Skip to main content

Lansio Cynghrair Dynion yn Erbyn Cam-drin Domestig yn Rhondda Cynon Taf

Mae Cynghrair newydd wedi'i lansio yn Rhondda Cynon Taf i annog dynion a bechgyn i ddod yn gynghreiriaid gweithredol wrth atal cam-drin domestig ac wrth greu cymunedau mwy diogel.

Mae Cynghrair Dynion yn Erbyn Cam-drin Domestig yn dwyn ynghyd unigolion, sefydliadau, gweithleoedd a grwpiau cymunedol sydd wedi ymrwymo i herio agweddau ac ymddygiadau niweidiol, hyrwyddo perthnasoedd iach a pharchus, a'i gwneud yn glir na fydd cam-drin domestig yn cael ei oddef.

Amcangyfrifir bod 3.8 miliwn o bobl yng Nghymru a Lloegr wedi profi cam-drin domestig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a bod tua 1 o bob 4 oedolyn wedi profi cam-drin domestig ers iddyn nhw droi'n 16 oed.*

Mae modd i gam-drin domestig effeithio ar unrhyw un, ond mae tystiolaeth yn dangos mai dynion yw'r gyfran fwyaf o droseddwyr. Fodd bynnag, nid rhoi bai ar bob dyn nac awgrymu bod pob dyn yn rhan o'r broblem yw bwriad y Gynghrair.

Mae'r Gynghrair yn cydnabod bod modd i ddynion a bechgyn fod yn rhan o'r ateb.

Dydy'r rhan fwyaf o ddynion ddim yn goddef cam-drin a dydyn nhw ddim eisiau i'r menywod a'r merched yn eu bywydau brofi trais, teimlo ofn nac wynebu ymddygiad gormesol. Nod y Gynghrair yw rhoi rôl gadarnhaol a gweladwy i ddynion wrth atal cam-drin drwy eu hannog i godi eu llais, herio ymddygiad annerbyniol a hyrwyddo cydraddoldeb a pharch.

Mae hefyd yn cydnabod pwysigrwydd ymgysylltu â bechgyn a dynion ifainc. Mae’r ymdrech i atal cam-drin domestig yn dechrau yn ystod plentyndod bechgyn ifainc. Mae modd i ni atal cam-drin domestig trwy addysgu pobl ifainc am berthnasoedd a gwrywdod iach.

Drwy ddarparu modelau rôl cadarnhaol a chreu cyfleoedd ar gyfer sgyrsiau gonest, bydd y Gynghrair yn annog bechgyn a dynion ifainc i gydnabod bod modd iddyn nhw ddewis sut maen nhw'n ymddwyn. Mae modd iddyn nhw ddewis parch, herio rhywiaeth a chyfrannu at gymunedau lle mae menywod a merched yn teimlo'n ddiogel.

Cafodd y Gynghrair ei lansio'n swyddogol yng Nghynhadledd Cam-drin Domestig gyntaf Cyngor Rhondda Cynon Taf ar 30 Medi, 2026. Yn ystod y gynhadledd yma, daeth gweithwyr proffesiynol, partneriaid, Aelodau Etholedig ac arweinwyr cymunedol ynghyd i gryfhau'r ymateb ar y cyd i gam-drin domestig, rhannu dysgu a thrafod sut y gall cymunedau gefnogi dioddefwyr a goroeswyr yn well.

Roedd y gynhadledd hefyd yn cynnwys cyflwyniad pwerus gan Ruth Dodsworth OBE, cyflwynwraig ITV a goroeswr cam-drin domestig, a rannodd ei phrofiad personol o gam-drin domestig, gan helpu'r sawl a oedd yn bresennol i ddeall nad oes modd gweld arwyddion cam-drin domestig bob tro.

Siaradodd Ruth am y ffordd y mae modd i ymddygiad gormesol ddatblygu'n raddol a sut mae modd i'r ffiniau rhwng gofal ac ymddygiad gormesol fod yn aneglur. Tynnodd sylw hefyd at rai o'r arwyddion y gallai ffrindiau, perthnasau a chydweithwyr sylwi arnyn nhw, gan gynnwys newidiadau o ran ymddygiad yr unigolyn, a ydyn nhw'n dod yn ynysig, yn ymddangos yn nerfus neu fel bod rhywbeth yn tynnu'u sylw, ac yn ymateb yn ofnus wrth dderbyn galwadau neu negeseuon.

