Ysgol Gynradd Cwm Clydach yw'r ysgol gyntaf yn Rhondda Cynon Taf i ennill Statws Aur Ysgolion sy’n Cefnogi'r Lluoedd Arfog Cymru gan Cefnogi Plant Milwyr mewn Addysg Cymru (SSCE Cymru), sy'n cydnabod ei chymorth rhagorol i blant y Lluoedd Arfog a'u teuluoedd.
Roedd yr ysgol eisoes wedi ennill Statws Efydd ym mis Mehefin 2022 a Statws Arian ym mis Hydref 2023. Ar ôl llwyddo i gadw ei Statws Arian ym mis Mai 2026, mae'r ysgol bellach wedi symud ymlaen i'r lefel cydnabyddiaeth uchaf sydd ar gael trwy raglen SSCE Cymru.
Mae Ysgol Gynradd Cwm Clydach yn un o bum ysgol yn Rhondda Cynon Taf sydd wedi derbyn statws Ysgolion sy’n Cefnogi'r Lluoedd Arfog Cymru a'r ddegfed ysgol yng Nghymru i ennill Statws Aur.
Mae cefnogi plant y Lluoedd Arfog a'u teuluoedd wedi bod yn flaenoriaeth allweddol i'r ysgol ers sawl blwyddyn, gyda staff yn gweithio i ddeall ac ymateb i'r profiadau unigryw sy'n gysylltiedig â bywyd teuluol milwrol.
Un enghraifft ddiweddar oedd cefnogi disgybl a oedd wedi dychwelyd i Gymru ar ôl byw yng Nghyprus am bedair blynedd o ganlyniad i gyfnod eu tad yn y fyddin. Rhoddodd y teulu wybod i'r ysgol am eu bwriad i ddychwelyd dros flwyddyn ymlaen llaw, gan ganiatáu i'r staff ddatblygu rhaglen bontio gynhwysfawr.
Yn ystod y cyfnod yma, roedd yr ysgol wedi cynnal cyswllt rheolaidd â'r teulu, ac roedd wedi darparu adnoddau er mwyn helpu'r disgybl i barhau i ddatblygu eu sgiliau iaith Gymraeg tra'r oedden nhw dramor. Roedd y staff hefyd wedi paratoi pecynnau dysgu, wedi trefnu gweithgareddau pontio ac wedi trefnu cyfleoedd i'r disgybl ailgysylltu â ffrindiau cyn dychwelyd i'r ysgol.
Ar ôl i’r disgybl ddychwelyd i’r ysgol, cyflwynodd yr ysgol system gyfeillion a gweithgareddau 'Little Troopers', ochr yn ochr â chymorth lles wedi'i dargedu trwy sesiynau Cynorthwy-ydd Cymorth Llythrennedd Emosiynol (ELSA) a therapi cŵn. Roedd y staff hefyd wedi gweithio’n agos gyda’r teulu i helpu’r disgybl i ailddatblygu perthnasoedd gyda ffrindiau a oedd eisoes yn bodoli, datblygu perthnasoedd newydd ac ymgartrefu’n ôl yn yr ysgol a bywyd lleol.
Mae'r dull personol yma yn rhan o gymorth ehangach sydd wedi'i ymgorffori ledled Ysgol Gynradd Cwm Clydach. Mae teuluoedd y Lluoedd Arfog yn cael eu dwyn ynghyd trwy gyfleoedd rhwydweithio a chymryd rhan mewn achlysuron sy'n gysylltiedig â'r Lluoedd Arfog, gan feithrin ymdeimlad cryf o berthyn ymhlith teuluoedd sydd â phrofiadau tebyg.
Mae plant y Lluoedd Arfog yn cael eu hannog hefyd i rannu a dathlu eu profiadau drwy weithgareddau Mis y Plentyn Milwrol ac maen nhw wedi cynrychioli'r ysgol mewn Achlysuron Coffa lleol dros y tair blynedd diwethaf, gan gryfhau cysylltiadau'r ysgol â chymuned ehangach y Lluoedd Arfog.
Mae cymorth emosiynol ac ymarferol wedi'u targedu yn cael eu darparu trwy raglen y 'Little Troopers', sy'n cael ei darparu gan Gynorthwywyr Cymorth Llythrennedd Emosiynol (ELSAs) hyfforddedig. Mae asesiadau PERMA, Boxall a Thrive hefyd yn helpu'r ysgol i fonitro lles disgyblion a nodi unrhyw gymorth ychwanegol y gallai fod ei angen arnyn nhw.
Mae modelau rôl a llwybrau gyrfa milwrol cadarnhaol hefyd yn cael eu hyrwyddo ar draws pob grŵp blwyddyn trwy'r rhaglen RoModels ddwyieithog, gyda defnydd yr ysgol o'r adnodd yma wedi'i gynnwys mewn astudiaeth achos fideo RoModels yn ddiweddar.
Yn hollbwysig, mae ymrwymiad yr ysgol wedi'i wreiddio yn ei harweinyddiaeth a'i threfniadau llywodraethu. Mae cynrychiolydd pwrpasol o Deuluoedd y Lluoedd Arfog yn aelod o’r Corff Llywodraethu, tra bod llywodraethwyr yn derbyn adroddiadau tymhorol ar ddarpariaeth a chanlyniadau Addysg Plant y Lluoedd Arfog. Mae plant y Lluoedd Arfog hefyd yn cael eu nodi o fewn system gwybodaeth reoli'r ysgol, gan ganiatáu i'w hanghenion, eu cynnydd a'u lles gael eu monitro'n barhaus.
