Mae'r gwanwyn wedi cyrraedd, sy'n meddwl un peth yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda - mae Bwni'r Pasg ar ei ffordd!
Mae achlysur poblogaidd Ŵy-a-sbri y Pasg yn dychwelyd yn ystod gwyliau ysgol y Pasg ar 24 a 25 Ebrill ac mae llwyth o hwyl wedi'i threfnu i ddathlu'r Pasg. Mae Picnic y Tedis yn mynd ar daith eleni a bydd hefyd yn rhan o'r achlysur!
Ymunwch â ni am lwyth o weithgareddau, gan gynnwys:
- Helfa wyau - ceisiwch ddod o hyd i holl wyau anferth Bwni'r Pasg sydd wedi'u cuddio o amgylch yr amgueddfa. Ar ôl i chi ddod o hyd iddyn nhw, ewch i gasglu eich wy Pasg!
- Cartref tanddaearol y Bwni - ewch dan ddaear gynifer o weithiau ag y dymunwch a cherdded trwy gartref tanddaearol Bwni'r Pasg i weld beth allwch chi ddod o hyd iddo.
- Mae cost reidiau ffair bach i blant wedi'i chynnwys yn y tocyn.
- Crefftau'r Pasg - ewch i'r gornel celf a chrefft a bod yn greadigol!
- Fferm Anwesu Anifeiliaid - eleni, mae Bwni'r Pasg wedi dod â rhai o'i ffrindiau i gymryd rhan yn yr hwyl! Ewch ati i anwesu anifeiliaid ciwt a fflwfflyd.
- Picnic y Tedis = gweithgareddau i blant a stondinau gwybodaeth i rieni a gwarcheidwaid.
Mae tocynnau Ŵy-a-sbri y Pasg yn costio £12.50 fesul plentyn a £3.50 fesul oedolyn. Mae hefyd ffi archebu o £1 fesul archeb - nid fesul tocyn. Bydd tair sesiwn ar gael bob dydd, sef 10am-12pm, 12.30pm-2.30pm a 3pm-5pm.
Mae tocynnau ar werth yma - neidiwch draw i brynu tocyn cyn iddyn nhw fynd!
Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau:
Mae Ŵy-a-sbri y Pasg yn achlysur gwych i’r plant, ac eleni, mae ychwanegu Picnic y Tedis yn meddwl bod gan yr achlysur fwy o weithgareddau nag erioed. Mae'r achlysur yn digwydd yn ystod gwyliau'r ysgol felly mae'n ffordd berffaith o ddiddanu'r plant - ac mae'r oedolion bob amser yn cael llawer o hwyl hefyd. Bydd gwybodaeth hefyd i rieni a gwarcheidwaid yn ardal Picnic y Tedis, gan gynnwys manylion am wneud cais am leoedd mewn ysgolion. Mae Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn atyniad twristiaid allweddol yn Rhondda Cynon Taf ac mae'r achlysuron yno'n arddangos y lleoliad i bawb sy'n ymweld - mae llawer ohonyn nhw'n dychwelyd dro ar ôl tro i fynd ar y daith, ymweld â'r arddangosfeydd ac wrth gwrs, mwynhau'r achlysuron sy'n cael eu cynnal yno drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys Sioe Ceir Clasur, Rhialtwch Calan Gaeaf ac Ogof Siôn Corn.
Am wybodaeth ynglŷn ag achlysuron yn Rhondda Cynon Taf, ewch i www.rctcbc.gov.uk/achlysuron.
Cadwch lygad ar yr wybodaeth ddiweddaraf ar Facebook trwy ddilyn @rhonddaheritagepark/@rhonddaheritage
Wedi ei bostio ar 13/03/2025