Yn dilyn yr achlysur, cytunodd Ruth i ddod yn llysgennad ar gyfer y Gynghrair Dynion yn Erbyn Cam-drin Domestig, gan helpu i godi ymwybyddiaeth o’i gwaith ac annog rhagor o bobl a sefydliadau i gefnogi ei hamcanion.

Meddai Ruth Dodsworth OBE, Llysgennad y Gynghrair Dynion yn Erbyn Cam-drin Domestig: "Rydw i'n hynod falch o ddod yn llysgennad ar gyfer y Gynghrair Dynion yn Erbyn Cam-drin Domestig ac o gefnogi ei gwaith i annog dynion a bechgyn i ddod yn rhan o'r ateb.

"Mae’n bosibl fydd pobl ddim yn sylweddoli eu bod nhw'n gallu helpu i achub bywyd rhywun sy'n dioddef cam-drin domestig drwy siarad a bod yn barod i wrando.

"Nid yw'r arwyddion bob amser yn amlwg. Gall cam-drin domestig ddechrau gyda chwestiynau ynghylch ble mae rhywun wedi bod neu â phwy maen nhw wedi siarad, cyn datblygu'n raddol i sefyllfa lle mae'r unigolyn wedi'u hynysu neu'n wynebu rheolaeth ariannol, ymddygiad gorfodaethol neu gam-drin corfforol.

“Os yw eich greddf yn dweud wrthych chi nad yw rhywbeth yn iawn, mae'n bwysig peidio â'i anwybyddu. Mae gwneud i'r unigolyn deimlo'n ddiogel, gofyn iddyn nhw'n ofalus a ydyn nhw'n iawn a dangos bod cymorth ar gael iddyn nhw'n gam cyntaf pwysig.

“Mae'n bosibl na fydd y person yn barod i siarad na chydnabod beth sy'n digwydd iddyn nhw. Mae'n bwysig eu bod nhw'n gwybod bod rhywun yno ar eu cyfer nhw a bod cymorth ar gael.

“Dydy cam-drin domestig ddim yn dod i ben pan fydd troseddwr yn cael ei arestio neu pan fydd perthynas yn dod i ben. Gall y trawma barhau am flynyddoedd lawer. Os nad ydyn ni'n parhau i gael y sgyrsiau yma a gweithio gyda'n gilydd i herio cam-drin domestig, fyddwn ni ddim yn gweld unrhyw newid.

"Drwy'r Gynghrair yma, rwy'n gobeithio y bydd modd i ni annog rhagor o ddynion i godi'u llais, herio ymddygiad niweidiol, sefyll ochr yn ochr â menywod a goroeswyr a gweithredu'n gynghreiriaid gweithredol a sicrhau newid."

Nodau'r Gynghrair:

  • Annog dynion i ddod yn gynghreiriaid gweithredol er mwyn atal cam-drin domestig.
  • Herio agweddau, ymddygiadau a normau cymdeithasol niweidiol sy'n galluogi cam-driniaeth.
  • Hyrwyddo perthnasoedd iach, parchus a chyfartal.          
  • Codi ymwybyddiaeth o gam-drin domestig a'i effaith ar unigolion, teuluoedd a chymunedau.  
  • Annog dynion i godi'u llais, cymryd cyfrifoldeb a chefnogi newid diwylliannol cadarnhaol.
  • Cynnwys dynion a bechgyn mewn sgyrsiau am barch, cydraddoldeb a pherthnasoedd iach.
  • Creu cymunedau mwy diogel drwy atal, addysgu ac eirioli.
  • Cyfleu profiadau a lleisiau menywod a goroeswyr.

Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Cymunedau, Diwylliant a Hamdden: “Mae tua un o bob pedwar oedolyn wedi wynebu cam-drin domestig ers iddyn nhw droi'n 16 oed. Mae'r ffigur yma'n cynrychioli'r dioddefwyr, goroeswyr, teuluoedd a chymunedau cyfan sy'n byw gydag effeithiau dinistriol a pharhaol cam-drin domestig.

