm, dydd Mawrth i ddydd Sadwrn. Mae modd gweld yr arddangosfa, Blwch Post 'The Silent Volunteer' a cherflun 21.10.1966 144 9.13AM unrhyw bryd yn ystod oriau agor.
Wedi ei bostio ar 12/10/2026