Gyda'i gilydd, mae'r gwaith yma yn dangos y dull ysgol gyfan cynaliadwy sydd wedi helpu Ysgol Gynradd Cwm Clydach i ennill Statws Aur.
Meddai Linsey Owens, Pennaeth Ysgol Gynradd Cwm Clydach: “Rydyn ni wrth ein boddau ein bod ni wedi derbyn y gydnabyddiaeth yma. Mae cefnogi ein plant y Lluoedd Arfog a'u teuluoedd yn rhywbeth yr ydyn ni’n falch iawn ohono, ac mae'n hyfryd gweld ymrwymiad ein staff a chymuned yr ysgol yn cael ei gydnabod yn y modd yma.
“Mae ennill Statws Aur yn adlewyrchu ymrwymiad ysgol gyfan sy’n cynnwys ein staff, llywodraethwyr, disgyblion, teuluoedd a phartneriaid allanol. Rydyn ni'n arbennig o falch o'r adborth cadarnhaol rydyn ni wedi'i dderbyn gan deuluoedd a'r ymdeimlad cryf o gymuned sy'n bodoli i blant y Lluoedd Arfog yn ein hysgol.
“O ddarparu amgylchedd cynnes a chroesawgar i sicrhau bod plant yn teimlo eu bod nhw'n cael eu gweld, eu clywed a’u gwerthfawrogi, mae cefnogi plant y Lluoedd Arfog a’u teuluoedd wedi’i wreiddio ym mhopeth rydyn ni'n ei wneud.
“Diolch i SSCE Cymru am y cymorth a’r arweiniad sydd wedi'u darparu drwy gydol y broses. Rydyn ni'n edrych ymlaen at arddangos ein tystysgrif, ein bathodyn a'n tlws yn ein hysgol, wrth barhau i gryfhau ein cymorth i blant y Lluoedd Arfog a chymuned ehangach y Lluoedd Arfog.”
Meddai cynrychiolwyr SSCE Cymru: “Mae Ysgol Gynradd Cwm Clydach yn eiriolwr mawr dros blant y Lluoedd Arfog a’u teuluoedd. Mae'r ymrwymiad yma bellach wedi cael ei gydnabod ymhellach trwy ennill Statws Aur Ysgol sy’n Cefnogi'r Lluoedd Arfog Cymru, gan ddathlu ymroddiad yr ysgol i greu amgylchedd croesawgar, cefnogol a chynhwysol i ddisgyblion y Lluoedd Arfog a'u teuluoedd.
“Mae’r statws yn adlewyrchu ymdrechion parhaus yr ysgol i ddeall ac ymateb i brofiadau unigryw plant y Lluoedd Arfog, gan sicrhau bod modd iddyn nhw ffynnu’n academaidd, yn gymdeithasol ac yn emosiynol.
“Llongyfarchiadau i’r staff, y disgyblion a chymuned ehangach yr ysgol ar y gydnabyddiaeth haeddiannol yma.”
Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber BEM, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog: “Mae ennill Statws Aur Ysgolion sy’n Cefnogi'r Lluoedd Arfog Cymru yn gamp wych i Ysgol Gynradd Cwm Clydach, ac yn un y dylai cymuned gyfan yr ysgol fod yn hynod falch ohoni.
“Gall plant y Lluoedd Arfog brofi heriau unigryw yn rhan o fywyd teuluol milwrol, yn enwedig yn ystod cyfnodau o fyw oddi cartref, cael eu hadleoli a phontio. Mae'r cymorth sy'n cael ei ddarparu gan yr ysgol yn dangos ymrwymiad go iawn i sicrhau bod plant yn teimlo eu bod yn cael croeso, yn cael eu cefnogi ac yn gallu ffynnu.
“A minnau’n Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, rydw i wrth fy modd yn gweld Ysgol Gynradd Cwm Clydach yn dod yr ysgol gyntaf yn Rhondda Cynon Taf i ennill Statws Aur. Dyma longyfarch ei disgyblion, teuluoedd, staff, llywodraethwyr, partneriaid a phawb a oedd yn rhan o sicrhau'r gydnabyddiaeth wych yma.”
Mae Cefnogi Plant Milwyr mewn Addysg Cymru (SSCE Cymru) yn rhaglen sy'n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, ac sy'n cael ei rheoli gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Mae SSCE Cymru yn gweithio gyda phob un o'r 22 awdurdod lleol ledled Cymru i wella dealltwriaeth ysgolion a lleoliadau addysgol eraill o sut y mae modd iddyn nhw gynnig cymorth i blant y Lluoedd Arfog sy'n byw yng Nghymru. Mae SSCE Cymru wedi creu ystod o adnoddau, hyfforddiant a chyllid, wedi'u cydlynu gan garfan sy'n gweithio gydag ysgolion i ennill eu Statws Ysgolion sy’n Cefnogi'r Lluoedd Arfog Cymru er mwyn ymgorffori cymorth i blant y Lluoedd Arfog yng Nghymru.
Mae rhaglen Ysgolion sy’n Cefnogi'r Lluoedd Arfog Cymru yn cefnogi ysgolion i ymgorffori arferion da, creu amgylcheddau cadarnhaol lle mae modd i blant y Lluoedd Arfog rannu eu profiadau a chryfhau ymgysylltiad â chymuned y Lluoedd Arfog.
Dysgwch ragor: https://sscecymru.co.uk/cy/
Wedi ei bostio ar 14/10/2026