Skip to main content

Gwasanaeth a Gorymdaith Sul y Cofio Pontypridd

RS

Bydd achlysur blynyddol Sul y Cofio er mwyn coffáu Aelodau o Luoedd Arfog Prydain sydd wedi marw mewn rhyfeloedd a gwrthdaro milwrol ers dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf, yn cael ei gynnal ym Mharc Coffa Ynysangharad, Pontypridd, ddydd Sul 10 Tachwedd. 

Yn unol â'r drefn arferol, mae pobl o bob rhan o Rondda Cynon Taf wedi'u gwahodd i ddod at ei gilydd a thalu teyrnged i’r dynion a'r menywod dewr sydd wedi rhoi eu bywydau wrth wasanaethu eu gwlad.

Mae'r orymdaith yn dechrau am 10.35am ym Mharc Coffa Ynysangharad lle bydd pobl o bob oed oc o amrywiaeth o sefydliadau cymunedol a milwrol yn ffurfio ac yn gorymdeithio i'r Gofeb Ryfel. Yma, bydd gwasanaeth yn cael ei gynnal dan arweiniad y Parchedig Charlotte Rushton o Eglwys Santes Catrin, Pontypridd, am 11am. Mae'r gwasanaeth yn cynnig cyfle i bawb ymuno mewn gweddi ac yn cynnwys cyfnod o dawelwch am ddwy funud i fyfyrio a chofio.

Mae'r achlysur yma'n cael ei gynnal mewn partneriaeth â Chyngor Tref Pontypridd ac mae'n gyfle i'r Cyngor a'i gymunedau ategu ei gefnogaeth i holl aelodau Cymuned y Lluoedd Arfog, y rhai sydd yn gwasanaethu a’r rhai sydd wedi ymddeol. Mae gan Rondda Cynon Taf hanes balch o werthfawrogi ei lluoedd arfog, yn y gorffennol ac yn y presennol, ac mae ei Chyfamod Lluoedd Arfog yn cefnogi ein Cymuned Lluoedd Arfog yn rhagweithiol. 

Mae manylion Cyfamod y Lluoedd Arfog, syn cynnwys gwasanaeth cyngor i gyn-filwyr am ddim, Cronfa Grant y Cyfamod a gwybodaeth mewn perthynas â chynllun Gostyngiadau'r Lluoedd Arfog am ddim, i'w gweld yma

Mae Carfan Lluoedd Arfog Rhondda Cynon Taf yn gweithio gyda Chomisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad ac Elusen Valley Veterans i gefnogi glanhau beddau rhyfel mewn mynwentydd ledled y fwrdeistref sirol. Mae croeso i wirfoddolwyr newydd. Am ragor o wybodaeth mewn perthynas â hyn, cysylltwch ag Elusen Valley Veterans ar www.valleyveterans.org

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog: “Mae Sul y Cofio yn gyfle pwysig i ni ddod at ein gilydd fel cymuned i anrhydeddu a chofio’r dynion a’r menywod dewr a wnaeth yr aberth fwyaf wrth wasanaethu eu gwlad. Rydyn ni'n falch o gynnal yr achlysur blynyddol yma ym Mhontypridd, lle mae modd i drigolion, cyn-filwyr, personél sy'n gwasanaethu, cadetiaid a grwpiau cymunedol uno mewn myfyrdod, diolchgarwch a pharch. Rwy'n annog unrhyw un sy'n gallu mynychu i ymuno â ni wrth i ni dalu teyrnged i'r rhai a roddodd gymaint, ac ailddatgan ein cefnogaeth barhaus i aelodau cymuned y Lluoedd Arfog, yn y gorffennol a'r presennol. Bydd sefydliadau lleol a chynghorau tref a chymuned ledled Rhondda Cynon Taf hefyd yn cynnal gwasanaethau ac achlysuron coffa, gan roi cyfleoedd pellach i bobl nodi'r diwrnod arwyddocaol yma yn eu cymunedau eu hunain.”

Wedi ei bostio ar 12/10/2026