Skip to main content

Cyfarwyddwr Cwmni Ceir yn Euog o Werthu Cerbyd Peryglus

Mae cyfarwyddwr cwmni ceir yn Rhondda Cynon Taf wedi derbyn dirwy am werthu cerbyd peryglus a pheryglu bywyd o bosib. 

Cafodd Mr Tahir Karim, cyfarwyddwr Aberdare Motors Ltd, ei ddal a'i ddwyn i gyfrif am gamarwain cwsmeriaid a chyflwyno cerbyd peryglus ar gyfer ei werthu.

Ym mis Hydref 2023, cyflenwodd a danfonodd Mr Karim y Nissan Micra peryglus oedd wedi'i ddisgrifio yn anghywir i gartref cwsmer.

Pan aeth y cwsmer ar daith fer gyntaf yn y car 'newydd', ymddangosodd golau rhybudd y syth, ac wedi aildanio'r cerbyd roedd y golau wedi diflannu.

Fodd bynnag, yn ddiweddarach yn ystod yr un diwrnod, aeth y cwsmer am daith fer arall pan wnaeth nhw sylwi bod gyda'r cerbyd broblem o ran mynd yn gyflymach na 30mya, yn gwneud sŵn curo ac roedd y brêciau yn ymddangos fel petaen nhw'n ymateb yn araf. Daeth golau rhybudd yr injan a golau rhybudd tymheredd y car ymlaen hanner ffordd i fyny bryn. Dechreuodd fwg ddod allan o'r cerbyd cyn iddo ddiffodd a dechrau rholio yn ei ôl; canfyddodd y cwsmer nad oedd y brêc troed yn stopio'r cerbyd felly roedd rhaid codi'r brêc llaw. Roedd y cerbyd yn rhwystro'r ffordd yn ystod adeg brysuraf y dydd felly roedd rhaid galw'r heddlu. Dywedodd yr heddlu y dylai’r cwsmer gysylltu ag Aberdare Motors Ltd.

Cysylltodd y cwsmer ag Aberdare Motors Ltd gan siarad â'r cyfarwyddwr, Tahir Karim. Dywedodd wrth y cwsmer i agor bonet y car gan wasgu'r ddau sbring metel er mwyn aildanio'r batri. Dechreuodd y car, ond fe ddiffoddodd eto. O ganlyniad, dywedodd Mr Karim y byddai'n ffonio'r cwsmer unwaith yn rhagor y diwrnod canlynol. Roedd y cwsmer yn siomedig iawn gan roi gwybod i Mr Karim nad oedd eisiau cadw'r car, ond daeth â'r alwad i ben. Gyda chymorth yr heddlu ac aelodau'r cyhoedd cafodd y car ei rolio i faes parcio'r orsaf drenau.

Roedd y car 'newydd' wedi gwneud llai nag 20 milltir ers iddo gael ei ddanfon a byddai wedi gallu achosi damwain difrifol. Cafodd y car ei archwilio gan lygad-dyst arbenigol ym maes parcio'r orsaf drenau, a chanfyddwyd bod rhan isaf sbring troellog croeslath crogiant blaen ochr allanol y cerbyd wedi torri gan olygu bod y cerbyd yn anaddas i'w ddefnyddio ar y ffyrdd a'i fod mewn cyflwr peryglus.

Yn ogystal â hyn, methodd y cwmni â darparu unrhyw wybodaeth cyn arwyddo'r contract i'r cwsmer mewn perthynas â hawliau o ran canslo. Mae hyn yn ofyniad yn unol â Rheoliadau Contractau Cwsmer (Gwybodaeth, Cansladau a Ffioedd Ychwanegol) 2013. Canfyddwyd hefyd fod gyda'r cerbyd oedd wedi'i gyflenwi gyfanswm milltiroedd oedd wedi'u teithio a maint injan wahanol i'r hynny oedd wedi'i hysbysebu ar-lein. Roedd hyn wedi arwain at weithredoedd camarweiniol yn unol â Rheoliadau Diogelu Cwsmeriaid rhag Masnachu Annheg 2008.

