Mae Rhondda Cynon Taf yn cael ei adnabod fel un o'r ardaloedd mwyaf arwyddocaol o ran treftadaeth diwyllianol, hanesyddol a diwydiannol yn y byd. Nod ein strategaeth bum mlynedd newydd yw dathlu, amddiffyn a datblygu ein treftadaeth unigryw.
Mae Strategaeth Dreftadaeth Rhondda Cynon Taf pum mlynedd yn dathlu ein hanes a'n treftadaeth, ein diwydiant, llwyddiannau yn y byd chwaraeon, trigolion ysbrydoledig, adeiladau adnabyddus, y Gymraeg, traddodiadau a chymunedau unigryw.
Nod y strategaeth yw ysbrydoli trigolion, grwpiau, busnesau, y sector gwirfoddoli ac eraill i weithio mewn partneriaeth â Chyngor Rhondda Cynon Taf, ac yn gobeithio eu hannog i chwarae rhan allweddol wrth ddiogelu ein treftadaeth wrth weithio mewn ffordd cynhwysol a hygyrch ar gyfer y genhedlaeth nesaf.
Roedd dros 900 o drigolion yn rhan o ddatlbygu'r strategaeth ddiolch i achlysuron ymghynghori ac arolwg ar-lein. Yn dilyn yr adborth, rydyn ni wedi cydnabod y pedwar amcan strategol:
- Sicrhau diogelwch ein treftadaeth trwy sicrhau gwarchodaeth o'r safon uchaf wrth reoli casgliadau ac archifau, gweithio fel partneriaeth i warchod a diogelu adeiladau, lleoliadau a tirweddau hanesyddol, a chadw cofnod o'n hanes byw ar gyfer y dyfodol.
- Eirioli dros ein treftadaeth gyffredin a hyrwyddo ein rôl fel ceidwaid treftadaeth a chyfleu pwysigrwydd hanfodol ein treftadaeth, gan gynnwys y Gymraeg, i bawb.
- Gwerthfawrogi ein treftadaeth gyffredin – mae treftadaeth Rhondda Cynon Taf yn cael ei chydnabod fel un sydd ag arwyddocâd byd-eang. Rydym ni eisiau cynyddu dealltwriaeth o'r dreftadaeth gyfoethog yma, gan gynnwys y Gymraeg, drwy annog ymchwil a chefnogi gweithgareddau sy'n seiliedig ar dreftadaeth.
- Ymgysylltu cymunedau â’n treftadaeth gyffredin – trigolion, ymwelwyr, cymunedau a phartneriaid i ymuno â mentrau treftadaeth gan gynnwys drwy’r Gymraeg, i hybu iechyd a llesiant a diogelu ein hanes a'n treftadaeth.
Mae 'S.A.V.E' yn cynnig gweledigaeth gadarnhaol i ni ynglyn â'n dreftadaeth. Mae'n cynnig llwybr i'w rheoli'n effeithiol. Mae'r cynllun gweithredu sy'n rhan o'r strategaeth yn canolbwyntio ar adfywio, lles cymunedol, yr economi, twristiaeth a datblygu sgiliau'r Gymraeg.
Cafodd Strategaeth Dreftadaeth Rhondda Cynon Taf ei lawnsio am Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda ar Dydd Gwener, Mawrth 7
Mae modd lawrlwytho copi llawn o'r ddogfen yma.
Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Threftadaeth: "Mae'r strategaeth gyffrous yma'n taflu goleuni ar ein treftadaeth. Ein diwydiant byd enwog, arwyr y byd chwaraeon, sêr cerddoriaeth, dyfeiswyr ac arloeswyr. Mae'n amddiffyn ein hadeiladau, tirweddau ac arteffactau sy'n gartref i atgofion ein corau a glowyr.
"Mae'n nodi sut mae modd i ni weithio gyda'n gilydd, gan ddefnyddio treftadaeth i ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol yn ddiwylliannol, yn gymdeithasol ac yn economaidd. Trwy wirfoddoli, ymgysylltu a chydweithio, mae modd i ni ymchwilio, casglu, diogelu ac arddangos treftadaeth er budd addysg, twristiaeth, cymunedau, busnesau a'n diwylliant am flynyddoedd i ddod.
"Cafodd y strategaeth ei chwblhau wrth i draddodiad hynafol Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol, ddychwelyd i'w man geni, Pontypridd. Canhaliwyd yr Eisteddfod gyntaf erioed ym Mhontypridd yn 1861 - yn y Maen Chwyf cynhaliodd Iolo Morgannwg seremonïau barddol yn y blynyddoedd cyn hynny. Mae modd ymweld â'r lleoliad hyd heddiw.
