Skip to main content

Ysgol Gynradd Maerdy yn dod â hanes lleol yn fyw

Maerdy March

Mae Ysgol Gynradd Maerdy yn gwneud i hanes lleol ddod yn fyw drwy ail-greu gorymdaith enwog Maerdy. Ddydd Iau, 6 Mawrth, bu disgyblion o Ysgol Gynradd Gymuned Maerdy yn cofio streic y glowyr trwy gynnal gorymdaith goffa o’r ysgol i Bwll Olwyn Maerdy. Mae'r ysgol yn sicrhau bod y plant yn ymwybodol o bwysigrwydd y gymuned lofaol leol a hanes yr ardal.

I nodi 40 mlynedd ers i lowyr hanesyddol Maerdy orymdeithio yn ôl i’w gwaith ar ôl bod ar streic am flwyddyn, mae disgyblion o flynyddoedd 1-6 wedi bod yn dysgu am streic y glowyr a bellach wedi ail-greu’r daith gerdded enwog yn ôl i’r gwaith a gynhaliwyd ym 1985. Ymunodd rhai o’r Glowyr a gynhaliodd yr orymdaith wreiddiol â’r disgyblion, a daethon nhw â’r faner wreiddiol gyda nhw.

Dywedodd Helen Gregory, Pennaeth Ysgol Gynradd Maerdy: “Yn Ysgol Gynradd Maerdy, rydym wedi ymrwymo i wneud i hanes lleol ddod yn fyw i’n dysgwyr a sicrhau bod ein plant yn ymwybodol o bwysigrwydd cymuned lofaol Maerdy. I nodi 40 mlynedd ers yr orymdaith, ac i ddod â gwers yn fyw i’r dysgwyr, rydym wedi ail-greu’r orymdaith er anrhydedd i’r glowyr.

“Mae’r plant wedi dysgu gwersi cymunedol lleol gwerthfawr ac wedi cwrdd â phobl ysbrydoledig o’r streic wreiddiol. Fel Cymuned rydym yn falch o nodi’r achlysur hwn fel ysgol ac yn gwerthfawrogi pob cefnogaeth o’r rhai a ymunodd â ni heddiw ar ein gorymdaith goffa.”

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a’r Gymraeg: “Mae’n wych i weld Ysgol Gynradd Maerdy yn dod â’r wers hanesyddol hon yn fyw i’r disgyblion. Mae streic y glowyr yn ddarn pwysig o hanes yr ardal, ac mae gweld y disgyblion yn ail-greu’r daith enwog yn ôl i’r gwaith, yng nghwmni rhai o’r glowyr a gymerodd ran ar y daith gerdded wreiddiol, yn wych i’w gweld. Rydym yn falch iawn o’r disgyblion ac rwy’n siŵr y bydd y profiad hwn yn gadael argraff barhaol arnyn nhw!”

Wedi ei bostio ar 07/03/2025