“Bydd y ffigur yma'n parhau i gynyddu oni bai ein bod ni'n barod i greu newid a mynd i’r afael â’r agweddau a’r ymddygiadau sy’n caniatáu i gam-drin barhau.

“Nid rhoi'r bai ar ddynion yw nod y Gynghrair Dynion yn Erbyn Cam-drin Domestig. Mae'n ceisio cydnabod y cyfrifoldeb pwysig sydd gan ddynion a rhoi cyfle iddyn nhw ddod yn rhan o'r ateb.

“Nid yw'r mwyafrif helaeth o ddynion eisiau gweld y menywod a'r merched yn eu bywydau yn profi trais, ofn nac ymddygiad gormesol. Rydyn ni am sicrhau bod gan y dynion yma rôl gadarnhaol a gweladwy drwy'u hannog nhw i godi'u llais, herio ymddygiad niweidiol a siarad â dynion a bechgyn eraill am barch a chydraddoldeb.

“Bechgyn heddiw yw dynion yfory. Drwy ddarparu modelau rôl cadarnhaol ac addysgu pobl ifainc am berthnasoedd iach, mae modd i ni helpu i atal ymddygiad camdriniol rhag dod yn ymddygiad sy'n cael ei ystyried yn normal.

“Mae'r gynhadledd yma'n cynrychioli'r man cychwyn. Ein huchelgais ni yw bod y Gynghrair yn helpu i greu diwylliant lle mae dynion yn herio camdriniaeth, yn sefyll ochr yn ochr â menywod a goroeswyr, ac yn esiampl o ymddygiad iach a pharchus ar gyfer bechgyn a dynion ifainc."

Rydyn ni'n annog unigolion, gweithleoedd, grwpiau cymunedol a sefydliadau i ymrwymo i gefnogi'r Gynghrair.

Drwy ymuno â'r Gynghrair, bydd gofyn iddyn nhw gefnogi egwyddorion y Gynghrair ac ystyried camau gweithredu ymarferol y mae modd eu rhoi ar waith, gan gynnwys:

  • Enwebu hyrwyddwr yn y gweithle neu’r gymuned.
  • Codi ymwybyddiaeth drwy negeseuon, ymgyrchoedd ac achlysuron.
  • Annog hyfforddiant ymwybyddiaeth o gam-drin domestig ymhlith staff a gwirfoddolwyr.
  • Herio ymddygiadau ac agweddau amhriodol pan fyddan nhw'n codi.
  • Hyrwyddo gwasanaethau cymorth i ddioddefwyr a goroeswyr.
  • Cynnwys dynion a bechgyn mewn sgyrsiau cadarnhaol am barch a chydraddoldeb.
  • Gweithio ar y cyd i gyflawni gweledigaeth a rennir o gymunedau sy'n rhydd rhag cam-driniaeth.

Nod y Gynghrair yw sefyll ochr yn ochr â menywod a goroeswyr, gan roi cyfle iddyn nhw drafod eu profiadau a chydnabod bod gan bob un ohonom ni gyfrifoldeb i atal cam-drin domestig.

Gyda'n gilydd, mae modd i bobl a sefydliadau ledled Rhondda Cynon Taf herio cam-drin, cefnogi goroeswyr a helpu i greu dyfodol mwy diogel i fenywod a merched, ac felly i bawb.

Gall unigolion a sefydliadau hefyd fynegi diddordeb mewn dod yn rhan o'r Gynghrair drwy e-bostio: DynionynerbynCam-drinDomestig@rctcbc.gov.uk

Os ydych chi'n profi cam-drin domestig, neu'n poeni am rywun arall, dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Mae cymorth ar gael i chi. Ewch i https://www.rctcbc.gov.uk/cam-drinynycartref

*Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Crime Survey for England and Wales: Domestic abuse prevalence and trends, England and Wales, year ending March 2025, cyhoeddwyd ar 26 Tachwedd 2025.

Wedi ei bostio ar 13/10/2026