Bydd trigolion yn ardal Porth yn sylwi ar waith yn digwydd ar dir gwag yn agos i’r cyfleuster Parcio a Theithio presennol ger Gwesty Rheola yn fuan. Mae'r contractwr sydd wedi'i benodi gan y Cyngor ar fin dechrau cynllun pwysig i greu 50 lle parcio ychwanegol, yn rhan o fuddsoddiad gyda Llywodraeth Cymru.
Ym mis Mawrth 2026, sicrhaodd y Cyngor gyllid allweddol gan Lywodraeth Cymru - trwy Gronfa Trafnidiaeth Rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ar gyfer 2026/27 - er mwyn cwblhau ystod eang o brosiectau trafnidiaeth ledled y Fwrdeistref Sirol. Cafodd £1.369 miliwn ei ddyrannu er mwyn cyflawni Cam Tri'r cyfleuster Parcio a Theithio yn ardal Porth, gan ei gwneud yn haws i drigolion a chymudwyr gyfuno teithiau mewn car, ar y trên neu ar fws, mewn lleoliad y mae Gorsaf Reilffordd Porth a Hwb Trafnidiaeth Porth yn ei ddefnyddio.
Yn ystod blynyddoedd blaenorol, mae Cam Un wedi creu 73 o leoedd parcio yn yr orsaf reilffordd, yn ogystal â chyfleusterau eraill megis goleuadau stryd a mannau parcio ar gyfer beiciau. Darparodd Cam Dau 29 o leoedd parcio ychwanegol yn y maes parcio gyferbyn â Gwesty Rheola.
Bydd gwaith adeiladu Cam Tri yn dechrau'n fuan, o ddydd Llun 19 Hydref. Bydd contractwr y Cyngor, Centregreat Ltd, yn sefydlu ei safle yn y lle cyntaf, a bydd y prif gam adeiladu yn dilyn. Mae disgwyl i’r prosiect ddod i ben yn y gwanwyn, 2027.
Bydd y prosiect sydd ar y gweill yn canolbwyntio ar yr ardal sydd i'w gweld yn y llun, gan ddefnyddio'r rhan fwyaf o'r tir nas defnyddir y tu ôl i Westy Rheola, a symud aliniad ffordd bresennol yr ystad ddiwydiannol i sicrhau defnydd mwy effeithlon o'r ardal. Bydd y cam yma'n cynnwys creu 50 o leoedd parcio ychwanegol, gosod goleuadau newydd, a chwblhau gosodiadau draenio. Derbyniodd y cynllun ganiatâd cynllunio ym mis Ebrill 2026.
Bydd yna ychydig o darfu yn yr ardal leol yn ystod y gwaith yma. Bydd y rhan o'r cyfleuster Parcio a Theithio i'r de o Westy Rheola ar gau dros dro, ynghyd ag ardal o flaen y dafarn. Yn ogystal, bydd yna oleuadau traffig dwyffordd ar ffordd yr ystad ddiwydiannol am hyd y gwaith a bydd unrhyw fesurau rheoli traffig sydd eu hangen ar Ffordd Rheola ar waith y tu allan i oriau gwaith. Bydd angen cau ffordd yr ystad ddiwydiannol yn ystod y nos yn achlysurol er mwyn gosod wyneb newydd. Bydd y trefniadau yma'n cael eu rhannu gan y Cyngor.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd a Seilwaith Cyfalaf: “Bydd y gwaith yma i gyflawni Cam Tri o gyfleuster Parcio a Theithio Porth yn sicrhau bod ardal o dir nas defnyddir yn cael ei hailddefnyddio, i greu 50 o leoedd parcio ychwanegol y bydd defnyddwyr yr orsaf reilffordd a Hwb Trafnidiaeth Porth yn eu defnyddio. Mae creu lleoedd parcio ychwanegol mewn gorsafoedd rheilffyrdd yn fuddsoddiad pwysig, wrth i ni annog mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer rhannau o'u teithiau bob dydd – i leihau traffig ar ein ffyrdd, gwella amseroedd teithio, a diogelu'r amgylchedd.
“Agorodd yr hwb trafnidiaeth y llynedd trwy bartneriaeth rhwng y Cyngor a Thrafnidiaeth Cymru, gan fanteisio ar leoliad strategol ardal Porth fel porth i Gwm Rhondda Fach a Chwm Rhondda Fawr. Mae wedi dod â gwasanaethau rheilffordd a bysiau ynghyd mewn un lleoliad, gyda sgriniau ymadael byw ar gyfer y ddau ddull trafnidiaeth – yn ogystal â chreu safle tacsis a chyfleusterau beicio. Bydd y cynllun sydd ar y gweill i greu 50 o leoedd parcio ychwanegol gerllaw yn gwneud yr hwb hyd yn oed yn fwy hygyrch i drigolion lleol a chymudwyr.
“Yn ddiweddar, mae’r Cyngor wedi penodi contractwr i gyflawni’r cynllun, a bydd y gwaith yn dechrau o 19 Hydref. Mae disgwyl iddo ddod i ben yn ystod y flwyddyn ariannol yma. Rydyn ni wedi croesawu cyllid pwysig gan Lywodraeth Cymru, ac mae'r Cyngor wedi sicrhau dros £1.3 miliwn a fydd yn ariannu'r cynllun yn llawn. Hoffen ni roi gwybod i drigolion y bydd ychydig o darfu'n lleol - gyda rhannau o'r cyfleuster parcio a theithio presennol yn cael eu cau dros dro. Bydd goleuadau traffig dros dro yn cael eu defnyddio ar ffordd yr ystad ddiwydiannol, ac mae yna gynlluniau i gau ffyrdd yn y dyfodol yn ystod y nos. Diolch ymlaen llaw i drigolion am eu cydweithrediad.”
Mae rhagor o wybodaeth am fuddsoddiad y Cyngor mewn Priffyrdd a Pheirianneg ar dudalennau gwe ein hymgyrch #TrawsnewidRhCT.
Wedi ei bostio ar 12/10/2026