"Dyma oedd "yr Eisteddfod orau erioed" diolch i weledigaeth y Cyngor i gynnal Eisteddfod 'dinesig' wedi'i amgylchynu â siopau a bwytai. Am y tro cyntaf yn hanes yr Eisteddfod roedd modd nofio yn yr awyr agored ar y maes gan wneud y mwyaf o Lido Pontypridd. Roedd hefyd trafnidiaeth fodern i sicrhau bod modd i ymwelwyr ymweld ag Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda".
"Roedd Eisteddfod 2024 yn arddangos yn glir yr hyn mae'r Strategaeth Dreftadaeth yn ceisio'i gyflawni. Dyma oedd ffordd i ddathlu'n hanes wrth weithio â'n gilydd i gyfleu'r stori mewn ffyrdd newydd er mwyn cynyddu hygyrchedd, cynhwysiant ac apêl y digwyddiad."
Nodiadau i'r Golygyddion
Cafodd y Strategaeth Dreftadaeth ei hysgrifennu gan Wasanaeth Treftadaeth Rhondda Cynon Taf, gan ddefnyddio cyllid y Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae'r Gwasanaeth Treftadaeth wedi cwblhau gwaith, gan gynnwys y prosiect Diwigio Delweddau, a dderbyniodd £250,000 gan y Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i alluogi gweithgareddau, ymgynghoriad a chreu'r Strategaeth Dreftadaeth dros dair blynedd, gan roi treftadaeth a diwylliant yn ganolog i weledigaeth y dyfodol ar gyfer Rhondda Cynon Taf.
Wedi'i hysgrifennu yn dilyn ymgysylltu ac ymgynghori â ffocws ar 'bobl' a 'llefydd', nod y Strategaeth Dreftadaeth yw: “Dathlu a gwerthfawrogi treftadaeth gyfoethog Rhondda Cynon Taf trwy arddangos ein hetifeddiaeth ddiwylliannol, cydnabod y bobl a’r straeon sy’n llunio ein hanes a chadw ein hadeiladau, ein casgliadau a’n hasedau ffisegol ar gyfer y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol.”
Cafodd y Strategaeth Dreftadaeth newydd ei datblygu yn 2024, y flwyddyn bu Rhondda Cynon Taf yn cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol, gŵyl ddiwylliannol deithiol fwyaf a hynaf Ewrop.
Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn rhan unigryw o dreftadaeth Cymru a RhCT, lle cynhaliwyd yr Eisteddfod fodern gyntaf ym 1861.
Mae gan y Fwrdeistref Sirol lawer i’w gynnig i’w thrigolion ac ymwelwyr, a rhodd yr Eisteddfod Genedlaethol gyfle i ni arddangos ein pobl a’n lleoedd – agweddau allweddol ar ein treftadaeth – a defnyddio ei hetifeddiaeth i ysbrydoli ymgysylltiad a chefnogi ei uchelgais o ran y Strategaeth Hybu’r Gymraeg.
Mae modd i dreftadaeth ddarparu persbectif hanesyddol a chynnig dealltwriaeth i ni o bwy ydym ni heddiw a'n lle yn y byd. Nod y strategaeth yw rhoi cyd-destun inni o ble y daethom ni, yn ogystal ag ysgogi ein gobeithion a’n dyheadau ar gyfer y dyfodol, ac atgyfnerthu ein balchder yn ein bro.
Pobl a chymunedau, straeon a thraddodiadau, diwylliant a'r Gymraeg, yw ein treftadaeth.
Mae’r strategaeth yn cydnabod sut mae ein hamgylchedd adeiledig hanesyddol yn adnodd pwerus ar gyfer datblygu economaidd, adfywio, cefnogi menter a busnes, twristiaeth, a denu pobl i fyw, gweithio, ymweld a buddsoddi yn y Fwrdeistref Sirol.
Gwybodaeth am Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol
Gan ddefnyddio cyllid gan y Loteri Genedlaethol, rydyn ni'n ysbrydoli, ac yn creu adnoddau mewn perthynas â threftadaeth y DU er mwyn creu newidiadau cadarnhaol a pharhaus i bobl a chymunedau, nawr ac yn y dyfodol.
https://www.heritagefund.org.uk/cy/node/107838
Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae mwy na £30 miliwn yn mynd tuag at achosion da ledled y DU bob wythnos.
Dilynwch @HeritageFundCYM ar Twitter, Facebook ac Instagram gan ddefnyddio #CronfaDreftadaethyLoteriGenedlaethol
Wedi ei bostio ar 11/03/2025