Er hyn i gyd, methodd Mr Karim â chyrraedd cytundeb gyda'r cwsmer gan olygu nad oedd dewis arall ond cysylltu â Chyngor ar Bopeth, a wnaeth atgyfeirio'r pryderon o ran diogelwch at Adran Safonau Masnach Cyngor Rhondda Cynon Taf.

Pan gafodd Swyddogion Safonau Masnach y Cyngor wybod am y broblem, cafodd Mr Karim, Cyfarwyddwr Aberdare Motors Ltd wahoddiad i fynychu cyfweliad er mwyn trafod y pryderon oedd wedi'u codi. Gwrthododd Mr Karim y gwahoddiad i fynychu'r cyfweliad yn ogystal â gwrthod gweithio gyda'r garfan mewn perthynas â'r problemau.

Gorchmynwyd Mr Karim i ymddangos o flaen Llys Ynadon Merthyr Tudful lle blediodd yn bersonol yn euog i DRI chyhuddiad - gyda DAU ohonyn nhw'n groes i Reoliadau Diogelu Cwsmeriaid rhag Masnachu Anheg 2008 mewn perthynas â disgrifiadau roedd Mr Karim wedi'u nodi ar gyfer cerbyd, oedd yn rhai ffug. Y trydydd cyhuddiad oedd mynd yn groes i Reoliadau Diogelwch Cynnyrch Cyffredinol 2025, fel y'i diwygiwyd gan Reoliad 12 Rheoliadau Diogelwch Cynnyrch a Metroleg a.y.b (Diwygiad a.y.b) (Gadael yr UE) 2019 AC yn rhinwedd Rheoliad 31(2) Rheoliadau Diogelwch Cynnyrch Cyffredinol am fod Mr Tahir Karim yn euog o'r drosedd yna am ei fod wedi'i gyflawni yn unol â'i ganiatâd, ymoddefiad neu esgeulustod.

Derbyniodd Mr Karim ddirwy gwerth cyfanswm o £799 - Dirwy o £582 yn ogystal â Gordal Dioddefwr o £233.

Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau:

"Dyma achos difrifol, fyddai wedi gallu arwain at ganlyniadau trychinebus. Yn ffodus, yn yr achos yma, ni chafodd unrhyw un eu brifo, ond mae hyn o ganlyniad i weithredoedd sydyn y cwsmer a'r ffaith mai ond taith fer oedd wedi'i chyflawni – pe byddai hyn wedi digwydd ar draffordd efallai y byddai rhywbeth llawer mwy difrifol wedi digwydd. Mae gyda modurdai ceir ddyletswydd enfawr i sicrhau bod y ceir sy'n cael eu rhoi ar werth yn ddiogel, yn addas i'w defnyddio ac yn cael eu disgrifio yn gywir. Yn yr achos yma, nid oedd Mr Karim wedi sicrhau dim o'r rhain. 

"Mae'n hanfodol bwysig fod unrhyw un sy'n berchen ar fusnes, neu’n cynnal un, yn ymgyfarwyddo â deddfwriaeth mewn perthynas â defnyddwyr ac yn gweithredu mewn modd cyfrifol.

"Rwy'n falch bod yr ynadon wedi cydnabod y troseddau yma, a bod y cyfarwyddwr wedi'i ddwyn i gyfrif am ei weithredoedd.

"Bydd ein carfan safonau masnach yn ymchwilio i bryderon gan y cyhoedd bob tro ac maen hi’n barod i helpu cwsmeriaid dderbyn cyfiawnder – yn y gobaith o atal unrhyw broblemau eraill rhag codi."

Am ragor o wybodaeth yn ymwneud â Safonau Masnach, Pwysau a Mesurau a Chyngor i Ddefnyddwyr, ewch i www.rctcbc.gov.uk/SafonauMasnach

Mae modd i chi roi gwybod i ni am Weithgarwch Anghyfreithlon yn Rhondda Cynon Taf gan ddefnyddio'r ffurflen ar-lein

Wedi ei bostio ar 27/03/2025